MA3900: Cyflwyniad i addysgu Mathemateg mewn ysgol uwchradd
School | Cardiff School of Mathematics |
Department Code | MATHS |
Module Code | MA3900 |
External Subject Code | 100403 |
Number of Credits | 20 |
Level | L6 |
Language of Delivery | Welsh |
Module Leader | Dr Mathew Pugh |
Semester | Autumn Semester |
Academic Year | 2014/5 |
Outline Description of Module
Mi fydd y modiwl yma yn darparu cyflwyniad i fyfyrwyr israddedig i addysgu mathemateg mewn ysgol uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg. Mi fydd myfyrwyr yn datblygu eu dealltwriaeth o addysg mathemateg ac o strwythur y cwricwlwm mathemateg ar lefel cyflwyniadol (israddedig).
On completion of the module a student should be able to
- Gwerthuso a thrafod pwysigrwydd Mathemateg o fewn Addysg Uwchradd.
- Trafod dilyniant a datblygiad rhai syniadau Mathemategol o Addysg Gynradd i Uwchradd.
- Dangos dealltwriaeth o gymhlethdod y proses dysgu a chysylltu eu profiad o ddysgu i syniadau cyfredol o sut mae disgyblion yn dysgu, yn enwedig ynghylch â dysgu Mathemateg.
- Dadansoddi’n feirniadol rhywfaint o bwysigrwydd o arddulliau dysgu a’r syniad o wahaniaethiadau fel strategaeth o ymateb i anghenion dysgu personol.
- Dadansoddi’n feirniadol pwysigrwydd amcanion dysgu a’u perthynas i ddysgu ac addysgu effeithiol.
- Gwerthuso amrediad o gydrannau allweddol mewn cynllun gwers dda, a gallu, gyda chymorth, strwythuro cynllun gwers, gan ystyried amcanion dysgu diffiniedig a rheolaeth o weithgareddau dysgu.
- Gwerthuso sut mae dulliau dysgu rhyngweithiol yn gwella dysgu Mathemateg, a bod yn ymwybodol o’r posibiliadau o gyfathrebiad dilafar yn y dosbarth.
- Disgrifio barn heddiw am brif bwrpas asesu a rhai egwyddorion sy’n hydreiddio ymarferiad da, yn enwedig o fewn Mathemateg, a thrafod a dadansoddi rhai cynlluniau a pholisïau marcio Mathemateg.
- Dadansoddi’n feirniadol sut mae athrawon yn defnyddio polisi ymddygiad yr ysgol i gefnogi eu strategaethau ar gyfer rheoli ymddygiad o fewn y dosbarth.
How the module will be delivered
11 gweithdy dwy awr, lle cyflwynwyd syniadau a theorïau. Mi fydd hefyd pwyslais ar drafodaethau mewn gr?p.
Rhaid i fyfyrwyr sy’n cymryd y modiwl ymgymryd â chyfanswm o 10 diwrnod o leoliad mewn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg lleol cyn cyflwyno eu portffolio terfynol. Mae’r diwrnodau lleoliad yma yn cynnwys un hanner-diwrnod neu ddiwrnod llawn yn ystod pob wythnos o dymor yr Hydref, gydag unrhyw ddyddiau ychwanegol i’w drefnu gan y myfyriwr fel bod y cyfanswm yn hafal i 10 diwrnod llawn.
Disgwylir i bob myfyriwr ymgymryd ag astudiaeth breifat, gan gynnwys darllen o restri darllen penodol.
Skills that will be practised and developed
Sgiliau:
Dadansoddi testunau allweddol mewn perthynas â barn heddiw ar addysg mathemateg, sut mae disgyblion yn dysgu ac asesiad.
Gallu creu amcanion dysgu a strwythuro cynlluniau dysgu a galluogir dysgu effeithiol.
Sgiliau Trosglwyddadwy:
Ceir myfyrwyr y cyfle i ddefnyddio cronfeydd data llyfryddiaeth, chwilio’r we, ysgrifennu aseiniadau, darllen yn feirniadol a gweithio mewn grwpiau.
How the module will be assessed
Cynhelir asesiad ffurfiannol trwy aseiniadau yn yr ysgol ar gyfer pob diwrnod o leoliad yn yr ysgol. Darparir adborth i fyfyrwyr yn y sesiwn dysgu dilynol. Asesir yr aseiniad ysgrifenedig gyntaf yn ffurfiannol, a darparir adborth i fyfyrwyr ar eu gwaith.
Cynhelir asesiad cyfansymiol trwy aseiniad ysgrifenedig ac un cyflwyniad llafar a chaiff eu cwblhau cyn y cyfnod arholi.
Mae pob elfen asesu yn orfodol.
Assessment Breakdown
Type | % | Title | Duration(hrs) |
---|---|---|---|
Presentation | 10 | Cyflwyniad Llafar | N/A |
Written Assessment | 10 | Aseiniadau Gwaith Cwrs | N/A |
Written Assessment | 0 | Traethawd | N/A |
Written Assessment | 15 | Traethawd | N/A |
Portfolio | 30 | Portffolio | N/A |
Written Assessment | 30 | Traethawd | N/A |
Written Assessment | 5 | Aseiniadau Yn Yr Ysgol | N/A |
Syllabus content
- Cwricwlwm Cenedlaethol Mathemateg; pam mae Mathemateg yn bwysig
- Mathemateg: adeilad a datblygiad syniadau mathemategol o addysg gynradd i uwchradd
- Theorïau Dysgu: sut mae disgyblion yn dysgu Mathemateg
- Dulliau Addysgu Rhyngweithiol: cwestiynu a chyfathrebu ar gyfer addysgu Mathemateg
- Amcanion Dysgu
- Cynllunio Gwersi
- Asesiad a gwerthusiad o addysgu a dysgu Mathemateg
- Rheoliad Ymddygiad
Essential Reading and Resource List
Testunau craidd:
Geen, A. (2009), Addysgu Effeithiol ar Gyfer yr 21ain Ganrif, Pedwerydd Argraffiad, Gwasg UWIC, Caerdydd.
Brookes, V., Abbott, I., and Bills, E. (2007), Preparing to Teach in Secondary Schools, Second Edition, Open University Press
Background Reading and Resource List
Testunau defnyddiol arall:
Goulding, M. (1997), Learning to teach mathematics, David Fulton Publishers Ltd: London.
Smith, A. (2004), Making Mathematics Count, HMSO
Black, P., et al (2003), Assessment for Learning: putting it into practice, Buckingham, Open University Press