CY3910: Caffael Iaith
School | Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd |
Department Code | WELSH |
Module Code | CY3910 |
External Subject Code | 100333 |
Number of Credits | 20 |
Level | L6 |
Language of Delivery | Welsh |
Module Leader | Dr Jonathan Morris |
Semester | Double Semester |
Academic Year | 2015/6 |
Outline Description of Module
Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno’r prif gysyniadau ym meysydd:
- caffael iaith gyntaf;
- dwyieithrwydd;
- caffael ail iaith.
Byddwch yn dysgu am ddamcaniaethau yn y meysydd uchod trwy ystyried ymchwil ryngwladol i nifer o wahanol ieithoedd a chyd-destunau cymdeithasol.
Yn ogystal â’r dimensiwn rhyngwladol, byddwch yn cymhwyso cysyniadau’r maes at ddwyieithrwydd Cymraeg-Saesneg a dysgu’r Gymraeg fel ail iaith.
Bydd hefyd cyfle ichi gyfrannu at faes ieithyddiaeth yng Nghymru trwy ysgrifennu a chyhoeddi arolygiad ar y we o waith blaenorol a fydd o ddefnydd i ymchwilwyr eraill ac ymarferwyr yng Nghymru, a thrwy gasglu a dadansoddi data ar y Gymraeg ar gyfer prosiect ymchwil.
On completion of the module a student should be able to
Ar ôl gorffen y modiwl, bydd myfyrwyr yn gallu gwneud y canlynol:
- Dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol wrth gyflwyno gwaith mewn dull proffesiynol a graenus.
- Esbonio’r prif gysyniadau a’r dulliau ymchwil ym maes caffael iaith.
- Gwerthuso gwaith ymchwil blaenorol yn y maes a’i grynhoi ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Cymhwyso cysyniadau caffael iaith a dulliau addysgu at gyd-destunau dwyieithrwydd Cymraeg-Saesneg a’r Gymraeg fel ail iaith i blant ac oedolion.
Casglu a dadansoddi data yn unol â gofynion moeseg ymchwil.
How the module will be delivered
Sut y caiff y modiwl ei gyflwyno
Er mwyn cyrraedd y deilliannau dysgu, bydd sesiwn wythnosol lle y cyflwynir y cysyniadau priodol. Yn ogystal, bydd cyfres o sesiynau lle y bydd modd trafod ymchwil blaenorol i gaffael y Gymraeg ac ieithoedd eraill, a’i werthuso’n feirniadol. Bydd nifer o’r sesiynau yn fwy ymarferol eu natur, gan ganolbwyntio ar sgiliau megis dulliau addysgu, llunio gweithgareddau dysgu a dadansoddi data ieithyddol.
Skills that will be practised and developed
Medrau a gaiff eu hymarfer a’u meithrin
Wedi cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr nodweddiadol yn gallu:
Medrau academaidd
- dehongli a gwerthuso gwaith ymchwil rhyngwladol a’u crynhoi’n ysgrifenedig;
- dadansoddi a chyflwyno data ieithyddol;
- deall hanfodion moeseg ymchwil wrth ymdrin â data;
Medrau penodol y pwnc
- dehongli damcaniaethau ym maes caffael iaith yn feirniadol;
- esbonio gwahaniaethau mewn datblygiad ieithyddol ymhlith siaradwyr unieithog a dwyieithog
- esbonio sut y gall gwahanol ffactorau ddylanwadu ar ddysgu iaith/ieithoedd newydd fel plant neu oedolyn
- dangos arbenigedd mewn dwyieithrwydd Cymraeg-Saesneg a gwybodaeth o’r ffactorau sy’n effeithio ar gaffael y Gymraeg, boed fel iaith gyntaf neu fel ail iaith;
- adnabod a deall dulliau o gasglu a dehongli gwaith maes ar gaffael iaith.
Medrau cyflogadwyedd
- dangos gwybodaeth ynghylch sut y mae plant ac oedolion yn dysgu ieithoedd ac ynghylch dwyieithrwydd Cymraeg-Saesneg yng Nghymru;
- ysgrifennu adroddiadau gwerthusol ar gyfer y we;
- dangos profiad o gasglu gwybodaeth gan y cyhoedd, ei dadansoddi, a’i chyflwyno.
- rheoli prosiectau yn annibynnol.
How the module will be assessed
Sut y caiff y rhaglen ei hasesu
Ffurfiannol
Bydd cyfle i gael adborth ar lafar ar gyflwyniadau a thrafodaethau llafar ac ar dasgau ysgrifenedig.
Crynodol
Rhoddir adborth ysgrifenedig fesul unigolyn ar bob un darn o asesu crynodol.
- Tasg adfyfyriol ysgrifenedig a fydd yn gofyn ichi gnoi cil ar nifer o gwestiynau ynghylch eich dysgu a’r pynciau a drafodwyd yn Semester 1 (gweler deilliannau dysgu 1, 2, 3).
- Cofnod blog academaidd sy’n arolygu un darn o ymchwil yn y maes (gweler deilliannau dysgu 1, 2, 3). Bydd disgwyl ichi grynhoi erthygl a’i harfarnu’n feirniadol. Wedi i’r gwaith gael ei gyflwyno ddiwedd Semester 1, cewch adborth ffurfiannol. Fe ddisgwylir ichi olygu’r gwaith ar sail yr adborth, ei brawfddarllen a’i ailgyflwyno yn Semester 2. Fe’i asesir a’i gyhoeddi ar flog y modiwl a fydd ar gael i’r cyhoedd.
Prosiect ymchwil sy’n ymwneud â chaffael y Gymraeg (gweler deilliannau dysgu 1, 2, 3, 4, 5).
Assessment Breakdown
Type | % | Title | Duration(hrs) |
---|---|---|---|
Written Assessment | 20 | Tasg Adfyfyriol | N/A |
Written Assessment | 30 | Cofnod Blog Academaidd (Cyflwyno A Derbyn Adborth) Ailgyflwyno (Yn Dilyn Adborth Ffurfiannol) | N/A |
Report | 50 | Prosiect Ymchwil | N/A |
Syllabus content
Cynnwys y maes llafur
- Gwahaniaethau rhwng sut y mae pobl ac anifeiliaid yn cyfathrebu
- Caffael iaith fel babi gan rieni neu ofalwyr
- Effaith plant eraill ar gaffael iaith
- Anawsterau wrth gaffael iaith
- Effaith ieithoedd ar ei gilydd yn lleferydd siaradwyr dwyieithog
- Ymagweddau tuag at ddwyieithrwydd
- Manteision dwyieithrwydd
- Dulliau addysgu ym maes Cymraeg i Oedolion
- Llunio gweithgareddau iaith
- Ffactorau sy’n effeithio ar gaffael ail iaith
Cymraeg Ail Iaith mewn ysgolion
Essential Reading and Resource List
Deunyddiau Darllen enghreifftiol:
Caffael iaith fel plentyn
Chambers, Jack. 1992. Dialect Acquisition. Language 68. 673-705
Lightbown, Patsy a Nina Spada. 2006. How languages are learned (3ydd argraffiad). Rhydychen: OUP
Saxton, Matthew. 2010. Child language: acquisition and development. Llundain: SAGE
Thomas, Enlli Môn. 2007. Natur prosesau caffael iaith gan blant: marcio cenedl enwau yn y Gymraeg. Gwerddon 1. 58-94
Dwyieithrwydd
Ball, Martin J., Nicole Müller a Siân Munro. 2001. The acquistion of the rhotic consonants by Welsh-English bilingual children. The International Journal of Bilingualism 5:1. 71-76
Gathercole, Virginia C. Mueller ac Enlli Môn Thomas. 2009. Bilingual first-language development: Dominant language takeover, threatened minority language take-up. Bilingualism: Language and Cognition 12:2. 213-237
Jones, Delyth. 1997. Cyflwyniad i ddwyieithrwydd. Aberystwyth: Canolfan Astudiaethau Addysg
Romaine, Suzanne. 1995. Bilingualism (2il argraffiad). Rhydychen: Blackwell
Caffael ail iaith
Doughty, Catherine J. a Michael H. Long. Goln. 2003. The Handbook of Second Language Acquisition. Rhydychen: Blackwell
Jones, Christine. Gol. 2000. Cyflwyno’r Gymraeg. Llandysul: Gomer
Llywodraeth Cymru. 2013. Un iaith i bawb: Adolygiad o Gymraeg ail iaith yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. Ar gael: http://wales.gov.uk/docs/dcells/publications/130926-review-of-welsh-second-lan-cy.pdf
Mac-Giolla Chríost, Diarmait, Patrick Carlin, Sioned Davies, Tess Fitzpatrick, Anys Pyrs Jones, Rachel Heath-Davies, Jennifer Marshall, Steve Morris, Adrian Price, Robert Vanderplank, Catherine Walter ac Alison Wray. 2012. Welsh for adults teaching and learning approaches, methodologies and resources: a comprehensive research study and critical review of the way forward. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. Ar gael: http://www.cardiff.ac.uk/welsh/resources/FINAL%20WHOLE%20Drafft%20Ymgynghorol.pdf
Ortega, Lourdes. 2008. Understanding Second Language Acquisition. Llundain: Routledge
Talfryn, Ioan. 2001. Dulliau Dysgu Ail Iaith: eu hanes a’u datblygiad. Yr Wyddgrug: Popeth Cymraeg