CY3810: Canu'r Gymru Newydd: Barddoniaeth er 1990
School | Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd |
Department Code | WELSH |
Module Code | CY3810 |
External Subject Code | 101163 |
Number of Credits | 20 |
Level | L6 |
Language of Delivery | Welsh |
Module Leader | Dr Llion Roberts |
Semester | Double Semester |
Academic Year | 2015/6 |
Outline Description of Module
‘Chwa o awyr iach’ oedd disgrifiad Alan Llwyd o fuddugoliaeth Myrddin ap Dafydd ac Iwan Llwyd ym mhrif wobrau Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni, 1990. Bu’r digwyddiad hwn yn sail i gyfnod llewyrchus iawn ym myd barddoniaeth Gymraeg, a barddoniaeth gaeth yn arbennig. Bydd y modiwl hwn yn dadansoddi prif weithiau a themâu beirdd pwysicaf y cyfnod cynhyrfus hwn, yn ogystal â thrafod arwyddocâd y dadeni barddol yn y Gymru gyfoes. Bydd y modiwl yn ymdrin â barddoniaeth gaeth a rhydd, barddoniaeth y llyfr a’r llwyfan a barddoniaeth y gymdeithas a’r genedl. Canolbwyntir yn ogystal ar sawl datblygiad pwysig, ynghyd â dyfodiad mwy nag un don newydd o feirdd i hawlio lle canolog ar lwyfannau lleol a chenedlaethol fel ei gilydd.
On completion of the module a student should be able to
Ar ôl gorffen y modiwl, bydd myfyriwr yn gallu gwneud y canlynol:
- adnabod rhai o uchafbwyntiau barddoniaeth Gymraeg o’r cyfnod er 1990, ynghyd â phrif ddatblygiadau’r cyfnod
- gallu gwerthuso hanfodion a chyd-destun llenyddol, hanesyddol, gwleidyddol, cymdeithasol a syniadol cerddi’r cyfnod
- ymateb yn ddadansoddol a beirniadol i destunau barddonol rhydd a chynganeddol ar fwy nag un lefel
- defnyddio technegau a therminoleg beirniadaeth lenyddol
- dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol wrth gyflwyno gwaith mewn dull proffesiynol a graenus
How the module will be delivered
Sut y dysgir y modiwl
Darlithoedd, gweithdai a seminarau gan arweinydd y modiwl. Bydd y darlithoedd yn cyflwyno’r myfyrwyr i ddatblygiadau pwysicaf y cyfnod, seiliau deallusol y beirdd a’u prif themâu. Bydd y seminarau a’r gweithdai yn canolbwyntio ar ddadansoddi testunau unigol ac at ddefnyddio damcaniaethau cyffredinol i ymdrin yn feirniadol â’r testunau.
Skills that will be practised and developed
Sgiliau a gaiff eu hymarfer a’u meithrin
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
- deall hanfodion barddoniaeth Gymraeg y cyfnod er 1990;
- dangos ymwybyddiaeth o berthynas beirdd Cymraeg â’u cymdeithas ac â’u cyfnod.
Medrau Deallusol:
- ymdrin â thestunau sy’n perthyn i gyfnod penodol;
- gwerthuso arwyddocâd cyd-destunau gwahanol o safbwynt cerddi’r cyfnod;.
- dadansoddi’n ddeallus a soffistigedig gerddi o wahanol gyfryngau barddonol.
Medrau Penodol i Ddisgyblaeth (gan gynnwys medrau ymarferol):
- ymdrin yn ddeallus â rhai o nodweddion a phrif ddatblygiadau barddoniaeth er 1990;
- dangos dealltwriaeth o waith rhai o’r beirdd pwysicaf (caeth a rhydd) a’u prif themâu;
- defnyddio technegau a therminoleg beirniadaeth lenyddol.
Medrau Cyflogadwyedd:
- cynnull a chyflwyno gwybodaeth yn feirniadol, yn gydlynus ac yn raenus;
- crynhoi, dadansoddi ac arfarnu cysyniadau a safbwyntiau ac ymdrin â hwy yn feirniadol ac yn ddadansoddol ar bapur, ac ar lafar mewn seminar;
- gweithio yn annibynnol a chydweithio ag eraill mewn grŵp wrth baratoi a chyflwyno deunyddiau mewn seminar;
- dangos meistrolaeth ar Gymraeg llafar ac ysgrifenedig safonol.
How the module will be assessed
Sut yr asesir y modiwl
Ffurfiannol
Bydd cyfle i gael adborth ar lafar ar gyflwyniadau a thrafodaethau llafar mewn seminarau a gweithdai. Rhoddir adborth ysgrifenedig fesul unigolyn ar bob un darn o asesu crynodol.
Crynodol
Asesir y modiwl drwy dri dull gwahanol: prawf dosbarth (40 munud), traethawd (hyd at 1000 o eiriau) a thraethawd (hyd at 2000 o eiriau).
Bydd y prawf dosbarth yn gofyn ichi ymdrin yn feirniadol â cherdd/i drwy gyfrwng dadansoddiad sydd wedi ei seilio ar y testun. (Deilliannau 2, 3, 4, 5).
Bydd y traethawd (hyd at 1000 o eiriau) yn gofyn ichi ddadansoddi ystod o ffynonellau eilaidd yng nghyd-destun eu perthnasedd i ffynhonnell gynradd (e.e., cyfrol o farddoniaeth) o’r cyfnod o dan sylw. (Deilliannau 1, 2, 4, 5)
Bydd y traethawd wedi ei seilio ar ymateb yn feirniadol i destunau, gan ddadansoddi’r prif themâu, ynghyd â’u harwyddocâd deallusol o safbwynt barddoniaeth y cyfnod. (Deilliannau 1-5).
Assessment Breakdown
Type | % | Title | Duration(hrs) |
---|---|---|---|
Class Test | 20 | Prawf Dosbarth | N/A |
Report | 30 | Traethawd | N/A |
Report | 50 | Traethawd | N/A |
Syllabus content
Cynnwys y maes llafur
- cefndir – adfywiad y 1970au a hirlwm yr 1980au?;
- trobwynt Eisteddfod Cwm Rhymni, 1990—Myrddin ap Dafydd ac Iwan Llwyd;
- o’r llyfr i’r llwyfan—talyrnau, sioeau, teithiau barddonol, a chyfryngau newydd;
- Cywyddau Cyhoeddus a’r canu cymdeithasol;
- y canu gwleidyddol er cyhoeddi Cilmeri a Cherddi Eraill, Gerallt Lloyd Owen (1991);
- y Gymru newydd—dadeni’r to ifanc yn y 1990au: e.e. Emyr Lewis, Grahame Davies, Tudur Dylan Jones, Gwyneth Lewis, Ceri Wyn Jones, Dafydd John Pritchard, Ifor ap Glyn, Twm Morys;
- Iwan Llwyd a Myrddin ap Dafydd wedi 1990;
- dylanwad yr Eisteddfod Genedlaethol yn y cyfnod;
- hynt y gynghanedd er 1990;
- canu’r merched: e.e. Menna Elfyn; Gwyneth Lewis, Christine James; Mari George;
- y ferch a’r canu caeth: e.e. Mererid Hopwood, Karen Owen;
- cerddi’r genhedlaeth newydd o feirdd wedi troad yr unfed ganrif ar hugain, megis beirdd y gyfrol Crap ar Farddoni (2006);
- rhai prifeirdd y Gymru newydd, newydd – Hywel Griffiths, Rhys Iorwerth, Guto Dafydd;
- y meistri newydd: datblygiadau arwyddocaol diweddar – Barddas, Ymrson y Beirdd, Y Talwrn.
Essential Reading and Resource List
Deunyddiau Darllen a Rhestr Adnoddau:
Ap Dafydd, Myrddin. 2011. Iwan ar Daith. Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch
Ap Dafydd, Myrddin a Llwyd, Iwan. Goln. 1994. Cywyddau Cyhoeddus. Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch
Ap Dafydd, Myrddin a Llwyd, Iwan. 2002. Mae’n gêm o ddau fileniwm: cyflwyno beirdd a barddoniaeth. Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch
Barddas (cylchgrawn y Gymdeithas Cerdd Dafod)
Bianci, Tony. Gol. 2005. Blodeugerdd Barddas o Farddoniaeth Gyfoes. Llandybïe: Cyhoeddiadau Barddas
Dafydd, Catrin, Salisbury, Eurig, Karadog, Aneirin, Rhys, Iwan a Griffiths, Hywel. 2006. Crap ar Farddoni. Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch
Llwyd, Alan. 1997. Y Grefft o Greu: Ysgrifau ar Feirdd a Barddoniaeth. Cyhoeddiadau Barddas
Llwyd, Iwan, Ap Dafydd, Myrddin ac Ap Glyn, Ifor. 1995. Bol a Chyfri Banc. Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch
Morys, Twm. Gol. 2014. Awen Iwan. Tal-y-bont: Cyhoeddiadau Barddas
Morys, Twm a Llwyd, Iwan. Eldorado: llwybrau dau i le diarth. Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch
Rhys, Robert. Gol. 2006. Y Patrwm Amryliw: Cyfrol 2. Llandybïe: Cyhoeddiadau Barddas