CY3750: Diwylliant y Gymraeg
School | Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd |
Department Code | WELSH |
Module Code | CY3750 |
External Subject Code | 100333 |
Number of Credits | 20 |
Level | L6 |
Language of Delivery | Welsh |
Module Leader | Dr Jeremy Evas |
Semester | Double Semester |
Academic Year | 2015/6 |
Outline Description of Module
Cyflwyniad i ddiwylliant a hanes y Gymraeg a thrafodaeth ar ei dyfodol – a’n rhan ni fel unigolion yn y dyfodol hwnnw. Pwy sy’n siarad Cymraeg heddiw? Ymhle? Sut mae iaith mor fach â’r Gymraeg wedi goroesi wrth ochr un o ieithoedd mwyaf pwerus y byd? Pwy fu’n protestio ar ein rhan? Beth yw arwyddocâd yr Eisteddfod Genedlaethol a sefydliadau cenedlaethol eraill i siaradwyr Cymraeg heddiw?
Drwy ddilyn y modiwl hwn, fe gewch gyfle i gydweithio â’ch cyd-fyfyrwyr a chewch flas ar yr hyn y bydd modd ichi ei astudio’n ddyfnach yn ystod ail flwyddyn a blwyddyn olaf eich gradd.
On completion of the module a student should be able to
- dangos dealltwriaeth o hanes ac arwyddocâd ein diwylliant a’n sefydliadau cenedlaethol, a’u cyfraniad i fywyd Cymraeg Cymru.
- trafod hanes sylfaenol ‘brwydr yr iaith’ yng Nghymru
- dadansoddi cyfrifoldeb yr unigolyn o ran adfer y Gymraeg.
- gweithio’n effeithiol yn rhan o dîm ac fel unigolyn
- dangos meistrolaeth ar Gymraeg llafar ac ysgrifenedig safonol wrth gyflwyno gwaith mewn dull proffesiynol a graenus
How the module will be delivered
Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a chyflwyniadau grŵp. Mae’r darlithoedd yn gosod canllawiau ac yn trafod prif elfennau’r maes, a’r seminarau a’r yn estyn cyfle i drafod, rhyngweithio ac ymarfer trin elfennau cynllunio ieithyddol a pholisi iaith yn feirniadol.
Skills that will be practised and developed
Medrau Academaidd
- cywain gwybodaeth a’i gwerthuso
- meddwl yn hyblyg a gwneud cysylltiadau rhwng gwahanol ffynonellau a meysydd o wybodaeth
Sgiliau Trosglwyddadwy:
- gweithio mewn tîm
- negodi ag eraill
- cyfathrebu’n effeithiol
Medrau penodol y pwnc
- trin data a thystiolaeth (gan gynnwys mapiau, tablau a graffiau) yn feirniadol o safbwynt dehongli’r maes
- trafod yn feirniadol ddatblygiadau cyfredol ym maes cynllunio ieithyddol a pholisi iaith
Medrau Personol a Chyflogadwyedd
- cyfranogi o drafodaethau a gwaith grŵp
- cynnull a chyflwyno gwybodaeth yn feirniadol ac yn raenus
- crynhoi ac arfarnu cysyniadau a safbwyntiau ac ymdrin â hwy yn feirniadol ac yn ddadansoddol
dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol.
How the module will be assessed
Mae’r cyflwyniad grŵp (a’r adroddiad unigol arno) yn fodd i feithrin sgiliau gweithio mewn tîm, negodi ag eraill, cywain gwybodaeth a’i gwerthuso, a chyfathrebu’n effeithiol. Mae’r traethawd yn gofyn i fyfyrwyr gywain gwybodaeth berthnasol o wahanol ffynonellau a’i defnyddio’n ddeallus, yn drefnus ac yn raenus mewn wrth ysgrifennu’n estynedig.
Assessment Breakdown
Type | % | Title | Duration(hrs) |
---|---|---|---|
Presentation | 40 | Diwylliant Y Gymraeg | N/A |
Report | 20 | Diwylliant Y Gymraeg | N/A |
Written Assessment | 40 | Diwylliant Y Gymraeg | N/A |
Syllabus content
- Bywyd ac arferion gwerin
- Cerddoriaeth
- Crefydd a bydolwg
- Cyfraniad grwpiau pwyso i ddyfodol y Gymraeg
- Cynllunio ieithyddol
- Daearyddiaeth Cymru
- Gwleidyddiaeth
- Sut mae adfer y Gymraeg – beth yw ein cyfraniad fel unigolion
- Yr Eisteddfod
Essential Reading and Resource List
BWRDD YR IAITH GYMRAEG (2012), Bwrdd Yr Iaith Gymraeg: Adolygiad 1993-2012, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Caerdydd, http://www.webarchive.org.uk/wayback/archive/20120330001008/http://www.byig-wlb.org.uk/cymraeg/cyhoeddiadau/pages/publicationitem.aspx?puburl=http://www.byig-wlb.org.uk/cymraeg/cyhoeddiadau/cyhoeddiadau/20120312%20dg%20adolygiad%20diwedd%20y%20bwrdd.pdf
COMISIYNYDD Y GYMRAEG (2013), ‘Hafan Data Ac Ystadegau’ Comisiynydd y Gymraeg, Caerdydd, http://www.comisiynyddygymraeg.org/cymraeg/cymorth/dataacystadegau/pages/hafandataacystadegau.aspx
DAVIES, Gwyn (2002). Golau Gwlad: Cristnogaeth yng Nghymru 200-2000 (Pen-y-bont ar Ogwr: Gwasg Bryntirion)
DAVIES, Ifor, a LLOYD-MORGAN, Ceridwen (goln, 1999). Darganfod Celf Cymru (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)
EDWARDS, Hywel Teifi Edwards (1976). Yr Eisteddfod (Llys yr Eisteddfod Genedlaethol)
JENKINS, Geraint H. (1993). The University of Wales: An Illustrated History (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)
JONES, J. Graham Jones (1998). Llyfr Poced: Hanes Cymru (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)
JONES, Robert Owen (1997). ‘Hir Oes i’r Iaith’ (Llandysul: Gwasg Gomer)
OWEN, Trefor M. (1991). A Pocket Guide: The Customs and Traditions of Wales (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)