CY3744: O Destun I Draethawd
School | Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd |
Department Code | WELSH |
Module Code | CY3744 |
External Subject Code | 100333 |
Number of Credits | 20 |
Level | L6 |
Language of Delivery | Welsh |
Module Leader | Dr Angharad Naylor |
Semester | Double Semester |
Academic Year | 2015/6 |
Outline Description of Module
Nod y modiwl hwn yw datblygu eich gallu i greu darn gorffenedig o waith wedi ei seilio ar amrywiaeth o ffynonellau gwahanol. Byddwch yn dysgu sut y mae syniadau a dadleuon yn cael eu llunio a'u defnyddio wrth ysgrifennu'n academaidd, a byddwch yn defnyddio'r wybodaeth honno i ysgrifennu eich traethodau safonol eich hun. Byddwch yn cael y cyfle i ddadansoddi amrywiaeth o ffynonellau ac yn dysgu sut mae defnyddio'r profiad hwnnw er mwyn cyfansoddi traethodau effeithiol.
On completion of the module a student should be able to
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
- adnabod nodweddion gwahanol fathau o destunau ysgrifenedig (traethodau, adroddodiadau, erthyglau, ac ati, boed yn ffeithiol, creadigol, academaidd, etc.);
- dangos ymwybyddiaeth o’r gwahanol fathau o adnoddau academaidd sydd ar gael yn y Gymraeg;
- defnyddio’r feddalwedd sydd ar gael i lunio dogfennau ysgrifenedig yn y Gymraeg;
- dangos ymybwyddiaeth o’r ieithwedd briodol ar gyfer ysgrifennu academaidd ;
- defnyddio dulliau cydnabyddedig o gyfeirio ac o nodi llyfryddiaeth mewn traethawd.
Medrau Deallusol:
- defnyddio gwahanol fathau o adnoddau academaidd i lunio traethawd;
- cynllunio traethawd yn effeithiol;
- strwythuro traethawd mewn dull effeithiol;
- defnyddio meddalwedd i wella ansawdd traethawd ysgrifenedig.
Medrau Penodol i Ddisgyblaeth (gan gynnwys medrau ymarferol):
- adnabod prif hanfodion strwythurol gwahanol fathau o destun ysgrifenedig (e.e. y frawddeg bwnc, y paragraff, ac ati).
Medrau Trosglwyddadwy:
- gwerthuso gwybodaeth, a’r modd y’i dehonglir, yn feirniadol, mewn traethawd
- meddwl yn hyblyg a gwneud cysylltiadau rhwng gwahanol ffynonellau o wybodaeth mewn traethawd;
- cynnal dadl resymegol a dod i gasgliad y gellir ei amddiffyn mewn traethawd;
- ysgrifennu traethawd effeithiol gan ddefnyddio iaith safonol a chan gofio am anghenion y darllenydd;
- prawfddarllen gwaith ysgrifenedig;
- defnyddio pecynnau meddalwedd megis prosesydd geiriau a phecynnau sy’n ymwneud yn benodol â’r Gymraeg (e.e. CySill a CysGair);
- myfyrio ar brofiad a dysgu ohono drwy ysgrifennu hunanasesiad ar y broses o baratoi traethawd;
- monitro a gwerthuso cynnydd yn nhermau targedau penodol (rheoli amser) drwy lunio traethawd a chanddo amserlen benodedig (e.e. cynllunio, drafftio, prawfddarllen);
- dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol.
How the module will be delivered
- darlithoedd: i gyflwyno syniadau, dulliau o ysgrifennu, technegau arbennig;
- gwaith gr?p: i ymarfer sgiliau arbennig;
- gweithdai: i drafod a rhoi adborth ar waith gr?p a gwaith unigol a thrafod ymhellach;
- tiwtora un-wrth-un wrth baratoi traethawd o hyd at 2000 gair.
Skills that will be practised and developed
Ar ddiwedd y modiwl hwn bydd y myfyrwyr:
- yn gallu defnyddio amrediad o adnoddau academaidd yn effeithiol;
- yn gallu llunio a datblygu syniadau sy’n seiliedig ar wahanol fathau o ffynonellau cynradd ac eilaidd;
- yn berchen ar y sgiliau angenrheidiol ar gyfer cyfansoddi traethodau sy’n dilyn confensiynau academaidd cydnabyddedig ac sydd wedi eu cyfansoddi mewn iaith safonol.
How the module will be assessed
Ffurfiannol:
Bydd gwaith yn cael ei gyflwyno a’i farcio’n gyson fesul unigolyn/fesul gr?p;
Bydd y myfyrwyr yn paratoi traethawd o hyd at 2,000 o eiriau ac yn cwrdd â’r tiwtor ar nifer o achlysuron i’w drafod, gan ailddrafftio yn unol â’r cyngor a gafwyd.
Crynodol:
Dau draethawd hyd at 2,000 i eiriau, taflenni o gywiriadau ieithyddol, a dau hunasesiad o 300 gair fydd yn trafod y broses o baratoi’r traethodau (yr hyn a ddysgwyd, problemau a sut y’u goresgynnwyd, sut y defnyddiwyd adborth, etc.)
Assessment Breakdown
Type | % | Title | Duration(hrs) |
---|---|---|---|
Written Assessment | 50 | Traethawd (Ynghyd  Chywiriadau Ieithyddol A Hunanasesiad) | N/A |
Written Assessment | 50 | Traethawd (Ynghyd  Chywiriadau Ieithyddol A Hunanasesiad) | N/A |
Syllabus content
- adnoddau academaidd yn y Gymraeg;
- nodweddion gwahanol fathau o destunau (ffynonellau cynradd ac eilaidd);
- confensiynau ysgrifennu academaidd yn y Gymraeg;
- nodweddion ysgrifennu da;
- meddalwedd gyfrifiadurol yn y Gymraeg;
- sut mae llunio a datblygu syniadau a dadleuon ar sail amrywiaeth o ffynonellau cynradd ac eilaidd.
Background Reading and Resource List
CHAMBERS, Ellie a NORTHEDGE, Andrew 1997. The Arts Good Study Guide. Milton Keynes: Open University
HUGHES, J. Elwyn 1998. Canllawiau Ysgrifennu Cymraeg. Llandysul: Gwasg Gomer
IFANS, Rhiannon 2006. Y Golygiadur. Aberystwyth: Cymdeithas Lyfrau Ceredigion
JONES, Morgan D. 1993. Cywiriadur Cymraeg. 4ydd argr., Llandysul: Gwasg Gomer
THOMAS, Gwyn 1978. Cyflwyno’r Iaith Lenyddol. Y Bontfaen: D. Brown a’i Feibion