CY3744: O Destun I Draethawd

School Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
Department Code WELSH
Module Code CY3744
External Subject Code 100333
Number of Credits 20
Level L6
Language of Delivery Welsh
Module Leader Dr Angharad Naylor
Semester Double Semester
Academic Year 2013/4

Outline Description of Module

Nod y modiwl hwn yw datblygu eich gallu i greu darn gorffenedig o waith wedi ei seilio ar amrywiaeth o ffynonellau gwahanol. Byddwch yn dysgu sut y mae syniadau a dadleuon yn cael eu llunio a'u defnyddio wrth ysgrifennu'n academaidd, a byddwch yn defnyddio'r wybodaeth honno i ysgrifennu eich traethodau safonol eich hun. Byddwch yn cael y cyfle i ddadansoddi amrywiaeth o ffynonellau ac yn dysgu sut mae defnyddio'r profiad hwnnw er mwyn cyfansoddi traethodau effeithiol.

On completion of the module a student should be able to

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

  • adnabod nodweddion gwahanol fathau o destunau ysgrifenedig (traethodau, adroddodiadau, erthyglau, ac ati, boed yn ffeithiol, creadigol, academaidd, etc.);
  • dangos ymwybyddiaeth o’r gwahanol fathau o adnoddau academaidd sydd ar gael yn y Gymraeg;
  • defnyddio’r feddalwedd sydd ar gael i lunio dogfennau ysgrifenedig yn y Gymraeg;
  • dangos ymybwyddiaeth o’r ieithwedd briodol ar gyfer ysgrifennu academaidd ;
  • defnyddio dulliau cydnabyddedig o gyfeirio ac o nodi llyfryddiaeth mewn traethawd.

Medrau Deallusol:

  • defnyddio gwahanol fathau o adnoddau academaidd i lunio traethawd;
  • cynllunio traethawd yn effeithiol;
  • strwythuro traethawd mewn dull effeithiol;
  • defnyddio meddalwedd i wella ansawdd traethawd ysgrifenedig.

Medrau Penodol i Ddisgyblaeth (gan gynnwys medrau ymarferol):

  • adnabod prif hanfodion strwythurol gwahanol fathau o destun ysgrifenedig (e.e. y frawddeg bwnc, y paragraff, ac ati).

Medrau Trosglwyddadwy:

  • gwerthuso gwybodaeth, a’r modd y’i dehonglir, yn feirniadol, mewn traethawd
  • meddwl yn hyblyg a gwneud cysylltiadau rhwng gwahanol ffynonellau o wybodaeth mewn traethawd;
  • cynnal dadl resymegol a dod i gasgliad y gellir ei amddiffyn mewn traethawd;
  • ysgrifennu traethawd effeithiol gan ddefnyddio iaith safonol a chan gofio am anghenion y darllenydd;
  • prawfddarllen gwaith ysgrifenedig;
  • defnyddio pecynnau meddalwedd megis prosesydd geiriau a phecynnau sy’n ymwneud yn benodol â’r Gymraeg (e.e. CySill a CysGair);
  • myfyrio ar brofiad a dysgu ohono drwy ysgrifennu hunanasesiad ar y broses o baratoi traethawd;
  • monitro a gwerthuso cynnydd yn nhermau targedau penodol (rheoli amser) drwy lunio traethawd a chanddo amserlen benodedig (e.e. cynllunio, drafftio, prawfddarllen);
  • dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol. 

How the module will be delivered

  • darlithoedd: i gyflwyno syniadau, dulliau o ysgrifennu, technegau arbennig;
  • gwaith grŵp: i ymarfer sgiliau arbennig;
  • gweithdai: i drafod a rhoi adborth ar waith grŵp a gwaith unigol a thrafod ymhellach;
  • tiwtora un-wrth-un wrth baratoi traethawd o hyd at 2000 gair.

Skills that will be practised and developed

Ar ddiwedd y modiwl hwn bydd y myfyrwyr:

  • yn gallu defnyddio amrediad o adnoddau academaidd yn effeithiol;
  • yn gallu llunio a datblygu syniadau sy’n seiliedig ar wahanol fathau o ffynonellau cynradd ac eilaidd;
  • yn berchen ar y sgiliau angenrheidiol ar gyfer cyfansoddi traethodau sy’n dilyn confensiynau academaidd cydnabyddedig ac sydd wedi eu cyfansoddi mewn iaith safonol.

How the module will be assessed

Ffurfiannol:

Bydd gwaith yn cael ei gyflwyno a’i farcio’n gyson fesul unigolyn/fesul grŵp;

Bydd y myfyrwyr yn paratoi traethawd o hyd at 2,000 o eiriau ac yn cwrdd â’r tiwtor ar nifer o achlysuron i’w drafod, gan ailddrafftio yn unol â’r cyngor a gafwyd.

Crynodol:

Dau draethawd hyd at 2,000 i eiriau, taflenni o gywiriadau ieithyddol, a dau hunasesiad o 300 gair fydd yn trafod y broses o baratoi’r traethodau (yr hyn a ddysgwyd, problemau a sut y’u goresgynnwyd, sut y defnyddiwyd adborth, etc.)

Assessment Breakdown

Type % Title Duration(hrs)
Written Assessment 100 Written Assignment N/A

Syllabus content

  • adnoddau academaidd yn y Gymraeg;
  • nodweddion gwahanol fathau o destunau (ffynonellau cynradd ac eilaidd);
  • confensiynau ysgrifennu academaidd yn y Gymraeg;
  • nodweddion ysgrifennu da;
  • meddalwedd gyfrifiadurol yn y Gymraeg;
  • sut mae llunio a datblygu syniadau a dadleuon ar sail amrywiaeth o ffynonellau cynradd ac eilaidd.

Essential Reading and Resource List

CHAMBERS, Ellie a NORTHEDGE, Andrew 1997. The Arts Good Study Guide. Milton Keynes: Open University

HUGHES, J. Elwyn 1998. Canllawiau Ysgrifennu Cymraeg. Llandysul: Gwasg Gomer

IFANS, Rhiannon 2006. Y Golygiadur. Aberystwyth: Cymdeithas Lyfrau Ceredigion

JONES, Morgan D. 1993. Cywiriadur Cymraeg. 4ydd argr., Llandysul: Gwasg Gomer

THOMAS, Gwyn 1978. Cyflwyno’r Iaith Lenyddol. Y Bontfaen: D. Brown a’i Feibion


Copyright Cardiff University. Registered charity no. 1136855