CY3743: Llenyddiaeth Gymraeg

School Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
Department Code WELSH
Module Code CY3743
External Subject Code 100333
Number of Credits 20
Level L6
Language of Delivery Welsh
Module Leader YR ATHRO Eifion James
Semester Double Semester
Academic Year 2015/6

Outline Description of Module

Modiwl yw hwn sy'n hyfforddi myfyrwyr sut i astudio llenyddiaeth. Mae pwyslais arbennig ar lenyddiaeth o ddechrau'r ugeinfed ganrif ymlaen ac ar ddulliau beirniadaeth lenyddol.

On completion of the module a student should be able to

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

  • deall hanfodion barddoniaeth, y ddrama a’r nofel, a hanfodion beirniadaeth lenyddol

Sgiliau Deallusol:

  • ymateb yn briodol i’r defnydd o iaith ac o’r dychymyg mewn llenyddiaeth

Sgiliau Disgyblaeth Benodol (gan gynnwys rhai ymarferol):

  • trin gweithiau llenyddol yn feirniadol o safbwynt crefft, mynegiant a syniadaeth

Sgiliau Trosglwyddadwy:

  • cynnull a chyflwyno gwybodaeth yn feirniadol, yn gydlynus ac yn raenus
  • dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol. 

How the module will be delivered

Seminarau, dosbarthiadau darllen, a darlithiau.

Mae’r seminarau a’r dosbarthiadau darllen yn estyn cyfle i drafod, rhyngweithio ac ymarfer trin testunau llenyddol yn feirniadol, mae’r darlithoedd yn gosod canllawiau ac yn cyflwyno gwybodaeth bwrpasol yn y maes, a’r asesu yn fodd i fyfyrwyr feithrin eu gallu i arddangos eu gwybodaeth ac ymdrin â phynciau yn drefnus, yn raenus ac yn ddadansoddol.

Skills that will be practised and developed

Dysgu sgiliau beirniadaeth lenyddol, yn arbennig wrth fanylu ar weithiau llenyddol o ddechrau’r ugeinfed ganrif ymlaen.

How the module will be assessed

Mae’r arholiad ysgrifenedig yn ddull o ddangos bod myfyrwyr wedi deall y deunydd drostynt eu hunain ac yn gallu ei gymhwyso’n bwrpasol i ateb cwestiynau. Mae’r traethawd yn gofyn i fyfyrwyr gywain gwybodaeth berthnasol o wahanol ffynonellau a’i defnyddio’n ddeallus, yn drefnus ac yn raenus mewn darn o ysgrifennu estynedig.

Assessment Breakdown

Type % Title Duration(hrs)
Exam - Spring Semester 50 Llenyddiaeth Gymraeg 2
Written Assessment 50 Written Assignments N/A

Syllabus content

Craidd y modiwl yw cyfres o seminarau/dosbarthiadau darllen sy’n canolbwyntio ar lenyddiaeth ddiweddar. Manylir yn eu tro ar farddoniaeth, y ddrama a’r nofel.

Background Reading and Resource List

JOHNSTON, Dafydd (1998). Llyfr Poced: Llenyddiaeth Cymru (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)

JONES, Geraint Wyn (1988). Y Stori Fer a’r Stori Fer Hir (Llandysul: Gwasg Gomer)

JONES, John Gwilym (1977). Swyddogaeth Beirniadaeth (Dinbych: Gwasg Gee)

PARRY-WILLIAMS, T. H. (1965). Elfennau Barddoniaeth, pumed argraffiad (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)

PRICE, Angharad (2002). Rhwng Gwyn a Du: Agweddau ar Ryddiaith Gymraeg y 1990au (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)

RICHARDS, W. Leslie (1961). Ffurfiau’r Awen (Llandybïe: Llyfrau’r Dryw)

ROWLANDS, John (gol., 1992). Sglefrio ar Eiriau (Llandysul: Gwasg Gomer)

ROWLANDS, John (1992). Ysgrifau ar y Nofel (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)

ROWLANDS, John (gol., 2000). Y Sêr yn Eu Graddau (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)

WILLIAMS, Gerwyn (gol., 1999). Rhyddid y Nofel (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)

WILLIAMS, Ioan (1984). Y Nofel (Llandysul: Gwasg Gomer)


Copyright Cardiff University. Registered charity no. 1136855