CY3742: Cyflwyniad I'r Gymraeg

School Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
Department Code WELSH
Module Code CY3742
External Subject Code 100333
Number of Credits 20
Level L6
Language of Delivery Welsh
Module Leader Dr Dylan Foster Evans
Semester Double Semester
Academic Year 2013/4

Outline Description of Module

Prif nod y modiwl hwn yw cyflwyno gramadeg Cymraeg safonol cyfoes ynghyd â’r eirfa dechnegol berthnasol. Trwy hynny bydd gofyn ichi feithrin y gallu i adnabod, disgrifio a chynhyrchu ffurfiau safonol, a hynny heb ddibynnu ar gyfeirlyfrau neu offer T.G.

Byddwch hefyd yn astudio cystrawennau sy’n wahanol yn y Gymraeg a’r Saesneg, a thrwy gyfrwng ymarferion cyfieithu fe’ch cyflwynir i rai o’r gwahaniaethau pwysicaf rhwng y ddwy iaith.

Bydd gallu adnabod ffurfiau safonol o fudd mawr ichi wrth astudio llenyddiaeth o bob cyfnod, a bydd y gallu i gynhyrchu’r ffurfiau hynny yn gymorth mawr ichi wrth loywi eich iaith eich hun. Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol mewn Cymraeg safonol yn sgil pwysig ar gyfer y gweithle, a bydd y modiwl hwn yn eich cynorthwyo chi i gyrraedd y nod hwnnw.

On completion of the module a student should be able to

Ar ôl gorffen y modiwl yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu gwneud y canlynol:

1   deall y modd y dosberthir rhannau ymadrodd y Gymraeg

  • cynhyrchu a disgrifio gwahanol rannau ymadrodd yn y Gymraeg
  • deall hanfodion gramadeg yr iaith
  • adnabod hanfodion cystrawennol y frawddeg Gymraeg
  • adnabod a chywiro enghreifftiau o ymyrraeth o’r Saesneg ar y Gymraeg
  • tynnu sylw at rai o’r gwahaniaethau rhwng (i) Cymraeg ysgrifenedig safonol a Chymraeg llafar tafodieithol a (ii) rhwng cystrawen y Gymraeg a’r Saesneg

How the module will be delivered

Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy gyfuniad o ddarlithoedd a gweithdai/seimarau ynghyd â defnydd o ddeunyddiau electronig. Bydd y darlithoedd yn cyflwyno gramadeg yr iaith a bydd y gweithdai/seimarau rhoi cyfle i ymarfer gwahanol ffurfiau. Bydd deunyddiau electonig yn cefnogi’r dysgu.

Skills that will be practised and developed

Wedi cwblhlau’r modiwl, bydd myfyrwyr nodweddiadol yn gallu:

Medrau academaidd

  • arfarnu brawddegau yn nhermau eu derbynioldeb ieithyddol;
    • adnabod enghreifftiau o ymyrraeth ieithyddol

Medrau penodol y pwnc

  • defnyddio cyfeirlyfrau ieithyddol safonol

Medrau cyflogadwyedd

  • gwybod beth yw nodweddion Cymraeg safonol

How the module will be assessed

Ffurfiannol

Bydd cyfle i gael adborth dasgau a gwblheir yn y dosbarth. Bydd cyfle i gael adborth llafar fesul unigolyn ar yr arholiadau.

Crynodol

Asesir y modiwl drwy gyfrwng dau arholiad. Bydd yr arholiadau yn gofyn ichi ddisgrifio, cynhyrchu a thrafod gwahanol elfennau o Gymraeg ysgrifenedig safonol.

Assessment Breakdown

Type % Title Duration(hrs)
Exam - Autumn Semester 50 Cyflwyniad I'R Gymraeg 1.5
Exam - Spring Semester 50 Cyflwyniad I'R Gymraeg 1.5

Syllabus content

  • rhannau ymadrodd y Gymraeg;
  • morffoleg, y ferf, yr enw, yr ansoddair a’r arddodiad;
  • prif elfennau cystrawen y Gymraeg;
  • gwahaniaethau pwysig yng nghystrawen y Gymraeg a’r Saesneg.

Essential Reading and Resource List

GRIFFITHS, gyda JONES, Dafydd Glyn. gol. 1995 (ac argraffiadau diweddarach). Geiriadur yr Academi. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru

IFANS, Rhiannon. 2006.Y Golygiadur. Aberystwyth:Cymdeithas Lyfrau Ceredigion

JONES, Bob Morris. 1993. Ar lafar ac ar bapur: cyflwyniad i’r berthynas rhwng yr iaith lafar a’r iaith ysgrifenedig. Aberystwyth: Y Ganolfan Astudiaethau Addysg

LEWIS, D. Geraint. 1998. Y Treigladur. 3ydd argr., Llandysul: Gwasg Gomer

2000. Y Llyfr Berfau. 4ydd argr., Llandysul: Gwasg Gomer

THOMAS, Beth a THOMAS, Peter Wynn 1989. Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg... : cyflwyno’r tafodieithoedd. Caerdydd: Gwasg Taf

THOMAS, Gwyn. 1977. Ymarfer Ysgrifennu. Abertawe: Christopher Davies

THOMAS, Peter Wynn. 1995. Gramadeg y Gymraeg.Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru

THORNE, D. A. 1985. Cyflwyniad i Astudio’r Gymraeg. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru

UNED IAITH GENEDLAETHOL CYMRU. 1978. Cyflwyno’r iaith lenyddol. Y Bontfaen: D. Brown a’i feibion


Copyright Cardiff University. Registered charity no. 1136855