CY3710: Iaith, Gwleidyddiaeth a Gwrthdaro

School Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
Department Code WELSH
Module Code CY3710
External Subject Code 101016
Number of Credits 20
Level L6
Language of Delivery Welsh
Module Leader Professor Diarmait Mac Giolla Chriost
Semester Double Semester
Academic Year 2015/6

Outline Description of Module

Cyflwyniad i’r berthynas rhwng iaith, gwleidyddiaeth a gwrthdaro gan ganolbwyntio ar y cyfnod modern. Gosodir y datblygiadau hyn mewn cyd-destun cymharol, Ewropeaidd gan ganolbwyntio ar y Gymraeg a’r Wyddeleg.

On completion of the module a student should be able to

1     dangos gwybodaeth ynghylch iaith, gwleidyddiaeth a gwrthdaro a’r elfennau hanesyddol, gwleidyddol a deallusol sydd yn berthnasol i’r maes

2     gosod iaith, gwleidyddiaeth a gwrthdaro mewn cyd-destun cymharol, Ewropeaidd gan ganolbwyntio ar y Gymraeg a’r Wyddeleg

3     trin data a thystiolaeth (gan gynnwys mapiau, tablau a graffiau) yn feirniadol o safbwynt dehongli’r maes

4     trafod yn feirniadol iaith mewn cyd-destunau o wrthdaro

5     dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol wrth gyflwyno gwaith mewn dull proffesiynol a graenus

How the module will be delivered

Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy gyfuniad o ddarlithoedd, gweithdai/seminarau a thiwtorialau. Bydd y darlithoedd yn gosod canllawiau ac yn cyflwyno darlun pwrpasol o’r maesBydd y gweithdai/ seminarau yn gosod canllawiau ac yn cyflwyno darlun pwrpasol o’r maes

Skills that will be practised and developed

Medrau a gaiff eu hymarfer a’u meithrin

Wedi cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr nodweddiadol yn gallu:

 

Medrau academaidd

  • dangos gwybodaeth ynghylch iaith, gwleidyddiaeth a gwrthdaro a’r elfennau hanesyddol, gwleidyddol a deallusol sydd yn berthnasol i’r maes
  • dangos cynefindra â ffynonellau cyfeirio safonol yn y maes

 

Medrau penodol y pwnc

  • gosod iaith, gwleidyddiaeth a gwrthdaro mewn cyd-destun cymharol, Ewropeaidd gan ganolbwyntio ar y Gymraeg a’r Wyddeleg
  • trin data a thystiolaeth (gan gynnwys mapiau, tablau a graffiau) yn feirniadol o safbwynt dehongli’r maes
  • trafod yn feirniadol iaith mewn cyd-destunau o wrthdaro

 

Medrau cyflogadwyedd

  • cynnull a chyflwyno gwybodaeth yn feirniadol, yn gydlynus ac yn raenus
  • crynhoi ac arfarnu cysyniadau a safbwyntiau ac ymdrin â hwy yn feirniadol ac yn ddadansoddol
  • dadlau yn rhesymegol;
  • gweithio mewn grwpiau ac fesul unigolion mewn seminarau a gweithdai
  • asesu damcaniaethau gwahanol.

How the module will be assessed

Ffurfiannol

Bydd cyfle i gael adborth ar lafar ar gyflwyniadau a thrafodaethau llafar ac mewn seminarau a sesiynau darllen. Rhoddir adborth ysgrifenedig fesul unigolyn ar bob un darn o asesu crynodol.

 

Crynodol

Asesir y modiwl drwy ddau ddull gwahanol: arholiad a thraethawd

 

Bydd yr arholiad yn gofyn ichi ymateb i ddeilliannau 1 i 5.

 

Bydd y traethawd yn gofyn ichi ymateb i ddeilliannau 1, a 3 i 5. Ar gyfer ateb y traethawd, rhagwelir y bydd modd dewis rhwng y Gymraeg a’r Wyddeleg fel astudiaeth achos.

Y potensial ar gyfer ailasesu yn y modiwl hwn

 

Fel rheol, bydd cyfle i fyfyrwyr sy’n methu’r modiwl gael eu hailasesu drwy ailgyflwyno neu ailsefyll yr elfen(nau) a fethwyd yn ystod cyfnod arholi’r haf. Fodd bynnag, mae gan Fwrdd Arholi’r BA yr hawl i amrywio’r asesu hwn neu i benderfynu na all myfyriwr penodol ailsefyll.

 

Assessment Breakdown

Type % Title Duration(hrs)
Exam - Autumn Semester 50 Iaith, Gwleidyddiaeth A Gwrthdaro 1.5
Report 50 Traethawd N/A

Syllabus content

Cynnwys y maes llafur

 

  • Amrywiaeth ieithyddol a’r wladwriaeth genhedlig yn yr Ewrop fodern
  • Diffinio gwrthdaro ieithyddol
  • Ideoleg ac iaith: hunaniaeth, cenedlaetholdeb a phŵer
  • Astudiaethau achos: y Gymraeg, yr Wyddeleg; ac astudiaethau dewisol, er enghraifft: Gwlad y Basg, Corsica, Cymru, Yr Hen Iwgoslafia, Latfia
  • Tensiynau ieithyddol mewn byd sy’n globaleiddio
  • Rheoli a datrys gwrthdaro ieithyddol

 

Essential Reading and Resource List

Deunyddiau Darllen a Rhestr Adnoddau:

 

CALVET, L-J. (1998). Language Wars and Linguistic Politics (Rhydychen: Oxford University Press)

DE VARENNES, F. (1996). Languages, Minorities and Human Rights (Yr Hâg: Kluwer Law International)

FISHMAN, J. A. (1989). Language and Ethnicity in Minority Sociolinguistic Perspective (Clevedon: Multilingual Matters)

MAR-MOLINERO, C. & SMITH, A. (goln, 1996). Nationalism and the Nation in the Iberian Peninsula: Competing and Conflicting Identities (Rhydychen: Berg).

MAY, S. (2001). Language and Minority Rights. Ethnicity, Nationalism and the Politics of Language (Harlow:  Longman)

MAC GIOLLA CHRÍOST, D. (2003). Language, Identity and Conflict (Llundain: Routledge)

MAC GIOLLA CHRíOST, D. (2012). Jailtacht. The Irish Language, Symbolic Power and Political Violence in Northern Ireland, 1972-2008 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

NELDE, P. H., LABRIE, N. & WILLIAMS, C. H. (1992). 'The principles of territoriality and personality in the solution of linguistic conflicts', Journal of Multilingual and Multilingual Development, 13:5, 387-406

PHILLIPS, Dylan (1998). Trwy Ddulliau Chwyldro . . . ? Hanes Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 1962–1992 (Llandysul: Gwasg Gomer)

SKUTNABB-KANGAS, T. (2000). Linguistic Genocide in Education – Or Worldwide Diversity and Human Rights? (Lawrence Erlbaum Associates, Inc.)

SZPORLUK, R. (gol., 1994). National Identity and Ethnicity in Russia and the New States of Eurasia (Efrog Newydd: M. E. Sharp)

WARDHAUGH, R. (1987). Languages in Competition. Dominance, Diversity and Decline (Rhydychen: Basil Blackwell)

WILLIAMS, C. H. (1984). 'More than tongue can tell: linguistic factors in ethnic separatism', yn Linguistic Mnorities, Policies and Pluralism, gol. J. Edwards (Llundain: Academic Press), 179-219

 


Copyright Cardiff University. Registered charity no. 1136855