CY3710: Iaith, Gwleidyddiaeth a Gwrthdaro
School | Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd |
Department Code | WELSH |
Module Code | CY3710 |
External Subject Code | 101016 |
Number of Credits | 20 |
Level | L6 |
Language of Delivery | Welsh |
Module Leader | Professor Diarmait Mac Giolla Chriost |
Semester | Double Semester |
Academic Year | 2013/4 |
Outline Description of Module
Cyflwyniad i’r berthynas rhwng iaith, gwleidyddiaeth a gwrthdaro gan ganolbwyntio ar y cyfnod modern. Gosodir y datblygiadau hyn mewn cyd-destun cymharol, Ewropeaidd gan ganolbwyntio ar y Gymraeg a’r Wyddeleg.
On completion of the module a student should be able to
1 dangos gwybodaeth ynghylch iaith, gwleidyddiaeth a gwrthdaro a’r elfennau hanesyddol, gwleidyddol a deallusol sydd yn berthnasol i’r maes
2 gosod iaith, gwleidyddiaeth a gwrthdaro mewn cyd-destun cymharol, Ewropeaidd gan ganolbwyntio ar y Gymraeg a’r Wyddeleg
3 trin data a thystiolaeth (gan gynnwys mapiau, tablau a graffiau) yn feirniadol o safbwynt dehongli’r maes
4 trafod yn feirniadol iaith mewn cyd-destunau o wrthdaro
5 dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol wrth gyflwyno gwaith mewn dull proffesiynol a graenus
How the module will be delivered
Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy gyfuniad o ddarlithoedd, gweithdai/seminarau a thiwtorialau. Bydd y darlithoedd yn gosod canllawiau ac yn cyflwyno darlun pwrpasol o’r maesBydd y gweithdai/ seminarau yn gosod canllawiau ac yn cyflwyno darlun pwrpasol o’r maes
Skills that will be practised and developed
Medrau academaidd
- dangos gwybodaeth ynghylch iaith, gwleidyddiaeth a gwrthdaro a’r elfennau hanesyddol, gwleidyddol a deallusol sydd yn berthnasol i’r maes
- dangos cynefindra â ffynonellau cyfeirio safonol yn y maes
Medrau penodol y pwnc
- gosod iaith, gwleidyddiaeth a gwrthdaro mewn cyd-destun cymharol, Ewropeaidd gan ganolbwyntio ar y Gymraeg a’r Wyddeleg
· trin data a thystiolaeth (gan gynnwys mapiau, tablau a graffiau) yn feirniadol o safbwynt dehongli’r maes
- trafod yn feirniadol iaith mewn cyd-destunau o wrthdaro
Medrau cyflogadwyedd
- cynnull a chyflwyno gwybodaeth yn feirniadol, yn gydlynus ac yn raenus
- crynhoi ac arfarnu cysyniadau a safbwyntiau ac ymdrin â hwy yn feirniadol ac yn ddadansoddol
- dadlau yn rhesymegol;
- gweithio mewn grwpiau ac fesul unigolion mewn seminarau a gweithdai
- asesu damcaniaethau gwahanol.
How the module will be assessed
Ffurfiannol
Bydd cyfle i gael adborth ar lafar ar gyflwyniadau a thrafodaethau llafar ac mewn seminarau a sesiynau darllen. Rhoddir adborth ysgrifenedig fesul unigolyn ar bob un darn o asesu crynodol.
Crynodol
Asesir y modiwl drwy ddau ddull gwahanol: arholiad a thraethawd
Bydd yr arholiad yn gofyn ichi ymateb i ddeilliannau 1 i 5.
Bydd y traethawd yn gofyn ichi ymateb i ddeilliannau 1, a 3 i 5. Ar gyfer ateb y traethawd, rhagwelir y bydd modd dewis rhwng y Gymraeg a’r Wyddeleg fel astudiaeth achos.
Assessment Breakdown
Type | % | Title | Duration(hrs) |
---|---|---|---|
Exam - Autumn Semester | 50 | Iaith, Gwleidyddiaeth A Gwrthdaro | 1.5 |
Written Assessment | 50 | Iaith, Gwleidyddiaeth A Gwrthdaro | N/A |
Syllabus content
· Amrywiaeth ieithyddol a’r wladwriaeth genhedlig yn yr Ewrop fodern
· Diffinio gwrthdaro ieithyddol
· Ideoleg ac iaith: hunaniaeth, cenedlaetholdeb a phŵer
· Astudiaethau achos: y Gymraeg, yr Wyddeleg; ac astudiaethau dewisol, er enghraifft: Gwlad y Basg, Corsica, Cymru, Yr Hen Iwgoslafia, Latfia
· Tensiynau ieithyddol mewn byd sy’n globaleiddio
· Rheoli a datrys gwrthdaro ieithyddol
Essential Reading and Resource List
CALVET, L-J. (1998). Language Wars and Linguistic Politics (Rhydychen:Oxford University Press)
DE VARENNES, F. (1996). Languages, Minorities and Human Rights (Yr Hâg: Kluwer Law International)
FISHMAN, J. A. (1989). Language and Ethnicity in Minority Sociolinguistic Perspective (Clevedon: Multilingual Matters)
MAR-MOLINERO, C. & SMITH, A. (goln, 1996). Nationalism and the Nation in the Iberian Peninsula: Competing and Conflicting Identities (Rhydychen: Berg).
MAY, S. (2001). Language and Minority Rights. Ethnicity, Nationalism and the Politics of Language (Harlow: Longman)
MAC GIOLLA CHRÍOST, D. (2003). Language, Identity and Conflict (Llundain: Routledge)
MAC GIOLLA CHRíOST, D. (2012). Jailtacht. The Irish Language, Symbolic Power and Political Violence in Northern Ireland, 1972-2008 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
NELDE, P. H., LABRIE, N. & WILLIAMS, C. H. (1992). 'The principles of territoriality and personality in the solution of linguistic conflicts', Journal of Multilingual and Multilingual Development,13:5, 387-406
PHILLIPS, Dylan (1998). Trwy Ddulliau Chwyldro . . . ? Hanes Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 1962–1992 (Llandysul: Gwasg Gomer)
SKUTNABB-KANGAS, T. (2000). Linguistic Genocide in Education – Or Worldwide Diversity and Human Rights? (Lawrence Erlbaum Associates, Inc.)
SZPORLUK, R. (gol., 1994). National Identity and Ethnicity in Russia and the New States of Eurasia (Efrog Newydd: M. E. Sharp)
WARDHAUGH, R. (1987). Languages in Competition. Dominance, Diversity and Decline (Rhydychen: Basil Blackwell)
WILLIAMS, C. H. (1984). 'More than tongue can tell: linguistic factors in ethnic separatism', yn Linguistic Mnorities, Policies and Pluralism, gol. J. Edwards (Llundain: Academic Press), 179-219