CY3610: Cynllunio Ieithyddol a Pholisi Iaith
School | Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd |
Department Code | WELSH |
Module Code | CY3610 |
External Subject Code | 100333 |
Number of Credits | 20 |
Level | L6 |
Language of Delivery | Welsh |
Module Leader | Dr Jeremy Evas |
Semester | Double Semester |
Academic Year | 2015/6 |
Outline Description of Module
Sut mae cynllunio iaith? Ydych chi am weithio yn y sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol yng Nghymru? Ydych am greu dyfodol mwy diogel i’r Gymraeg? Mae cynllunio ieithyddol a pholisi iaith yn faes a fydd yn datblygu’n sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf ymhob un o’r sectorau hyn a bydd y modiwl hwn yn rhoi gwybodaeth a sgiliau gwerthfawr i chi at y dasg.
Nod y modiwl hwn yw cynnig adnoddau proffesiynol i chi fanteisio i’r eithaf ar y datblygiadau hyn. Byddwch yn dysgu am gyd-destun polisi’r Gymraeg – pwy sy’n gyfrifol am lunio a gweithredu polisi? Sut mae ieithoedd yn cael eu hyrwyddo mewn gwledydd eraill? Beth yw’r gwersi y gallwn eu dysgu o’u sefyllfaoedd? Sut mae newid ymddygiad sydd wedi datblygu dros ganrifoedd? Ai’r llywodraeth, y gymuned, y sector preifat neu’r unigolyn sydd yn gyfrifol am ‘adfer’ y Gymraeg? A yw’n briodol ein bod yn trafod ‘adfer?’
On completion of the module a student should be able to
- Trafod dyfodol fframwaith polisi iaith yng Nghymru – beth yw swyddogaethau Comisiynydd y Gymraeg, Llywodraeth Cymru, a sefydliadau llywodraethol eraill y wlad?
- Dadansoddi cyfrifoldeb yr unigolyn o ran adfer y Gymraeg.
- Deall modelau cynllunio ieithyddol a pholisi iaith o sawl gwlad a chynnig dulliau o’u gweithredu yng Nghymru.
- Gwerthuso polisïau, strategaethau, ac ymchwil cynllunio ieithyddol yng Nghymru a’r tu hwnt.
- Deall sefyllfa polisi iaith Catalwnia, Gwlad y Basg, Seland Newydd, Iwerddon a Chanada
- dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol wrth gyflwyno gwaith mewn dull proffesiynol a graenus
How the module will be delivered
Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy gyfuniad o ddarlithoedd, gweithdai a seminarau. Mae’r darlithoedd yn gosod canllawiau ac yn trafod prif elfennau’r maes, a’r seminarau a’r yn estyn cyfle i drafod, rhyngweithio ac ymarfer trin elfennau cynllunio ieithyddol a pholisi iaith yn feirniadol.
Skills that will be practised and developed
Wedi cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr nodweddiadol yn gallu:
Medrau Academaidd
- trafod theorïau am gynllunio ieithyddol a pholisi iaith
- gosod datblygiadau cyfredol yng Nghymru mewn cyd-destun rhyngwladol
- llunio synthesis o’r disgwrs polisi iaith ar sail ymchwil a dadansoddi personol
Medrau penodol y pwnc
- trin data a thystiolaeth (gan gynnwys mapiau, tablau a graffiau) yn feirniadol o safbwynt dehongli’r maes
- trafod yn feirniadol ddatblygiadau cyfredol ym maes cynllunio ieithyddol a pholisi iaith
Medrau Personol a Chyflogadwyedd
- cyfranogi o drafodaethau a gwaith grŵp
- cynnull a chyflwyno gwybodaeth yn feirniadol ac yn raenus
- crynhoi ac arfarnu cysyniadau a safbwyntiau ac ymdrin â hwy yn feirniadol ac yn ddadansoddol
- dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol.
How the module will be assessed
Mae’r traethodau yn gofyn i fyfyrwyr gywain gwybodaeth berthnasol o wahanol ffynonellau a’i defnyddio’n ddeallus, yn drefnus ac yn raenus mewn wrth ysgrifennu’n estynedig.
Assessment Breakdown
Type | % | Title | Duration(hrs) |
---|---|---|---|
Report | 30 | Traethawd 1 | N/A |
Presentation | 15 | Cyflwyniad Grŵp Semester 1 | N/A |
Report | 40 | Traethawd 2 | N/A |
Presentation | 15 | Cyflwyniad Grŵp Semester 2 | N/A |
Syllabus content
- Diffinio cynllunio ieithyddol a’r fframweithiau a ddefnyddir i’w weithredu
- Cynllunio statws iaith
- Cynllunio corpws iaith
- Cynllunio ar gyfer caffael iaith
- Gwerthusiad o gyfraniad polisïau Bwrdd yr Iaith Gymraeg
- Ble byddech chi’n rhoi arian i hyrwyddo’r Gymraeg?
- Polisïau y Cynghorau Lleol a sefydliadau y sector cyhoeddus
- Dylanwad y disgwrs gwleidyddol ar ddyfodol y Gymraeg
- Datblygiad, cyfraniad a dyfodol y Mentrau Iaith
- Potensial Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i adfer y Gymraeg
- Polisïau Llywodraeth Cymru
- Arwyddocâd a gwaith Comisiynydd y Gymraeg
- Hawliau ieithyddol
- Syniadau newydd: damcaniaeth ‘Nudge’ a ‘MINDSPACE’ i newid ymddygiad ieithyddol
- Cynllunio ieithyddol ar sail ‘deilliannau’ ieithyddol – ac nid proses
- Agweddau holistaidd ar gynllunio integredig h.y. diwylliant, economi a’r cyfryngau
- Y gymhariaeth ryngwladol: Catalonia, Gwlad y Basg a Chanada; polisïau’r Undeb Ewropeaidd
Essential Reading and Resource List
Bwrdd yr iaith Gymraeg (2012), ‘Cynllun Grantiau’r Bwrdd’, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Caerdydd http://www.webarchive.org.uk/wayback/archive/20120330000658/http://www.byig-wlb.org.uk/cymraeg/gwasanaethau/pages/prifgynllungrantiau%27rbwrdd.aspx
Bwrdd yr Iaith Gymraeg (2012), Bwrdd Yr Iaith Gymraeg: Adolygiad 1993-2012,Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Caerdydd, http://www.webarchive.org.uk/wayback/archive/20120330001008/http://www.byig-wlb.org.uk/cymraeg/cyhoeddiadau/pages/publicationitem.aspx?puburl=http://www.byig-wlb.org.uk/cymraeg/cyhoeddiadau/cyhoeddiadau/20120312%20dg%20adolygiad%20diwedd%20y%20bwrdd.pdf
Comisiynydd y Gymraeg (2013), ‘Hafan Data Ac Ystadegau’ Comisiynydd y Gymraeg, Caerdydd, http://www.comisiynyddygymraeg.org/cymraeg/cymorth/dataacystadegau/pages/hafandataacystadegau.aspx
Evas, J (2011). Cynyddu defnyddio'r Gymraeg ar sail 'deilliannau': canllaw i sefydliadau sy'n derbyn grant gan y Bwrdd, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Caerdydd (http://www.webarchive.org.uk/wayback/archive/20120330003116/http://www.byig-wlb.org.uk/cymraeg/cyhoeddiadau/pages/publicationitem.aspx?puburl=/cymraeg/cyhoeddiadau/cyhoeddiadau/2010612%20dg%20c%20hyrwyddo%27r%20gymraeg%20ar%20sail%20%27deilliannau%20-%20canllaw%20f4.doc)
Fishman, J. A. (1993). Reversing language shift (Clevedon: Multilingual Matters)
Fishman, J. A. (2001). Can threatened languages be saved? (Clevedon: Multilingual Matters)
Jenkins, G. H. (2000, gol.). ‘eu hiaith a gadwant?’ (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)
Williams, C. H. (2000, gol.). Language revitalization: policy and planning in Wales (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)
Williams, C.H. (2008) Linguistic minorities in democratic context, (Basingstoke:Palgrave)
Williams, G. A MORRIS, D. (2000). Language planning and language use: Welsh in a global age (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)