CY3610: Cynllunio Ieithyddol a Pholisi Iaith

School Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
Department Code WELSH
Module Code CY3610
External Subject Code 100333
Number of Credits 20
Level L6
Language of Delivery Welsh
Module Leader Dr Jeremy Evas
Semester Double Semester
Academic Year 2013/4

Outline Description of Module

Sut mae cynllunio iaith? Ydych chi am weithio yn y sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol yng Nghymru? Ydych am greu dyfodol mwy diogel i’r Gymraeg? Mae cynllunio ieithyddol a pholisi iaith yn faes a fydd yn datblygu’n sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf ymhob un o’r sectorau hyn a bydd y modiwl hwn yn rhoi gwybodaeth a sgiliau gwerthfawr i chi at y dasg.

Nod y modiwl hwn yw cynnig adnoddau proffesiynol i chi fanteisio i’r eithaf ar y datblygiadau hyn.  Byddwch yn dysgu am gyd-destun polisi’r Gymraeg – pwy sy’n gyfrifol am lunio a gweithredu polisi? Sut mae ieithoedd yn cael eu hyrwyddo mewn gwledydd eraill? Beth yw’r gwersi y gallwn eu dysgu o’u sefyllfaoedd? Sut mae newid ymddygiad sydd wedi datblygu dros ganrifoedd? Ai’r llywodraeth, y gymuned, y sector preifat neu’r unigolyn sydd yn gyfrifol am ‘adfer’ y Gymraeg? A yw’n briodol ein bod yn trafod ‘adfer?’

On completion of the module a student should be able to

  1. Trafod dyfodol fframwaith polisi iaith yng Nghymru – beth yw swyddogaethau Comisiynydd y Gymraeg, Llywodraeth Cymru, a sefydliadau llywodraethol eraill y wlad?
  2. Dadansoddi cyfrifoldeb yr unigolyn o ran adfer y Gymraeg.
  3. Deall modelau cynllunio ieithyddol a pholisi iaith o sawl gwlad a chynnig dulliau o’u gweithredu yng Nghymru.
  4. Gwerthuso polisïau, strategaethau, ac ymchwil cynllunio ieithyddol yng Nghymru a’r tu hwnt.
  5. Deall sefyllfa polisi iaith Catalwnia, Gwlad y Basg, Seland Newydd, Iwerddon a Chanada
  6. dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol wrth gyflwyno gwaith mewn dull proffesiynol a graenus

How the module will be delivered

Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy gyfuniad o ddarlithoedd, gweithdai a seminarau. Mae’r darlithoedd yn gosod canllawiau ac yn trafod prif elfennau’r maes, a’r seminarau a’r yn estyn cyfle i drafod, rhyngweithio ac ymarfer trin elfennau cynllunio ieithyddol a pholisi iaith yn feirniadol.

Skills that will be practised and developed

Wedi cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr nodweddiadol yn gallu:

Medrau Academaidd

  • trafod theorïau am gynllunio ieithyddol a pholisi iaith
  • gosod datblygiadau cyfredol yng Nghymru mewn cyd-destun rhyngwladol
  • llunio synthesis o’r disgwrs polisi iaith ar sail ymchwil a dadansoddi personol

Medrau penodol y pwnc

  • trin data a thystiolaeth (gan gynnwys mapiau, tablau a graffiau) yn feirniadol o safbwynt dehongli’r maes
  • trafod yn feirniadol ddatblygiadau cyfredol ym maes cynllunio ieithyddol a pholisi iaith

Medrau Personol a Chyflogadwyedd

  • cyfranogi o drafodaethau a gwaith grŵp
  • cynnull a chyflwyno gwybodaeth yn feirniadol ac yn raenus
  • crynhoi ac arfarnu cysyniadau a safbwyntiau ac ymdrin â hwy yn feirniadol ac yn ddadansoddol
  • dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol.  

How the module will be assessed

Mae’r traethodau yn gofyn i fyfyrwyr gywain gwybodaeth berthnasol o wahanol ffynonellau a’i defnyddio’n ddeallus, yn drefnus ac yn raenus mewn wrth ysgrifennu’n estynedig.

Assessment Breakdown

Type % Title Duration(hrs)
Written Assessment 50 Cynllunio Ieithyddol A Pholisi Iaith Traethawd Yr Hydref (2000 O Eiriau) N/A
Written Assessment 50 Cynllunio Ieithyddol A Pholisi Iaith Traethawd Y Gwanwyn (2000 O Eiriau) N/A

Syllabus content

  • Diffinio cynllunio ieithyddol a’r fframweithiau a ddefnyddir i’w weithredu
  • Cynllunio statws iaith
  • Cynllunio corpws iaith
  • Cynllunio ar gyfer caffael iaith
  • Gwerthusiad o gyfraniad polisïau Bwrdd yr Iaith Gymraeg
  • Ble byddech chi’n rhoi arian i hyrwyddo’r Gymraeg?
  • Polisïau y Cynghorau Lleol a sefydliadau y sector cyhoeddus
  • Dylanwad y disgwrs gwleidyddol ar ddyfodol y Gymraeg
  • Datblygiad, cyfraniad a dyfodol y Mentrau Iaith
  • Potensial Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i adfer y Gymraeg
  • Polisïau Llywodraeth Cymru
  • Arwyddocâd a gwaith Comisiynydd y Gymraeg
  • Hawliau ieithyddol
  • Syniadau newydd: damcaniaeth ‘Nudge’ a ‘MINDSPACE’ i newid ymddygiad ieithyddol
  • Cynllunio ieithyddol ar sail ‘deilliannau’ ieithyddol – ac nid proses
  • Agweddau holistaidd ar gynllunio integredig h.y. diwylliant, economi a’r cyfryngau
  • Y gymhariaeth ryngwladol: Catalonia, Gwlad y Basg a Chanada; polisïau’r Undeb Ewropeaidd

Essential Reading and Resource List

Bwrdd yr iaith Gymraeg (2012), ‘Cynllun Grantiau’r Bwrdd’, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Caerdydd http://www.webarchive.org.uk/wayback/archive/20120330000658/http://www.byig-wlb.org.uk/cymraeg/gwasanaethau/pages/prifgynllungrantiau%27rbwrdd.aspx

Bwrdd yr Iaith Gymraeg (2012), Bwrdd Yr Iaith Gymraeg: Adolygiad 1993-2012,Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Caerdydd, http://www.webarchive.org.uk/wayback/archive/20120330001008/http://www.byig-wlb.org.uk/cymraeg/cyhoeddiadau/pages/publicationitem.aspx?puburl=http://www.byig-wlb.org.uk/cymraeg/cyhoeddiadau/cyhoeddiadau/20120312%20dg%20adolygiad%20diwedd%20y%20bwrdd.pdf

Comisiynydd y Gymraeg (2013), ‘Hafan Data Ac Ystadegau’ Comisiynydd y Gymraeg, Caerdydd, http://www.comisiynyddygymraeg.org/cymraeg/cymorth/dataacystadegau/pages/hafandataacystadegau.aspx

Evas, J (2011). Cynyddu defnyddio'r Gymraeg ar sail 'deilliannau': canllaw i sefydliadau sy'n derbyn grant gan y Bwrdd, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Caerdydd (http://www.webarchive.org.uk/wayback/archive/20120330003116/http://www.byig-wlb.org.uk/cymraeg/cyhoeddiadau/pages/publicationitem.aspx?puburl=/cymraeg/cyhoeddiadau/cyhoeddiadau/2010612%20dg%20c%20hyrwyddo%27r%20gymraeg%20ar%20sail%20%27deilliannau%20-%20canllaw%20f4.doc)

Fishman, J. A. (1993). Reversing language shift (Clevedon: Multilingual Matters)

Fishman, J. A. (2001). Can threatened languages be saved? (Clevedon: Multilingual Matters)

Jenkins, G. H. (2000, gol.). ‘eu hiaith a gadwant?’ (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)

Williams, C. H. (2000, gol.). Language revitalization: policy and planning in Wales (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)

Williams, C.H. (2008) Linguistic minorities in democratic context, (Basingstoke:Palgrave)

Williams, G. A MORRIS, D. (2000). Language planning and language use: Welsh in a global age (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)


Copyright Cardiff University. Registered charity no. 1136855