CY3510: Cymraeg i Oedolion
School | Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd |
Department Code | WELSH |
Module Code | CY3510 |
External Subject Code | 100333 |
Number of Credits | 20 |
Level | L6 |
Language of Delivery | Welsh |
Module Leader | Dr Adrian Price |
Semester | Double Semester |
Academic Year | 2013/4 |
Outline Description of Module
Bydd y modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i’r prif ddamcaniaethau a methodolegau dysgu ynghylch Cymraeg i Oedolion. Gwneir hynny drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau a gweithdai a thrwy arsylwi gwersi Cymraeg i Oedolion. Byddwch hefyd yn
astudio’r ffactorau sy’n allweddol i lwyddiant dosbarth iaith a thrwy hynny yn llunio gweithgareddau iaith sy’n addas i ddysgwyr.
Bydd y modiwl hwn yn ddefnyddiol i’r rheini sydd â diddordeb mewn addysgu neu mewn gwaith ymchwil i’r sector Cymraeg i Oedolion neu ddysgu ail iaith
On completion of the module a student should be able to
1 dangos gwybodaeth am ddatblygiad Cymraeg i Oedolion a’r prif gyrchddulliau a dulliau dysgu
2 dangos dealltwriaeth o ffyrdd o ddatblygu’r pedair sgìl (siarad, ysgrifennu, gwrando, darllen)
3 gwerthfawrogi gwahaniaethau rhwng dysgwyr
4 dadansoddi’r ffactorau sydd yn allweddol i lwyddiant dosbarth ail-iaith
5 gwerthuso effeithiolrwydd cyrchddulliau a methodolegau dysgu
6 dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol wrth gyflwyno gwaith mewn dull proffesiynol a graenus
How the module will be delivered
Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy gyfuniad o ddarlithoedd, gweithdai/seminarau a sesiynau arsylwi ar DVD. Bydd y darlithoedd yn
cyflwyno darlun pwrpasol o’r sector. Bydd y gweithdai/ seminarau yn trafod sut y gellir defnyddio damcaniaethau cyffredinol am y sector. Bydd y sesiynau arsylwi ar DVD yn fodd i dafoli effeithiolrwydd ymarferol technegau dysgu ac addysgu.
Skills that will be practised and developed
Wedi cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr nodweddiadol yn gallu:
Medrau academaidd
- cloriannu a chymhwyso gwahanol fethodolegau dysgu
- darllen yn annibynnol a chymhwyso gwybodaeth
Medrau penodol y pwnc
- gwybod am ddatblygiad a dulliau dysgu Cymraeg i Oedolion
- dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol
Medrau cyflogadwyedd
· bod yn ymwybodol o’r ffactorau sydd yn allweddol i lwyddiant dosbarth iaith
· gwerthuso effeithiolrwydd cyrchddulliau a methodolegau dysgu drwy arsylwi gwersi Cymraeg i Oedolion ar DVD
How the module will be assessed
Ffurfiannol
Bydd cyfle i gael adborth ar lafar yn y gweithdai a’r seminarau. Rhoddir adborth ysgrifenedig fesul unigolyn ar bob un darn o asesu crynodol.
Crynodol
Asesir y modiwl drwy ddau ddull gwahanol: arholiad a thraethawd.
Assessment Breakdown
Type | % | Title | Duration(hrs) |
---|---|---|---|
Exam - Spring Semester | 50 | Cymraeg I Oedolion | 1.5 |
Portfolio | 50 | Cymraeg I Oedolion | N/A |
Syllabus content
· Dysgu ail iaith
· Hanes Cymraeg i Oedolion
· Methodolegau dysgu
· Llunio gweithgareddau iaith
· Arsylwi gwersi
Essential Reading and Resource List
Cymraeg i Oedolion – Gwersi: Testunau. 2010. DVD. Cyfarwyddwr Carole Bradley Caerdydd Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Evans, E. M. 2001 Pwy Sy’n Cofio Siôn. Llandysul: Gomer http://www.ybont.org/
wersidulliauter Aithdai cyflwyno gweithgareddau ail-iaithwn iaith estron
Jones, Christine gol., 2000. Cyflwyno’r Gymraeg. Llandysul: Gwasg Gomer
Loh, A. a Price, A. 2010 Cwrs Canolradd. Caerdydd: Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg
Mac Giolla Chríost, D. ac eraill. 2012 Adroddiad yn trafod Ymagweddau, Methodolegau ac Adnoddau Dysgu ac Addysgu Cymraeg i Oedolion: Astudiaeth Ymchwil Gynhwysfawr ac Adolygiad Beirniadol o’r Ffordd Ymlaen.Caerdydd: Prifysgol Caerdydd
Price, A. 1999. Gwallau a Chywiro: Y Cysyniad o ‘Rhyngiaith’. Cylchgrawn Addysg Cymru. 8, 1, tt. 70-80