CY3410: Rhyddiaith Ddiweddar
School | Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd |
Department Code | WELSH |
Module Code | CY3410 |
External Subject Code | 101163 |
Number of Credits | 20 |
Level | L6 |
Language of Delivery | Welsh |
Module Leader | Dr Rhiannon Marks |
Semester | Double Semester |
Academic Year | 2015/6 |
Outline Description of Module
Bydd y modiwl hwn yn edrych yn fanwl ar y datblygiadau cyffrous yn y nofel a'r stori fer er canol y 1980au. Yn ystod y cyfnod hwnnw daeth nifer o leisiau newydd a heriol i’r amlwg, gan gynnwys Wiliam Owen Roberts, Angharad Tomos, Robin Llywelyn, Mihangel Morgan, Owen Martell, Caryl Lewis ac Angharad Price. Mae’r cyfnod hefyd wedi gweld dadkau bywiog ar berthnasedd damcaniaethau megis ôl-foderniaeth i ryddiaith y Gymraeg.
Bydd y modiwl hwn, felly, yn ystyried rhai o weithiau pwysicaf y cyfnod yn eu cyd-destun cymdeithasol a syniadaethol.
On completion of the module a student should be able to
Ar ôl gorffen y modiwl yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu gwneud y canlynol:
1. dangos gwybodaeth am hanfodion ffuglen yn y cyfnod diweddar
2. deall sut y mae gweithiau ffuglen y cyfnod yn adlewyrchu cefndir cymdeithasol eu creu
3. trafod gweithiau ffuglen yn feirniadol ar fwy nag un lefel gan ddefnyddio technegau a therminoleg beirniadaeth lenyddol
4. dadansoddi arddull a thechnegau naratif mewn ffuglen
5. dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol wrth gyflwyno gwaith mewn dull proffesiynol a graenus
How the module will be delivered
Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy gyfuniad o ddarlithoedd, dosbarthiadau darllen, gweithdai/seminarau a thiwtorialau. Bydd y darlithoedd yn cyflwyno testunau yn eu cyd-destun ac yn ystyried themâu cyffredinol. Bydd y gweithdai/seminarau yn canolbwyntio ar destunau unigol ac yn trafod sut y gellir defnyddio damcaniaethau cyffredinol am y maes i drafod testunau unigol.
Skills that will be practised and developed
Wedi cwblhlau’r modiwl, bydd myfyrwyr nodweddiadol yn gallu:
Medrau academaidd
· ymdrin â thestunau sy’n perthyn i gyfnod hanesyddol penodol
· creu dadleuon soffistigedig ar sail amrywiaeth o destunau
Medrau penodol y pwnc
· dangos gwybodaeth ddeallus ynghylch awduron a thestunau modern
· defnyddio llenyddiaeth feirniadol safonol yn y maes mewn modd dadansoddol
Medrau cyflogadwyedd
· cywain, dadansoddi a chyflwyno gwybodaeth ar bapur ac ar lafar
· trafod maes cymhleth yn ddeallus mewn seminar gan ddangos y gallu i wrando ar eraill ac ymateb iddynt
· cydweithio mewn grŵp i gynhyrchu a chyflwyno deunyddiau ar gyfer seminar
How the module will be assessed
Ffurfiannol
Bydd cyfle i gael adborth ar lafar ar gyflwyniadau a thrafodaethau llafar mewn seminarau a sesiynau darllen. Rhoddir adborth ysgrifenedig fesul unigolyn ar bob un darn o asesu crynodol.
Crynodol
Asesir y modiwl drwy ddau ddull gwahanol: traethawd (hyd at 2,000 o eiriau) ac arholiad (1.5 awr).
Assessment Breakdown
Type | % | Title | Duration(hrs) |
---|---|---|---|
Report | 50 | Traethawd Sem 1 | N/A |
Exam - Spring Semester | 50 | Rhyddiaith Ddiweddar | 1.5 |
Syllabus content
· Egwyddorion ffuglen
· Technegau naratif
· Ôl-foderniaeth
· Y gymdeithas Gymraeg cyn ac ar ôl datganoli
· Astudiaeth o waith awduron o blith y canlynol: Robin Llywelyn, Mihangel Morgan, Angharad Tomos, Wiliam Owen Roberts, Owen Martell, Caryl Lewis, Llwyd Owen, Angharad Price ac eraill.
Essential Reading and Resource List
Lewis, Caryl (2004). Martha, Jac a Sianco (Tal-y-bont: Y Lolfa)
Llywelyn, Robin (1992). Seren Wen ar Gefndir Gwyn (Llandysul: Gwasg Gomer)
— (1995).Y Dŵr Mawr Llwyd (Llandysul: Gwasg Gomer)
Martell, Owen (2000). Cadw dy Ffydd, Brawd (Llandysul: Gwasg Gomer)
Morgan, Mihangel (1993). Dirgel Ddyn (Llandysul: Gwasg Gomer)
— (1994). Te Gyda'r Frenhines (Llandysul: Gwasg Gomer)
Price, Angharad (2002). Rhwng Gwyn a Du [:] Agweddau ar Ryddiaith Gymraeg y 1990au (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)
— (2002), O! Tyn y Gorchudd (Llandysul: Gwasg Gomer)
Roberts, Wiliam Owen (1985),Bingo! (Pen-y-groes: Gwasg Dwyfor)
— (1987). Y Pla (Bangor: Annwn)
Rowlands, John (2000, gol.). Y Sêr yn eu Graddau: Golwg ar Ffurfafen y Nofel Gymraeg Ddiweddar (Caerdydd: Gwas Prifysgol Cymru)
Tomos, Angharad (1994). Titrwm (Tal-y-bont: Y Lolfa)