CY3410: Rhyddiaith Ddiweddar

School Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
Department Code WELSH
Module Code CY3410
External Subject Code 101163
Number of Credits 20
Level L6
Language of Delivery Welsh
Module Leader Dr Simon Brooks
Semester Double Semester
Academic Year 2013/4

Outline Description of Module

Bydd y modiwl hwn yn edrych yn fanwl ar y datblygiadau cyffrous yn y nofel a'r stori fer er canol y 1980au. Yn ystod y cyfnod hwnnw daeth nifer o leisiau newydd a heriol i’r amlwg, gan gynnwys Wiliam Owen Roberts, Angharad Tomos, Robin Llywelyn, Mihangel Morgan, Owen Martell, Caryl Lewis ac Angharad Price. Mae’r cyfnod hefyd wedi gweld dadkau bywiog ar berthnasedd damcaniaethau megis ôl-foderniaeth i ryddiaith y Gymraeg.

Bydd y modiwl hwn, felly, yn ystyried rhai o weithiau pwysicaf y cyfnod yn eu cyd-destun cymdeithasol a syniadaethol.

On completion of the module a student should be able to

Ar ôl gorffen y modiwl yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu gwneud y canlynol:

1.    dangos gwybodaeth am hanfodion ffuglen yn y cyfnod diweddar

2.    deall sut y mae gweithiau ffuglen y cyfnod yn adlewyrchu cefndir cymdeithasol eu creu

3.    trafod gweithiau ffuglen yn feirniadol ar fwy nag un lefel gan ddefnyddio technegau a therminoleg beirniadaeth lenyddol

4.    dadansoddi arddull a thechnegau naratif mewn ffuglen

5.    dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol wrth gyflwyno gwaith mewn dull proffesiynol a graenus

How the module will be delivered

Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy gyfuniad o ddarlithoedd, dosbarthiadau darllen, gweithdai/seminarau a thiwtorialau. Bydd y darlithoedd yn cyflwyno testunau yn eu cyd-destun ac yn ystyried themâu cyffredinol. Bydd y gweithdai/seminarau yn canolbwyntio ar destunau unigol ac yn trafod sut y gellir defnyddio damcaniaethau cyffredinol am y maes i drafod testunau unigol.

Skills that will be practised and developed

Wedi cwblhlau’r modiwl, bydd myfyrwyr nodweddiadol yn gallu:

Medrau academaidd

·         ymdrin â thestunau sy’n perthyn i gyfnod hanesyddol penodol

·         creu dadleuon soffistigedig ar sail amrywiaeth o destunau

Medrau penodol y pwnc

·         dangos gwybodaeth ddeallus ynghylch awduron a thestunau modern

·         defnyddio llenyddiaeth feirniadol safonol yn y maes mewn modd dadansoddol

Medrau cyflogadwyedd

·         cywain, dadansoddi a chyflwyno gwybodaeth ar bapur ac ar lafar

·         trafod maes cymhleth yn ddeallus mewn seminar gan ddangos y gallu i wrando ar eraill ac ymateb iddynt

·         cydweithio mewn grŵp i gynhyrchu a chyflwyno deunyddiau ar gyfer seminar

How the module will be assessed

Ffurfiannol

Bydd cyfle i gael adborth ar lafar ar gyflwyniadau a thrafodaethau llafar mewn seminarau a sesiynau darllen. Rhoddir adborth ysgrifenedig fesul unigolyn ar bob un darn o asesu crynodol.

Crynodol

Asesir y modiwl drwy ddau ddull gwahanol: traethawd (hyd at 2,000 o eiriau) ac arholiad (1.5 awr).

Assessment Breakdown

Type % Title Duration(hrs)
Written Assessment 50 Rhyddiaith Ddiweddar N/A
Exam - Spring Semester 50 Rhyddiaith Ddiweddar 1.5

Syllabus content

·        Egwyddorion ffuglen

·        Technegau naratif

·        Ôl-foderniaeth

·        Y gymdeithas Gymraeg cyn ac ar ôl datganoli

·        Astudiaeth o waith awduron o blith y canlynol: Robin Llywelyn, Mihangel Morgan, Angharad Tomos, Wiliam Owen Roberts, Owen Martell, Caryl Lewis, Llwyd Owen, Angharad Price ac eraill.

Essential Reading and Resource List

Lewis, Caryl (2004). Martha, Jac a Sianco (Tal-y-bont: Y Lolfa)

Llywelyn, Robin (1992). Seren Wen ar Gefndir Gwyn (Llandysul: Gwasg Gomer)

— (1995).Y Dŵr Mawr Llwyd (Llandysul: Gwasg Gomer)

Martell, Owen (2000). Cadw dy Ffydd, Brawd (Llandysul: Gwasg Gomer)

Morgan, Mihangel (1993). Dirgel Ddyn (Llandysul: Gwasg Gomer)

— (1994). Te Gyda'r Frenhines (Llandysul: Gwasg Gomer)

Price, Angharad (2002). Rhwng Gwyn a Du [:] Agweddau ar Ryddiaith Gymraeg y 1990au (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)

— (2002), O! Tyn y Gorchudd (Llandysul: Gwasg Gomer)

Roberts, Wiliam Owen (1985),Bingo! (Pen-y-groes: Gwasg Dwyfor)

— (1987). Y Pla (Bangor: Annwn)

Rowlands, John (2000, gol.). Y Sêr yn eu Graddau: Golwg ar Ffurfafen y Nofel Gymraeg Ddiweddar (Caerdydd: Gwas   Prifysgol Cymru)

Tomos, Angharad (1994). Titrwm (Tal-y-bont: Y Lolfa)


Copyright Cardiff University. Registered charity no. 1136855