CY3310: Llenyddiaeth Plant
School | Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd |
Department Code | WELSH |
Module Code | CY3310 |
External Subject Code | 101163 |
Number of Credits | 20 |
Level | L6 |
Language of Delivery | Welsh |
Module Leader | Dr Siwan Rosser |
Semester | Double Semester |
Academic Year | 2013/4 |
Outline Description of Module
Drwy gyflwyno’r theorïaudiweddaraf ym maes llenyddiaeth plant a thrwy fanylu ar ddetholiad o destunau Cymraeg, bydd y modiwl hwn yn archwilio swyddogaeth ac arwyddocâd llenyddiaeth plant yn ei chyd-destun hanesyddol, diwylliannol a theoretig. Cyflwynir y myfyrwyr i amrywiaeth o genres llenyddol, gan gynnwys barddoniaeth, cylchgronau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, straeon antur a ffuglen ar gyfer yr arddegau. Drwy gyfrwng y testunau archwilir themâu megis cenedligrwydd, crefydd, addysg a rhywedd (gender). Bydd cyfle i ddadansoddi rhai o glasuron byd llen plant, megis nofelau Moelona a T. Llew Jones yn ogystal a chwilota am destunau nad ydynt wedi derbyn nemor ddim sylw beirniadol. O ganlyniad, bydd y myfyrwyr yn ymgymryd a gwaith ymchwil gwreiddiol yn y maes a fydd y dyfnhau ein dealltwriaeth am arwyddocâd llenyddol a diwylliannol llenyddiaeth plant yng Nghymru.
On completion of the module a student should be able to
1. adnabod prif genres llenyddiaeth plant
2. olrhain datblygiad llenyddiaeth plant yng Nghymru gan gynnwys hanes cyhoeddi llyfrau plant
3. deall swyddogaeth ddiwylliannol llenyddiaeth plant mewn gwahanol gyd-destunau hanesyddol
4. cymhwyso theorïau beirniadol i destunau penodol
5. dadansoddi arddull a chynnwys llenyddiaeth plant
6. dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol wrth gyflwyno gwaith mewn dull proffesiynol a graenus
How the module will be delivered
Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy gyfuniad o ddarlithoedd, gweithdai/seminarau a thiwtorialau. Bydd y darlithoedd yn cyflwyno a thrafod hanes llenyddiaeth plant yng Nghymru a'r prif gysyniadau damcaniaethol rhyngwladol yn y maes. Bydd y gweithdai/ seminarau yn rhoi'r cyfle i'r myfyrwyr gymhwyso a herio'r prif gysyniadau hynny drwy archwilio detholiad o destunau Cymraeg penodol.
Skills that will be practised and developed
Medrau academaidd
Dadansoddi'n fanwl ddetholiad o destunau a ffynonellau cynradd ac eilaidd
Ymdrin yn feirniadol a damcaniaethau llenyddol perthnasol i lenyddiaeth plant a'u cymhwyso i destunau penodol
Ymgymryd ag ymchwil annibynnol a gwreiddiol dan gyfarwyddyd
Medrau penodol y pwnc
Deall arwyddocad a swyddogaeth lenyddol a diwylliannol llenyddiaeth plant yng Nghymru
Adnabod y berthynas rhwng llenyddiaeth plant a'i chyd-destun hanesyddol, diwylliannol ac ieithyddol
Olrhain hanes a datblygiad llenyddiaeth plant Gymraeg
Adnabod sut y mae ffactorau megis cenedligrwydd a rhywedd yn dylanwadu ar sut y caiff llenyddiaeth plant ei chreu a'i darllen
Medrau cyflogadwyedd
Cywain deunydd o amrywiaeth o ffynonellau cynradd ac eilaidd
Cyflwyno gwybodaeth a barn ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn dull proffesiynol ac eglur
Cydnabod mai goddrychol yw ymdriniaethau beirniadol a llenyddiaeth
Dod i gasgliadau teg a rhesymegol yn seiliedig ar dystiolaeth
How the module will be assessed
Ffurfiannol
Bydd cyfle i gael adborth ar lafar ar gyflwyniadau a thrafodaethau llafar ac mewn seminarau a sesiynau darllen. Rhoddir adborth ysgrifenedig fesul unigolyn ar bob un darn o asesu crynodol.
Crynodol
Asesir y modiwl drwy ddau ddull gwahanol: arholiad a thraethawd.
Bydd yr arholiad yn gofyn ichi ymateb arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch datblygiad llenyddiaeth plant yng Nghymru
(Deilliannau 1, 2, 3, 6)
Bydd y traethawd yn gofyn ichi gymhwyso cysyniadau beirniadol i ddetholiad o destunau penodol a gasglwyd drwy ymchwil gwreiddiol ac annibynnol (Deilliannau 4, 5, 6)
Assessment Breakdown
Type | % | Title | Duration(hrs) |
---|---|---|---|
Exam - Autumn Semester | 50 | Llenyddiaeth Plant | 1.5 |
Written Assessment | 50 | Llenyddiaeth Plant | N/A |
Syllabus content
Hanes a datblygiad llenyddiaeth plant yng Nghymru
theorïau beirniadol yn ymwneud âdadansoddi llenyddiaeth plant
Cenedligrwydd a Chymreictod
Rhywedd
Delweddu'r plentyn
Realaeth a ffantasi
Llenyddiaeth ar gyfer yr arddegau
Essential Reading and Resource List
JONES, Mairwen a Gwyn. 1983. Dewiniaid Difyr. Llandysul: Gwasg Gomer
HUWS, Gwilym. 1997. Llyfrau Plant: Children’s Books in Welsh 1900-91. Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru Aberystwyth
HUNT, Peter. gol. 2000. Understanding Children’s Literature.London: Routledge
NODLEMAN, Perry a REIMER, Mavis. 2003. The Pleasures of Children's Literature. Boston: Allyn and Bacon
PHILLIPS, Menna. 1998. 'Children's Literature in Welsh to 1950', yn Jones a Rees (goln), A Nation and its Books: a History of the Book in Wales, Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
ROSSER, Siwan. 2009. '"Albert Maywood": Brodorion America, Thomas Levi a dechreuadau'r stori antur i blant', Y Traethodydd (Gorffennaf), 134-73