CY3305: Dafydd ap Gwilym
School | Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd |
Department Code | WELSH |
Module Code | CY3305 |
External Subject Code | Q561 |
Number of Credits | 20 |
Level | L6 |
Language of Delivery | Welsh |
Module Leader | Dr Dylan Foster Evans |
Semester | Double Semester |
Academic Year | 2015/6 |
Outline Description of Module
Bardd mwyaf Cymru? Heb amheuaeth, Dafydd ap Gwilym oedd bardd Cymraeg mwyaf yr Oesoedd Canol, a bydd y modiwl hwn yn edrych mewn manylder ar waith y bardd dyfeisgar ac arloesol hwn. Byddwn yn ystyried pam y mae darllenwyr heddiw yn ymateb mor frwd i’w gerddi a’r modd y maent yn mynd i’r afael â themâu oesol megis pleser y foment, byrhoedledd bywyd, a pherthynas dyn â’i amgylchedd.
Byddwn yn astudio Dafydd yn ei gyd-destun llenyddol a hanesyddol, gan drafod ei berthynas â beirdd eraill a’i gyfraniadau aruthrol i genres y canu serch a’r canu mawl. Byddwn yn gofyn pam a sut y bu i’w gerddi oroesi hyd heddiw, ac yn ystyried pa nodweddion sy’n golygu ei fod yn unigryw ymhlith beirdd yr Oesoedd Canol.
Byddwn hefyd yn ystyried deongliadau mwy mentrus ar ei waith, gan gynnwys rhai Marcsaidd ac ôl-drefedigaethol, er mwyn gweld pa oleuni newydd a gawn ar waith Dafydd o’i ystyried yng nghyd-destun dulliau diweddar o ddarllen llenyddiaeth.
On completion of the module a student should be able to
- dangos gwybodaeth fanwl am gynnwys gerddi Dafydd ap Gwilym
- gwerthfawrogi nodweddion technegol ei farddoniaeth
- dadansoddi barddoniaeth o’r bedwaredd ganrif ar ddeg a thrafod perthynas ei ffurf a’i chynnwys â’i chyd-destun hanesyddol a chymdeithasol.
- dangos dealltwriaeth o wahanol ddulliau o drafod llenyddiaeth a chymwyso’r ddealltwriaeth honno i gerddi unigol.
- gwerthfawrogi pwysigrwydd y diwylliant llawysgrifol sydd wedi diogelu’r cerddi
- dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol.
How the module will be delivered
Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy gyfuniad o ddarlithoedd, gweithdai/dosbarthiadau darllen a seminarau. Bydd y darlithoedd yn cyflwyno cefndir Dafydd a’i oes ac yn trafod y dylanawdau posibl arno o’r tu mewn ac o’r tu allan i Gymru. Bydd y gweithdai/dosbarthiadau darllen yn canolbwyntio ar destunau unigol er mwyn meithrin sgiliau darllen a dehongli cywyddau. Bydd y seminarau yn trafod sut y gellir defnyddio damcaniaethau cyffredinol am y maes i ddehongli cerddi unigol.
Skills that will be practised and developed
Wedi cwblhlau’r modiwl, bydd myfyrwyr nodweddiadol yn gallu:
Medrau academaidd
- ymdrin â thestunau sy’n perthyn i ddiwylliant dieithr
- creu dadleuon soffistigedig ar sail amrywiaeth o destunau
- gallu trafod testunau sydd wedi eu ysgrifennu mewn iaith anghyfarwydd
Medrau penodol y pwnc
- defnyddio golygiad safonol i ddarllen cerddi canoloesol.
Medrau cyflogadwyedd
- dadansoddi tystiolaeth yn feirniadol;
- dadlau yn rhesymegol;
- gweithio mewn grwpiau ac fesul unigolion mewn seminarau a gweithdai
- asesu damcaniaethau gwahanol.
How the module will be assessed
Ffurfiannol: rhoddir adborth ar gyflwyniadau ar gerddi unigol a wnaed fesul grŵp a/neu unigolyn yn y dosbarth. Bydd myfyrywr yn derbyn taflen sylwadau ar bob darn o asesu crynodol.
Crynodol: Bydd y prawf dosbarth yn gofyn ichi adnabod cerddi unigol a thrafod arwyddocâd y themâu a’r technegau a welir ynddynt (Deilliannau 1, 2, 3, 6). Bydd y traethawd 1,000 gair yn gofyn ichi drafod yn gryno rhai agweddau ar ‘bersonoliaeth’ Dafydd ap Gwilym (Deilliannau 1, 4, 5, 6). Bydd y traethawd 2,000 gair yn disgwyl hefyd ichi allu cyfuno trafodaeth ar un o’r prif ddamcaniaethau yn y maes gydag adnabyddiaeth fanwl o gerddi perthnasol (Deilliannau 1, 2, 3, 4, 6).
Assessment Breakdown
Type | % | Title | Duration(hrs) |
---|---|---|---|
Written Assessment | 25 | Prawf Dosbarth | N/A |
Written Assessment | 25 | Gwaith Cwrs Sem 1 | N/A |
Written Assessment | 50 | Gwaith Cwrs Sem 2 | N/A |
Syllabus content
- sgiliau darllen cywyddau;
- astudiaeth fanwl o gerddi unigol;
- Dafydd a’r traddodiad mawl a dychan;
- canu natur a chanu serch;
- Dafydd a chrefydd;
- ymryson Dafydd a Gruffudd Gryg;
- perthynas Dafydd â llenyddiaeth boblogaidd a llenyddiaeth Ewropeaidd;
- y traddodiad llawysgrifol a dulliau golygu cywyddau
Dafydd a theori lenyddol
Essential Reading and Resource List
Golygiadau
JOHNSTON, Dafydd. gol. cyff. 2010. Cerddi Dafydd ap Gwilym. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
Astudiaethau
BROMWICH, Rachel. 1986. Aspects of the Poetry of Dafydd ap Gwilym. Cardiff: University of Wales Press
EDWARDS, Huw M. 1996. Dafydd ap Gwilym: Influences and Analogues. Oxford: Clarendon Press
FULTON, Helen. 1989. Dafydd ap Gwilym and the European Context. Cardiff: University of Wales Press
GRUFFYDD, R. Geraint. 1987. Dafydd ap Gwilym, Llên y Llenor. Caernarfon: Gwasg Pantycelyn
ROWLANDS, John. Gol. 1975. Dafydd ap Gwilym a Chanu Serch yr Oesoedd Canol. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru