CY3210: Hunaniaeth a Diwylliant y Wladfa

School Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
Department Code WELSH
Module Code CY3210
External Subject Code 100333
Number of Credits 20
Level L6
Language of Delivery Welsh
Module Leader Mr Walter Brooks
Semester Double Semester
Academic Year 2015/6

Outline Description of Module

Ers sefydlu’r Wladfa yn 1865 gan garfan fechan o Gymry, y mae hi wedi esgor ar amrywiaeth o ymatebion a theimladau. ‘Cymru fach dros y môr’, chwedl Lloyd George; darn o dir a ddylai fod o dan reolaeth y Wladwriaeth Genedlaethol ym marn swyddogion y llywodraeth yn Buenos Aires. Bron canrif a hanner ers glaniad y gwladfawyr cyntaf, y mae ymgais wladfaol fwyaf deheuol y Cymry wedi profi’n fenter â chanlyniadau hynod ddiddorol sy’n haeddu astudiaeth fanwl.

Bwriad y modiwl hwn yw bwrw golwg ar y Wladfa ers ei sefydlu hyd at y presennol trwy ddefnyddio ystod eang o ffynonellau academaidd a chynnyrch creadigol gan awduron o Gymru a Phatagonia. Y nod fydd ystyried datblygiad y Wladfa er mwyn darganfod a thrafod ei nodweddion unigryw, ei statws mytholegol a’i rhwymau parhaol â Chymru ar draws y degawdau.

On completion of the module a student should be able to

1.     dangos gwybodaeth am hanes y Wladfa ers ei sefydlu hyd at y presennol

2     ymdrin â thestunau llenyddol am y Wladfa gan awduron o Batagonia ac o Gymru

3     dadansoddi pwysigrwydd ac arwyddocâd y Wladfa gan gynnwys ei nodweddion ieithyddol, diwylliannol, gwleidyddol, crefyddol, ac economaidd.

4     dadansoddi datblygiad hunaniaeth unigryw Cymry Patagonia

5     dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol wrth gyflwyno gwaith mewn dull proffesiynol a graenus

How the module will be delivered

Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy gyfuniad o ddarlithoedd, gweithdai/seminarau a thiwtorialau. Bydd y darlithoedd yn cyflwyno hanes a diwylliant y Wladfa ac yn ystyried themâu cyffredinol.. Bydd y gweithdai/ seminarau yn trafod sut y gellir defnyddio damcaniaethau cyffredinol am y maes wrth ymdrin â thestunau penodol.

Skills that will be practised and developed

Medrau a gaiff eu hymarfer a’u meithrin

Wedi cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr nodweddiadol yn gallu:

 

Medrau academaidd

  • ymdrin â thestunau sy’n perthyn i ddiwylliant dieithr
  • creu dadleuon soffistigedig ar sail amrywiaeth o destunau

 

Medrau penodol y pwnc

  • dangos gwybodaeth ddeallus ynghylch awduron a thestunau sy’n deillio o’r Wladfa
  • gwneud cysylltiadau rhwng llenyddiaeth y Wladfa ac agweddau cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol y cyfnod

 

Medrau cyflogadwyedd

  • cywain, dadansoddi a chyflwyno gwybodaeth ar bapur ac ar lafar
  • trafod maes cymhleth yn ddeallus mewn seminar gan ddangos y gallu i wrando ac eraill ac ymateb iddynt
  • cydweithio mewn grŵp i gynhyrchu a chyflwyno deunyddiau ar gyfer seminar

 

 

How the module will be assessed

Ffurfiannol

Bydd cyfle i gael adborth ar lafar ar gyflwyniadau a thrafodaethau llafar ac mewn seminarau a sesiynau darllen. Rhoddir adborth ysgrifenedig fesul unigolyn ar bob un darn o asesu crynodol.

Y potensial ar gyfer ailasesu yn y modiwl hwn

 

Fel rheol, bydd cyfle i fyfyrwyr sy’n methu’r modiwl gael eu hailasesu drwy ailgyflwyno neu ailsefyll yr elfen(nau) a fethwyd yn ystod cyfnod arholi’r haf. Fodd bynnag, mae gan Fwrdd Arholi’r BA yr hawl i amrywio’r asesu hwn neu i benderfynu na all myfyriwr penodol ailsefyll.

Assessment Breakdown

Type % Title Duration(hrs)
Dissertation 50 Traethawd N/A
Exam - Spring Semester 50 Hunaniaeth A Diwylliant Y Wladfa 1.5

Syllabus content

Cynnwys y maes llafur

 

  • Cymru newydd yn Ne America? Cefndir hanesyddol a chymdeithasol  y Wladfa
  • golwg ar y profiad o arloesi ac ymgartrefu
  • Cymry Patagonia: cipolwg ar y gymdeithas, a’r sefydliadau a drawsblannwyd neu a grewyd gan y gwladfawyr
  • cynnyrch eisteddfodol ac o’r wasg Gymraeg: barddoniaeth a rhyddiaith
  • hunaniaeth Gymreig-Archentaidd
  • dwyieithrwydd, dirywiad ac adfywiad ieithyddol

perthynas y Cymry â gwladwriaeth yr Ariannin

Essential Reading and Resource List

Deunyddiau Darllen a Rhestr Adnoddau:

 

JONES, Robert Owen .1997. Hir Oes i’r Iaith. Llandysul: Gwasg Gomer

MacDONALD, Elvey. 1999. Yr Hirdaith. Llandysul: Gwasg Gomer

RESTUCHA, Gabriel a ROBERTS, Esyllt Nest. 2004. Cerddi’r Gadair. Trelew: Eisteddfod y Wladfa

WILLIAMS, Cathrin. 1989, gol. Edau Gyfrodedd. Detholiad o Waith Irma Hughes de Jones. Dinbych: Gwasg

WILLIAMS, Cathrin. 2001, gol. Agor y Ffenestri. Cyfrol o Lenyddiaeth y Wladfa er y flwyddyn 1975. Cymdeithas Cymru

WILLIAMS, Glyn. 1991. The Welsh in Patagonia. The State and the Ethnic Community. Cardiff: University of Wales Press

WILLIAMS, Richard Bryn. 1962. Y Wladfa. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru


Copyright Cardiff University. Registered charity no. 1136855