CY3150: Hanes yr Iaith
School | Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd |
Department Code | WELSH |
Module Code | CY3150 |
External Subject Code | 100333 |
Number of Credits | 20 |
Level | L6 |
Language of Delivery | Welsh |
Module Leader | Professor Diarmait Mac Giolla Chriost |
Semester | Double Semester |
Academic Year | 2015/6 |
Outline Description of Module
Cyflwyniad i ddatblygiad y Gymraeg o’r cyfnodau cynharaf hyd at y presennol yw’r modiwl hwn. Ar ôl trafod cydberthynas y Gymraeg ag ieithoedd eraill Ewrop, ac yn enwedig â’r ieithoedd Celtaidd eraill, byddwn yn olrhain agweddau ar ei hanes dros y canrifoedd. Nodweddion Cymraeg y cyfnod diweddar a gaiff y sylw pennaf a byddwn yn craffu ar y cyfnewidiadau a’r datblygiadau a effeithiodd arni ers y Deddfau Uno. Bydd pwys ar fethodoleg disgrifio amrywiadau ieithyddol a dehongli eu harwyddocâd.
On completion of the module a student should be able to
Ar ôl gorffen y modiwl, bydd myfyriwr yn gallu gwneud y canlynol:
- adnabod prif nodweddion ieithwedd nifer o gyfnodau’r iaith
- gwybod am rai o’r dylanwadau a fu ar ieithwedd y cyfnodau hynny
- asesu gwerth cymharol rhai ymdriniaethau â hanes yr iaith
- trafod cyd-destun rhai nodweddion ieithyddol yn nhermau ieithoedd eraill a/neu ddigwyddiadau hanesyddol
- dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol.
How the module will be delivered
Sut y caiff y modiwl ei gyflwyno
Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau. Bydd y darlithoedd yn cyflwyno braslun o’r cefndir i hanes y Gymraeg a rhai o’r prif ddatblygiadau a fu i’r iaith. Bydd y seminarau yn cynnwys tasgau pwrpasol a fydd yn datblygu sgiliau dadansoddol a deongliadol
Skills that will be practised and developed
Medrau a gaiff eu hymarfer a’u meithrin
Wedi cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr nodweddiadol yn gallu:
Medrau academaidd
- ymdrin ag iaith ac ieithweddau gwahanol gyfnodau
- creu dadleuon soffistigedig ar sail gwahanol fathau o dystiolaeth
Medrau penodol y pwnc
- ymdrin â gwahanol fathau o ddata ieithyddol
Medrau cyflogadwyedd
- dadansoddi tystiolaeth yn feirniadol;
- dadlau yn rhesymegol;
- gweithio mewn grwpiau ac fesul unigolion mewn seminarau a gweithdai
- asesu damcaniaethau gwahanol.
How the module will be assessed
Sut y caiff y rhaglen ei hasesu
Ffurfiannol: rhoddir adborth ffurfiannol ar waith seminar. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth ysgrifenedig ar bob darn o asesu crynodol.
Crynodol: Asesir y deilliannau drwy gyfrwng traethawd ac arholiad. Bydd y traethawd yn canolbwyntio ar un o’r prif meysydd a drafodwyd ar y modiwl, a bydd yr arholiad yn disgwyl ichi drafod dau faes gwahanol.
Assessment Breakdown
Type | % | Title | Duration(hrs) |
---|---|---|---|
Written Assessment | 50 | Hanes Yr Iaith | N/A |
Exam - Spring Semester | 50 | Hanes Yr Iaith | 2 |
Syllabus content
Cynnwys y maes llafur
- y Gymraeg yng nghyd-destun yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd eraill
- yr ieithoedd Celtaidd
- bras ddatblygiad y Gymraeg o’r Frythoneg
- cyfnodau’r Gymraeg
- enghreifftiau o Hen Gymraeg a Chymraeg Canol
- enghreifftiau o Gymraeg y cyfnod diweddar
- datblygiad iaith safonol y cyfnod diweddar
- Cymraeg y presennol
Essential Reading and Resource List
Deunyddiau Darllen a Rhestr Adnoddau
Carr, Glenda. 1993. William Owen Pughe. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
Davies, Caryl Glyn. 2000. Adfeilion Babel. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
Davies, Janet. 1999. The Welsh Language. Cardiff: University of Wales Press
Jones, Robert Owen. 1997. ‘Hir Oes i’r Iaith’: Agweddau ar Hanes y Gymraeg a’r Gymdeithas. Llandysul: Gwasg Gomer
Lewis, Henry. 1931. Datblygiad yr Iaith Gymraeg. Arg. 1983; Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru