CY3110: Canu’r Gymru Newydd: Barddoniaeth, 1990-2010

School Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
Department Code WELSH
Module Code CY3110
External Subject Code Q561
Number of Credits 20
Level L6
Language of Delivery Welsh
Module Leader Dr Llion Roberts
Semester Double Semester
Academic Year 2013/4

Outline Description of Module

‘Chwa o awyr iach’ oedd disgrifiad Alan Llwyd o fuddugoliaeth Myrddin ap Dafydd ac Iwan Llwyd ym mhrif wobrau Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni, 1990. Bu’r digwyddiad hwn yn sail i ddau ddegawd llewyrchus iawn ym myd barddoniaeth Gymraeg, a barddoniaeth gaeth yn arbennig. Bydd y modiwl hwn yn dadansoddi prif weithiau a themâu beirdd pwysicaf y degawdau cynhyrfus hyn, yn ogystal â thrafod arwyddocâd y dadeni barddol yn y Gymru gyfoes. Bydd y modiwl yn ymdrin â barddoniaeth gaeth a rhydd, barddoniaeth y llyfr a’r llwyfan a barddoniaeth y gymdeithas a’r genedl. Canolbwyntir yn ogystal ar sawl datblygiad pwysig, ynghyd â dyfodiad mwy nag un don newydd o feirdd i hawlio lle canolog ar lwyfannau lleol a chenedlaethol fel ei gilydd.

On completion of the module a student should be able to

adnabod rhai o uchafbwyntiau barddoniaeth Gymraeg o’r cyfnod 1990–2010, ynghyd â phrif ddatblygiadau’r cyfnod

gwerthuso hanfodion a chyd-destun llenyddol, hanesyddol, gwleidyddol, cymdeithasol a syniadol cerddi’r cyfnod

ymateb yn ddeallus a beirniadol i destunau barddonol rhydd a chynganeddol ar fwy nag un lefel

defnyddio technegau a therminoleg beirniadaeth lenyddol

dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol wrth gyflwyno gwaith mewn dull proffesiynol a graenus

How the module will be delivered

Darlithoedd, gweithdai a seminarau gan arweinydd y modiwl. Bydd y darlithoedd yn cyflwyno’r myfyrwyr i ddatblygiadau pwysicaf y cyfnod, seiliau deallusol y beirdd a’u prif themâu. Bydd y seminarau a’r gweithdai yn canolbwyntio ar ddadansoddi testunau unigol ac at ddefnyddio damcaniaethau cyffredinol i ymdrin yn feirniadol â’r testunau.

 

Skills that will be practised and developed

Sgiliau a gaiff eu hymarfer a’u meithrin

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

·         deall hanfodion barddoniaeth Gymraeg y cyfnod 1990–2010;

·         dangos ymwybyddiaeth o berthynas beirdd Cymraeg â’u cymdeithas ac â’u cyfnod.

Medrau Deallusol:

·         ymdrin â thestunau sy’n perthyn i gyfnod penodol;

·         gwerthuso arwyddocâd cyd-destunau gwahanol o safbwynt cerddi’r cyfnod;.

·         dadansoddi’n ddeallus a soffistigedig gerddi o wahanol gyfryngau barddonol.

Medrau Penodol i Ddisgyblaeth (gan gynnwys medrau ymarferol):

·         ymdrin yn ddeallus â rhai o nodweddion a phrif ddatblygiadau barddoniaeth y ddau ddegawd diwethaf;

·         dangos dealltwriaeth o waith rhai o’r beirdd pwysicaf (caeth a rhydd) a’u prif themâu;

·         defnyddio technegau a therminoleg beirniadaeth lenyddol.

Medrau Cyflogadwyedd:

·         cynnull a chyflwyno gwybodaeth yn feirniadol, yn gydlynus ac yn raenus;

·         crynhoi, dadansoddi ac arfarnu cysyniadau a safbwyntiau ac ymdrin â hwy yn feirniadol ac yn ddadansoddol ar bapur, ac ar lafar mewn seminar;

·         gweithio yn annibynnol a chydweithio ag eraill mewn grŵp wrth baratoi a chyflwyno deunyddiau mewn seminar;

dangos meistrolaeth ar Gymraeg llafar ac ysgrifenedig safonol.

How the module will be assessed

Ffurfiannol

Bydd cyfle i gael adborth ar lafar ar gyflwyniadau a thrafodaethau llafar mewn seminarau a gweithdai. Rhoddir adborth ysgrifenedig fesul unigolyn ar bob un darn o asesu crynodol.

Crynodol

Asesir y modiwl drwy ddau ddull gwahanol: arholiad (1.5 awr) a thraethawd (hyd at 2000 o eiriau).

Bydd yr arholiad wedi ei seilio ar drafod gwahanol agweddau ar brif ddatblygiadau barddoniaeth y cyfnod (Deilliannau 1-5).

Bydd y traethawd wedi ei seilio ar ymateb yn feirniadol i destunau, gan ddadansoddi’r prif themâu, ynghyd â’u harwyddocâd deallusol o safbwynt barddoniaeth y cyfnod. (Deilliannau 1-5).

Assessment Breakdown

Type % Title Duration(hrs)
Exam - Autumn Semester 50 Canu’R Gymru Newydd: Barddoniaeth 1990-2010 1.5
Written Assessment 50 Canu’R Gymru Newydd: Barddoniaeth 1990-2010 N/A

Syllabus content

  • cefndir – adfywiad y 1970au a hirlwm yr 1980au?;
  • trobwynt Eisteddfod Cwm Rhymni, 1990—Myrddin ap Dafydd ac Iwan Llwyd;
  • o’r llyfr i’r llwyfan—talyrnau, sioeau, teithiau barddonol, a chyfryngau newydd;
  • Cywyddau Cyhoeddusa’r canu cymdeithasol;
  • y canu gwleidyddol er cyhoeddi Cilmeri a Cherddi Eraill, Gerallt Lloyd Owen (1991);
  • y Gymru newydd—dadeni’r to ifanc yn y 1990au: e.e. Emyr Lewis, Grahame Davies, Tudur Dylan Jones, Gwyneth Lewis, Ceri Wyn Jones, Dafydd John Pritchard, Ifor ap Glyn, Twm Morys;
  • Iwan Llwyd a Myrddin ap Dafydd wedi 1990;
  • dylanwad yr Eisteddfod Genedlaethol yn y cyfnod;
  • hynt y gynghanedd rhwng 1990 a 2010;
  • y ferch a’r canu caeth: e.e. Mererid Hopwood, Karen Owen;
  • cerddi’r genhedlaeth newydd o feirdd wedi troad yr unfed ganrif ar hugain, gan gynnwys Eurig Salisbury a Hywel Griffiths;
  • edrych tua’r dyfodol: rhai datblygiadau arwyddocaol ar ddiwedd y cyfnod.

Essential Reading and Resource List

AP DAFYDD, Myrddin. 2011. Iwan ar Daith. Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch.

AP DAFYDD, Myrddin ac Iwan LLWYD. 1994, goln. Cywyddau Cyhoeddus. Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch

AP DAFYDD, Myrddin ac Iwan LLWYD. 2002. Mae’n gêm o ddau fileniwm: cyflwyno beirdd a barddoniaeth. Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch

Barddas(cylchgrawn y Gymdeithas Cerdd Dafod)

BIANCI, Tony. 2005, gol. Blodeugerdd Barddas o Farddoniaeth Gyfoes. Llandybïe: Cyhoeddiadau Barddas

DAFYDD, Catrin, Eurig SALISBURY, Aneirin KARADOG, Iwan RHYS a Hywel GRIFFITHS. 2006. Crap ar Farddoni. Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch

LLWYD, Alan. 1997. Y Grefft o Greu: Ysgrifau ar Feirdd a Barddoniaeth. Cyhoeddiadau Barddas

LLWYD, Iwan, Myrddin AP DAFYDD ac Ifor AP GLYN. 1995. Bol a Chyfri Banc. Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch

MORYS, Twm ac Iwan LLWYD. Eldorado: llwybrau dau i le diarth. Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch

RHYS, Robert. 2006, gol. Y Patrwm Amryliw: Cyfrol 2. Llandybïe: Cyhoeddiadau Barddas


Copyright Cardiff University. Registered charity no. 1136855