CY2318: Dadeni a Diwygiad 1550-1900
School | Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd |
Department Code | WELSH |
Module Code | CY2318 |
External Subject Code | 100333 |
Number of Credits | 20 |
Level | L6 |
Language of Delivery | Welsh |
Module Leader | Dr Llion Roberts |
Semester | Double Semester |
Academic Year | 2015/6 |
Outline Description of Module
Dadeni a Diwygiad 1550–1900
Cyflwyniad i brif fannau llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod cyffrous a ffurfiannol rhwng y Dadeni Dysg a’r adfywiad llenyddol ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Astudir gwaith llenorion mor amrywiol eu dawn a’u cyfraniad â William Salesbury, Morgan Llwyd, Ellis Wynne, Goronwy Owen, Iolo Morganwg a Cheiriog.
On completion of the module a student should be able to
Ar ôl gorffen y modiwl, bydd myfyriwr yn gallu gwneud y canlynol:
- dangos gwybodaeth ynghylch llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod 1550-1900 a’r ffactorau hanesyddol, cymdeithasol a deallusol a ddylanwadodd arni
- dangos cynefindra â llenyddiaeth feirniadol safonol yn y maes
- gwerthfawrogi a chloriannu llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod 1550-1900
- gosod llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod 1550-1900 yn ei chyd-destun hanesyddol, cymdeithasol a syniadol
- trin gweithiau llenyddol yn feirniadol o safbwynt crefft, mynegiant a syniadaeth
- dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol.
How the module will be delivered
Sut y caiff y modiwl ei gyflwyno
Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau/dosbarthiadau darllen. Bydd y darlithoedd yn gosod canllawiau ac yn cyflwyno darlun pwrpasol o’r maes, a bydd y seminarau a’r dosbarthiadau darllen yn estyn cyfle i drafod, rhyngweithio ac ymarfer trin testunau llenyddol yn feirniadol, a’r asesu yn fodd i fyfyrwyr feithrin eu gallu i arddangos eu gwybodaeth ac ymdrin â phynciau yn drefnus, yn raenus ac yn ddadansoddol.
Skills that will be practised and developed
Medrau a gaiff eu hymarfer a’u meithrin
Wedi cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr nodweddiadol yn gallu:
Medrau academaidd
- ymdrin â thestunau o wahanol gyfnodau
- creu dadleuon soffistigedig ar sail gwahanol fathau o dystiolaeth
Medrau penodol y pwnc
- trafod testunau o’r cyfnod modern cynnar ac o’r 19g
Medrau cyflogadwyedd
- dadansoddi tystiolaeth yn feirniadol;
- dadlau yn rhesymegol;
- gweithio mewn grwpiau ac fesul unigolion mewn seminarau a gweithdai
- asesu damcaniaethau gwahanol.
How the module will be assessed
Mae’r arholiad ysgrifenedig yn ddull o ddangos bod myfyrwyr wedi deall y deunydd drostynt eu hunain ac yn gallu ei gymhwyso’n bwrpasol i ateb cwestiynau. Mae’r traethawd yn gofyn i fyfyrwyr gywain gwybodaeth berthnasol o wahanol ffynonellau a’i defnyddio’n ddeallus, yn drefnus ac yn raenus mewn darn o ysgrifennu estynedig.
Assessment Breakdown
Type | % | Title | Duration(hrs) |
---|---|---|---|
Exam - Autumn Semester | 50 | Dadeni A Diwygiad 1550 - 1900 | 2 |
Report | 50 | Traethawd | N/A |
Syllabus content
Amlinelliad o ddatblygiad llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod 1550-1900 gan roi sylw ymhlith eraill I’r canlynol: William Salesbury, William Morgan, Gruffydd Robert, Edmwnd Prys, Morgan Llwyd, Charles Edwards, Ellis Wynne, Theophilus Evans, Morrisiaid Môn, Goronwy Owen, Llên y Methodistiaid, Yr Hen Benillion, Twm o’r Nant, Jac Glan-y-gors, Iolo Morganwg, Robert ap Gwilym Ddu, Ieuan Glan Geirionydd, Islwyn, Ceiriog, Gwilym Hiraethog, Daniel Owen, Emrys ap Iwan.
Essential Reading and Resource List
BOWEN, Geraint (gol., 1970).Y Traddodiad Rhyddiaith (Llandysul: Gwasg Gomer)
GRUFFYDD, R. Geraint (1989). Llenyddiaeth y Cymry: Cyflwyniad Darluniadol, cyf. 2 (Llandysul: Gwasg Gomer)
GRUFFYDD, R. Geraint (gol., 1997). A Guide to Welsh Literature c.1530-1700, cyf. 3 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)
JARVIS, Branwen (gol., 2000). A Guide to Welsh Literature c.1700-1800, cyf. 4 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)
MORGAN, Dyfnallt (gol., 1966).Gwŷr Llên y Ddeunawfed Ganrif a’u Cefndir (Llandybïe: Llyfrau’r Dryw)
MORGAN, Dyfnallt (gol., 1968).Gwŷr Llên y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg a’u Cefndir (Llandybïe: Llyfrau’r Dryw)
WILLIAMS, Glanmor, a JONES, Robert Owen (goln, 1990).The Celts and the Renaissance (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)