CY2318: Dadeni a Diwygiad 1550-1900
School | Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd |
Department Code | WELSH |
Module Code | CY2318 |
External Subject Code | 100333 |
Number of Credits | 20 |
Level | L6 |
Language of Delivery | Welsh |
Module Leader | YR ATHRO Eifion James |
Semester | Double Semester |
Academic Year | 2013/4 |
Outline Description of Module
Cyflwyniad i brif fannau llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod cyffrous a ffurfiannol rhwng y Dadeni Dysg a'r adfywiad llenyddol ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Astudir gwaith llenorion mor amrywiol eu dawn a'u cyfraniad â William Salesbury, Morgan Llwyd, Ellis Wynne, Goronwy Owen, Iolo Morganwg a Cheiriog.
On completion of the module a student should be able to
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
- dangos gwybodaeth ynghylchllenyddiaeth Gymraeg y cyfnod 1550-1900 a’r ffactorau hanesyddol, cymdeithasol a deallusol a ddylanwadodd arni
- dangos cynefindra â llenyddiaeth feirniadol safonol yn y maes
Sgiliau Deallusol:
- ymateb yn briodol i’r defnydd o iaith ac o’r dychymyg mewn llenyddiaeth
- gwerthfawrogi a chloriannu llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod 1550-1900
Sgiliau Disgyblaeth Benodol (gan gynnwys rhai ymarferol):
- trin gweithiau llenyddol yn feirniadol o safbwynt crefft, mynegiant a syniadaeth
- gosod llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod 1550-1900 yn ei chyd-destun hanesyddol, cymdeithasol a syniadol
Sgiliau Trosglwyddadwy:
- cynnull a chyflwyno gwybodaeth yn feirniadol, yn gydlynus ac yn raenus
- crynhoi ac arfarnu cysyniadau a safbwyntiau ac ymdrin â hwy yn feirniadol ac yn ddadansoddol
- dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol.
How the module will be delivered
Darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau darllen ac asesu ffurfiannol.
Mae’r darlithoedd yn gosod canllawiau ac yn cyflwyno darlun pwrpasol o’r maes, y seminarau a’r dosbarthiadau darllen yn estyn cyfle i drafod, rhyngweithio ac ymarfer trin testunau llenyddol yn feirniadol, a’r asesu yn fodd i fyfyrwyr feithrin eu gallu i arddangos eu gwybodaeth ac ymdrin â phynciau yn drefnus, yn raenus ac yn ddadansoddol.
How the module will be assessed
Mae’r arholiad ysgrifenedig yn ddull o ddangos bod myfyrwyr wedi deall y deunydd drostynt eu hunain ac yn gallu ei gymhwyso’n bwrpasol i ateb cwestiynau. Mae’r traethawd yn gofyn i fyfyrwyr gywain gwybodaeth berthnasol o wahanol ffynonellau a’i defnyddio’n ddeallus, yn drefnus ac yn raenus mewn darn o ysgrifennu estynedig.
Assessment Breakdown
Type | % | Title | Duration(hrs) |
---|---|---|---|
Written Assessment | 50 | Dadeni A Diwygiad 1550 - 1900 | N/A |
Exam - Spring Semester | 50 | Dadeni A Diwygiad 1550 - 1900 | 2 |
Syllabus content
Amlinelliad o ddatblygiad llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod 1550-1900 gan roi sylw ymhlith eraill I’r canlynol: William Salesbury, William Morgan, Gruffydd Robert, Edmwnd Prys, Morgan Llwyd, Charles Edwards, Ellis Wynne, Theophilus Evans, Morrisiaid Môn, Goronwy Owen, Llên y Methodistiaid, Yr Hen Benillion, Twm o’r Nant, Jac Glan-y-gors, Iolo Morganwg, Robert ap Gwilym Ddu, Ieuan Glan Geirionydd, Islwyn, Ceiriog, Gwilym Hiraethog, Daniel Owen, Emrys ap Iwan.
Essential Reading and Resource List
BOWEN, Geraint (gol., 1970).Y Traddodiad Rhyddiaith (Llandysul: Gwasg Gomer)
GRUFFYDD, R. Geraint (1989). Llenyddiaeth y Cymry: Cyflwyniad Darluniadol, cyf. 2 (Llandysul: Gwasg Gomer)
GRUFFYDD, R. Geraint (gol., 1997). A Guide to Welsh Literature c.1530-1700, cyf. 3 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)
JARVIS, Branwen (gol., 2000). A Guide to Welsh Literature c.1700-1800, cyf. 4 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)
MORGAN, Dyfnallt (gol., 1966).Gwŷr Llên y Ddeunawfed Ganrif a’u Cefndir (Llandybïe: Llyfrau’r Dryw)
MORGAN, Dyfnallt (gol., 1968).Gwŷr Llên y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg a’u Cefndir (Llandybïe: Llyfrau’r Dryw)
WILLIAMS, Glanmor, a JONES, Robert Owen (goln, 1990).The Celts and the Renaissance (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)