CY2166: Cyflwyniad I Hanes Yr Iaith
School | Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd |
Department Code | WELSH |
Module Code | CY2166 |
External Subject Code | 100333 |
Number of Credits | 20 |
Level | L6 |
Language of Delivery | Welsh |
Module Leader | Professor Diarmait Mac Giolla Chriost |
Semester | Double Semester |
Academic Year | 2013/4 |
Outline Description of Module
Cyflwyniad i ddatblygiad y Gymraeg o'r cyfnodau cynharaf hyd at y presennol yw'r modiwl hwn. Ar ôl trafod cydberthynas y Gymraeg ag ieithoedd eraill Ewrop, ac yn enwedig â'r ieithoedd Celtaidd eraill, byddwn yn olrhain agweddau ar ei hanes dros y canrifoedd. Nodweddion Cymraeg y cyfnod diweddar a gaiff y sylw pennafa byddwn yn craffu ar y cyfnewidiadau a'r datblygiadau a effeithiodd arni ers y Deddfau Uno. Bydd pwys ar fethodoleg disgrifio amrywiadau ieithyddol a dehongli eu harwyddocâd.
On completion of the module a student should be able to
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
- adnabod prif nodweddion ieithwedd nifer o gyfnodau’r iaith
- gwybod am rai o’r dylanwadau a fu ar ieithwedd y cyfnodau hynny
Sgiliau Deallusol:
- asesu gwerth cymharol rhai o’r ymdriniaethau â hanes yr iaith
- trafod cyd-destun rhai nodweddion ieithyddol yn nhermau ieithoedd eraill a/neu ddigwyddiadau hanesyddol
Sgiliau Disgyblaeth Benodol (gan gynnwys rhai ymarferol):
- codi gwybodaeth bwrpasol a dibynadwy o wahanol ffynonellau
Sgiliau Trosglwyddadwy:
- dadansoddi tystiolaeth yn feirniadol
- dadlau yn rhesymegol
- ymdrin â damcaniaethau gwahanol
- dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol.
How the module will be delivered
Darlithoedd: cyflwyno braslun o’r cefndir i hanes y Gymraeg a rhai o’r prif ddatblygiadau a fu i’r iaith
Seminarau: tasgau pwrpasol a fydd yn datblygu sgiliau dadansoddol a deongliadol
Skills that will be practised and developed
- cyflwyno amlinelliad o ddatblygiad y Gymraeg o’r cyfnodau cynharaf hyd at y presennol
- cyflwyno dulliau ar gyfer disgrifio iaith
- darparu hanfodion y cefndir ieithyddol i fodiwlau llenyddol yr Ysgol
How the module will be assessed
Bydd yr arholiad yn gofyn i’r myfyrwyr drafod dau o’r prif feysydd a astudiwyd yn ystod y modiwl a’r traethawd yn gofyn i’r myfyrwyr drafod un o’r prif feysydd a astudiwyd yn ystod y modiwl.
Assessment Breakdown
Type | % | Title | Duration(hrs) |
---|---|---|---|
Written Assessment | 50 | Cyflwyniad I Hanes Yr Iaith | N/A |
Exam - Spring Semester | 50 | Cyflwyniad I Hanes Yr Iaith | 2 |
Syllabus content
- y Gymraeg yng nghyd-destun yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd eraill
- yr ieithoedd Celtaidd
- bras ddatblygiad y Gymraeg o’r Frythoneg
- cyfnodau’r Gymraeg
- enghreifftiau o Hen Gymraeg a Chymraeg Canol
- enghreifftiau o Gymraeg y cyfnod diweddar
- datblygiad iaith safonol y cyfnod diweddar
- Cymraeg y presennol
Essential Reading and Resource List
Carr, Glenda (1993). William Owen Pughe (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
Davies, Caryl Glyn (2000). Adfeilion Babel (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
Davies, Janet (1999). The Welsh Language (Cardiff: University of Wales Press).
Jones, Robert Owen (1997). ‘Hir Oes i’r Iaith’: Agweddau ar Hanes y Gymraeg a’r Gymdeithas (Llandysul:
Gwasg Gomer).
Lewis, Henry (1931/1983). Datblygiad yr Iaith Gymraeg (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).