CY2123: Sgriptio

School Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
Department Code WELSH
Module Code CY2123
External Subject Code 100333
Number of Credits 20
Level L6
Language of Delivery Welsh
Module Leader Ms Ceri Morris
Semester Double Semester
Academic Year 2015/6

Outline Description of Module

Meithrin a datblygu sgiliau sgriptio dramâu ar gyfer y llwyfan, radio a theledu/ffilm.

On completion of the module a student should be able to

Ar ôl cwblhau’r modiwl, dylai myfyrwyr allu:

 

  • Gwybod am hanfodion angenrheidiol ysgrifennu a dadansoddi drama
  • Deall hanfodion addasu darn o lenyddiaeth i ffurf drama
  • Deall gofynion elfennau arddulliol, technegol, ac ymarferol mewn drama lwyfan, radio a/neu deledu/ffilm
  • Dadansoddi a dehongli drama
  • Cynllunio sgript lwyfan, radio a/neu deledu/ffilm

Dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

* Gwybod am hanfodion angenrheidiol ysgrifennu a dadansoddi drama

* Deall hanfodion addasu darn o lenyddiaeth i ffurf drama

Sgiliau Deallusol:

  • Deall hanfodion angenrheidiol ysgrifennu drama

Sgiliau Disgyblaeth Benodol (gan gynnwys rhai ymarferol):

* Deall gofynion elfennau technegol ac ymarferol mewn drama lwyfan, radio a/neu deledu/ffilm

* Dadansoddi a dehongli drama

* Cynllunio sgript lwyfan, radio a/neu deledu/ffilm

Sgiliau Trosglwyddadwy:

* Sgiliau creadigol wrth greu ffuglen ar gyfer ystod o genres dramatig

* Sgiliau arddulliol a thechnegol wrth gynllunio naratif gref

* Dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

How the module will be delivered

Gweithdai creadigol : yn ystod y gweithdai, bydd disgwyl i'r myfyrwyr gwblhau ystod eang o ymarferion ysgrifennu, trafod a rhannu'r gwaith hwnnw yn agored yn y dosbarth i fagu hyder, a thrafod a dadansoddi gweithiau eraill. Bydd y gweithdai wedi'u rhedeg gan ddramodwyr a thiwtoriaid profiadol yn eu mesydd a allant hefyd roi cyngor ar weithio fel dramodwyr proffesiynol.

 

Bydd y myfyrwyr hefyd yn mynychu cyfarfodydd un wrth un gyda'r cydlynydd i drafod datblygiad y portffolio.

Skills that will be practised and developed

* Datblygu sgiliau ysgrifennu creadigol yng nghyd-destun drama

* Datblygu'r gallu i drafod prif hanfodion drama, er enghraifft, thema, strwythur, deialogi, cymeriadu

How the module will be assessed

Mae’r ffolio o waith creadigol yn arddangos gallu'r myfyrwyr i gyfansoddi drama lwyddiannus a’r arholiad yn arddangos gallu'r myfyrwyr i drafod drama / ffilm deledu yn ddadansoddol.

Assessment Breakdown

Type % Title Duration(hrs)
Portfolio 80 Sgriptio N/A
Exam - Autumn Semester 20 Sgriptio 1

Syllabus content

Thema, strwythur ac elfennau technegol drama lwyfan, drama radio a/neu drama deledu / ffilm; deialogi a chymeriadu; addasu o gyfrwng llenyddol i gyfrwng drama.

 

Essential Reading and Resource List

Paratoir deunyddiau gan y tiwtoriaid unigol.


Copyright Cardiff University. Registered charity no. 1136855