CY1755: Herio'r Traddodiad Llenyddol

School Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
Department Code WELSH
Module Code CY1755
External Subject Code 101118
Number of Credits 20
Level L4
Language of Delivery Welsh
Module Leader Dr David Callander
Semester Spring Semester
Academic Year 2022/3

Outline Description of Module

Mae dealltwriaeth o orffennol llenyddol Cymru yn allweddol i’r sawl sydd yn dymuno deall sefyllfa’r Gymraeg a’i llenyddiaeth heddiw. Bwriad y modiwl hwn fydd herio ein syniadau ynghylch ‘traddodiad llenyddol y Cymry’ ac archwilio o’r newydd destunau o gyfnodau amseryddol gwahanol. Gwneir hynny drwy ofyn cwestiynau allweddol ynghylch perthynas testun a chyd-destun, sut y mae gwahanol ddehongliadau o’r gorffennol yn effeithio ar ein diwylliant ni heddiw, y berthynas rhwng llenyddiaeth a hunaniaeth, a sut a pham mae rhai testunau (ac nid eraill) yn cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth. 

Bydd y modiwl hwn yn eich arfogi â’r sgiliau angenrheidiol i drin gweithiau llenyddol hanesyddol yn feirniadol, i bwyso a mesur dadleuon yn eu cylch ac i werthfawrogi perthnasedd y gorffennol i ddiwylliant y Gymru gyfoes. 

On completion of the module a student should be able to

  1. dangos gwybodaeth ynghylch detholiad o destunau y cyfnod cyn 1900; 
  2. dehongli’r berthynas rhwng gweithiau llenyddol a’u cyd-destun hanesyddol, cymdeithasol a syniadol; 
  3. trin gweithiau llenyddol yn feirniadol o safbwynt crefft, mynegiant a syniadaeth; 
  4. dangos dealltwriaeth o sut y mae’r modd y darllenir testunau yn arwain at ddehongliadau gwahanol; 
  5. datblygu dadleuon sy’n seiliedig ar wahanol fathau o ffynonellau cynradd ac eilaidd; 
  6. dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol wrth gyflwyno gwaith mewn dull proffesiynol. 

How the module will be delivered

Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy ddulliau dysgu cyfunol a allai gynnwys cyfuniad o gyflwyniadau ar-lein, gweithdai trafod ar-lein, gweithgareddau dysgu digidol, a sesiynau wyneb-yn-wyneb.

Skills that will be practised and developed

Medrau academaidd 

  • ymdrin â thestunau o wahanol gyfnodau 
  • creu dadleuon sy’n argyhoeddi ar sail tystiolaeth gadarn 
  • gallu trafod testunau sydd wedi eu hysgrifennu mewn iaith anghyfarwydd 

Medrau penodol y pwnc 

  • dangos gwybodaeth ddeallus ynghylch awduron a thestunau o gyfnodau gwahanol 
  • gwneud cysylltiadau rhwng testunau llenyddol ac agweddau cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol y cyfnod 

Medrau Cyflogadwyedd  

  • casglu, dadansoddi a chyflwyno gwybodaeth ar bapur ac ar lafar 
  • cyfrannu at drafodaethau a chydweithio ag eraill i gynhyrchu a chyflwyno deunyddiau 
  • ymdrin â meysydd dieithr a chysyniadau cymhleth a’u cyflwyno’n eglur 
  • dangos meistrolaeth ar Gymraeg llafar ac ysgrifenedig safonol 

How the module will be assessed

Ffurfiannol 

Bydd cyfle i gael adborth ar lafar ar asesiadau ffurfiannol byrion a chyflwyniadau a thrafodaethau llafar mewn seminarau a sesiynau darllen. Rhoddir adborth ysgrifenedig fesul unigolyn ar bob un darn o asesu crynodol unigol. 

Crynodol 

Mae’r tasgau byrion yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau darllen testun ac ymdrin â gwahanol ddehongliadau (Deilliannau 1-6) 

Mae’r traethawd yn gofyn i fyfyrwyr ddangos dealltwriaeth o rai meysydd a chysyniadau yr ymdrinnir â hwy yn y modiwl, a chymhwyso’r wybodaeth at drafodaeth feirniadol addas (Deilliannau 1-6)

Assessment Breakdown

Type % Title Duration(hrs)
Written Assessment 50 Cyfres O Dasgau Byrion N/A
Written Assessment 50 Traethawd N/A

Syllabus content

Bydd y modiwl yn cynnwys themâu megis: 

  • Darllen y Gorffennol
  • Dehongli’r Oesoedd Canol
  • Canfod y Cyfnod Modern Cynnar 
  • Y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg: Y ganrif fwyaf? 

Copyright Cardiff University. Registered charity no. 1136855