CY1754: Mapio'r Cymry
School | Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd |
Department Code | WELSH |
Module Code | CY1754 |
External Subject Code | 101118 |
Number of Credits | 20 |
Level | L4 |
Language of Delivery | Welsh |
Module Leader | Dr Siwan Rosser |
Semester | Autumn Semester |
Academic Year | 2022/3 |
Outline Description of Module
A oes modd mapio diwylliant? Beth a olygwn pan ddefnyddiwn eiriau cyfarwydd megis ‘unigolyn’, ‘bro’, a ‘chenedl’, a beth yw’r berthynas rhwng y cysyniadau hyn? Sut y mae diwylliant yn ymblethu â daearyddiaeth wrth greu a chynnal hunaniaethau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol? Sut y mynegir hunaniaeth gan iaith a llenyddiaeth bro, a beth sydd yn digwydd wrth i bobl a thestunau groesi ffiniau?
Dyma rai o’r cwestiynau y byddwn yn eu holi ar y modiwl hwn wrth inni ystyried ein perthynas â’r gofodau daearyddol gwahanol yr ydym yn byw a bod ynddynt.
On completion of the module a student should be able to
- dangos dealltwriaeth o amrywiaeth ddaearyddol, lenyddol, ieithyddol a diwylliannol y Cymry;
- gallu trafod yn hyderus gwahanol ddulliau o fynegi a mapio profiadau, cysyniadau a thystiolaeth yn ymwneud â’r Cymry a’r Gymraeg;
- gallu dadansoddi’r ffactorau daearyddol, hanesyddol a diwylliannol sy’n dylanwadu ar gymunedau a hunaniaethau y Gymraeg;
- trin data a thestunau amrywiol yn feirniadol o safbwynt cynnwys, mynegiant a syniadaeth;
- dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol wrth gyflwyno gwaith mewn dull proffesiynol.
How the module will be delivered
Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy ddulliau dysgu cyfunol a allai gynnwys cyfuniad o gyflwyniadau ar-lein, gweithdai trafod ar-lein, gweithgareddau dysgu digidol, a sesiynau wyneb-yn-wyneb.
Skills that will be practised and developed
Medrau academaidd
- cywain gwybodaeth a’i gwerthuso er mwyn dod at gasgliadau addas
- meddwl yn hyblyg a gwneud cysylltiadau rhwng gwahanol ffynonellau a meysydd o wybodaeth
- elwa ar dderbyn adborth ar waith ffurfiannol a datblygu arno
Medrau penodol y pwnc
- trin tystiolaeth ddiwylliannol yn feirniadol o safbwynt dehongli’r maes
- trafod yn feirniadol gysyniadau diwylliannol sy’n cyfoethogi dealltwriaeth o hunaniaethau y Cymry
Medrau Cyflogadwyedd
- datblygu hyder wrth gynnull a chyflwyno gwybodaeth yn feirniadol ac yn eglur
- gweithio mewn grwpiau ac fesul unigolyn wrth drafod testunau a thystiolaeth
- crynhoi ac arfarnu cysyniadau a safbwyntiau gwahanol ac ymdrin â hwy yn ddadansoddol
- cyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig
How the module will be assessed
Ffurfiannol
Bydd cyfle i gael adborth ar lafar i drafodaethau yn y dosbarth a rhai tasgau ysgrifenedig. Rhoddir adborth ysgrifenedig fesul unigolyn ar bob un darn o asesu crynodol.
Crynodol
Mae’r ddau brosiect yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymdrin mewn manylder ag agweddau llenyddol, diwylliannol ac ieithyddol a drafodir ar y modiwl, ynghyd â datblygu eu sgiliau academaidd megis ymchwilio i dystiolaeth a’i dadansoddi. (Deilliannau 1-5)
Assessment Breakdown
Type | % | Title | Duration(hrs) |
---|---|---|---|
Written Assessment | 50 | Prosiect Mapio Diwylliannol | N/A |
Written Assessment | 50 | Prosiect Mapio Ieithyddol | N/A |
Syllabus content
- Diwylliant amrywiol ardaloedd a chymunedau’r Gymraeg
- Iaith a thafodiaith bro.
- Perthynas tir, iaith a chof â chenedlaetholdeb, e.e. yng ngwaith J. R. Jones.
- Arferion, cof a thraddodiadau gwerin amrywiol ardaloedd, e.e. y Blygain yng nghanolbarth Cymru a’r Fari Lwyd yn ne Cymru.
- Mapio a gofod fel cysyniad yng ngwaith beirdd a llenorion Cymraeg, e.e. Iwan Llwyd, Angharad Price.
- Hunaniaethau cymunedau a llenorion y tu hwnt i Gymru, megis y Wladfa