CY1753: Ysgrifennu Creadigol a Phroffesiynol
School | Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd |
Department Code | WELSH |
Module Code | CY1753 |
External Subject Code | 100333 |
Number of Credits | 20 |
Level | L4 |
Language of Delivery | Welsh |
Module Leader | Dr Llion Roberts |
Semester | Double Semester |
Academic Year | 2022/3 |
Outline Description of Module
Mae’r gallu i gynhyrchu dogfennau ysgrifenedig perthnasol yn sgil pwysig ar gyfer eich cwrs gradd ac ar gyfer y gweithle. Nod y modiwl hwn yw rhoi’r cyfle ichi ddatblygu eich gwybodaeth am wahanol fathau o ysgrifennu a chyflwyno gwybodaeth mewn cyd-destun creadigol a phroffesiynol. Drwy wneud hynny cewch feithrin hyder pellach wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn ysgrifenedig.
Yn ystod y modiwl byddwch yn dysgu am gynnwys a chrefft gwahanol arddulliau ysgrifennu, gan gynnwys ysgrifennu ar gyfer sefyllfaoedd proffesiynol a chreadigol. Bydd pwyslais ymarferol ar ddarllen gwahanol destunau byrion yn feirniadol cyn mynd ati i gynhyrchu testunau ysgrifenedig mewn gwahanol gyd-destunau. Bydd y testunau yn amrywiol eu natur a’u ffurf, gan gynnwys llenyddiaeth, adroddiadau a deunydd a gynhyrchir ar gyfer gwefannau, er enghraifft.
Byddwch yn parhau i ddatblygu eich gwybodaeth am iaith, arddull a chrefft trwy ganolbwyntio ar yr adborth a roddir ichi, a bydd disgwyl ichi ddefnyddio’r adborth wrth fyfyrio ar brosesau cynhyrchu testun a datblygu cynnwys ac arddull eich gwaith.
Bwriad y modiwl hwn yw datblygu eich dealltwriaeth o nodweddion ysgrifennu effeithiol ochr yn ochr â’r modiwlau eraill y byddwch yn eu hastudio yn y Gymraeg er mwyn meithrin eich sgiliau ysgrifenedig creadigol a phroffesiynol.
On completion of the module a student should be able to
- amlygu dealltwriaeth ymarferol o nodweddion ysgrifennu effeithiol (cynnwys a chrefft) drwy ddarllen testunau yn feirniadol a llunio ymarferion penodol
- cynhyrchu amrywiaeth o destunau addas i gyd-destunau proffesiynol a chreadigol
- datblygu ymwybyddiaeth o’r cyd-destun y llunnir testunau ynddo, ynghyd â chonfensiynau cydnabyddedig sy’n addas ar gyfer gwahanol fathau o ysgrifennu
- gweithio’n effeithiol drwy adfyfyrio ar brosesau cynhyrchu testun ac ymateb i adborth ar dasgau er mwyn caboli a datblygu testunau
- dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig mewn gwahanol gyd-destunau wrth gyflwyno gwaith mewn dull proffesiynol.
How the module will be delivered
Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy ddulliau dysgu cyfunol a allai gynnwys cyfuniad o gyflwyniadau ar-lein, gweithdai trafod ar-lein, gweithgareddau dysgu digidol, a sesiynau wyneb-yn-wyneb.
Bydd tasgau ymarferol yn cael eu gosod er mwyn paratoi’r portffolio a darperir sesiynau adborth ar y tasgau hynny.
Skills that will be practised and developed
Medrau academaidd
- cywain gwybodaeth a’i gwerthuso er mwyn dod at gasgliadau addas
- adnabod nodweddion a chonfensiynau llenyddol a thestunol gwahanol fathau o ysgrifennu ar sail ystod o destunau cynradd ac eilaidd
- hogi sgiliau ysgrifennu drwy elwa ar dderbyn adborth ar waith a datblygu arno
Medrau penodol y pwnc
- dangos dealltwriaeth o sgiliau darllen, dehongli a chynhyrchu testunau proffesiynol a chreadigol o safbwynt cynnwys a chrefft
- ymateb yn briodol i’r defnydd o iaith ac o’r dychymyg mewn testunau
- dangos ymwybyddiaeth o ofynion iaith a mynegiant wrth ysgrifennu mewn gwahanol gyd-destunau
Medrau Cyflogadwyedd
- datblygu sgiliau ysgrifennu effeithiol, ynghyd â chyfoethogi dealltwriaeth o brosesau cynnydd cydnabyddedig, megis drafftio, golygu ayb
- datblygu sgiliau darllen a thrafod (ar lafar ac ysgrifenedig) wrth ymdrin â thestunau a thystiolaeth
- crynhoi ac arfarnu cysyniadau a safbwyntiau gwahanol ac ymdrin â hwy yn ddadansoddol
- dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig mewn gwahanol ffurfiau a chyweiriau
How the module will be assessed
Ffurfiannol
Bydd cyfle i gael adborth ar lafar mewn sesiynau trafod a derbyn adborth ar dasgau ysgrifenedig cyson. Rhoddir adborth ysgrifenedig fesul unigolyn ar bob un darn o asesu crynodol.
Crynodol
Mae’r asesiadau gwaith cwrs (portffolio hyd at 800 gair a phortffolio hyd at 1600 gair) yn mesur sgiliau testunol, creadigol ac ieithyddol y myfyrwyr wrth gynhyrchu casgliad o destunau proffesiynol a chreadigol gwreiddiol ar sail darllen beirniadol ac ymarferion penodol (Deilliannau 1-5).
Mae’r adroddiad adfyfyriol (hyd at 600 gair) yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gnoi cil ar eu prosesau testunol, creadigol ac academaidd ac elwa ar adborth ar drafodaethau ac ar dasgau (Deilliannau 4, 5).
Assessment Breakdown
Type | % | Title | Duration(hrs) |
---|---|---|---|
Written Assessment | 20 | Casgliad (Portffolio) O Destunau Creadigol A Phroffesiynol - Semester 1 | N/A |
Written Assessment | 20 | Adroddiad Adfyfyriol | N/A |
Written Assessment | 60 | Casgliad (Ffolio) O Destunau Creadigol A Phroffesiynol - Semester 2 | N/A |
Syllabus content
- nodweddion gwahanol fathau o ysgrifennu o fewn cyd-destunau creadigol a phroffesiynol
- darllen yn feirniadol a chynhyrchu testunau o fewn cyd-destunau creadigol a phroffesiynol a chreadigol megis:
- testun newyddiadurol a/neu ddatganiad i'r wasg
- deunydd a gynhyrchir ar gyfer y we, megis blogiau
- dogfen canllawiau
- gohebiaeth
- portread o unigolyn neu leoliad
- testun hunangofiannol
- testun creadigol wedi ei ysbrydoli gan ffurf greadigol arall (e.e. llun, darn llenyddol, cerddoriaeth)