CY1752: Mapio'r Cymry
School | Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd |
Department Code | WELSH |
Module Code | CY1752 |
External Subject Code | 100333 |
Number of Credits | 20 |
Level | L4 |
Language of Delivery | Welsh |
Module Leader | Dr Siwan Rosser |
Semester | Double Semester |
Academic Year | 2019/0 |
Outline Description of Module
A oes modd mapio diwylliant? Beth a olygwn pan ddefnyddiwn eiriau cyfarwydd megis ‘unigolyn’, ‘bro’, a ‘chenedl’, a beth yw’r berthynas rhwng y cysyniadau hyn? Sut y mae diwylliant yn ymblethu â daearyddiaeth wrth greu a chynnal hunaniaethau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol? Sut y mynegir hunaniaeth gan iaith a llenyddiaeth bro, a beth sydd yn digwydd wrth i bobl a thestunau groesi ffiniau?
Dyma rai o’r cwestiynau y byddwn yn eu holi ar y modiwl hwn wrth inni ystyried ein perthynas â’r gofodau daearyddol gwahanol yr ydym yn byw a bod ynddynt.
On completion of the module a student should be able to
- dangos dealltwriaeth o amrywiaeth ddaearyddol, lenyddol a diwylliannol y Cymry.
- gallu trafod yn hyderus gysyniadau diwylliannol megis cof, gofod, mynegiant a mapio wrth ymdrin â’r Cymry a’r Gymraeg.
- gallu dadansoddi perthynas cysyniadau diwylliannol â chymunedau a hunaniaethau y Gymraeg.
- trin testunau amrywiol yn feirniadol o safbwynt crefft, mynegiant a syniadaeth
- dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol wrth gyflwyno gwaith mewn dull proffesiynol.
How the module will be delivered
Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a gweithdai. Mae’r darlithoedd yn gosod canllawiau ac yn trafod prif elfennau’r maes, a’r seminarau a’r gweithdai yn estyn cyfle i drafod, rhyngweithio ac ymarfer ymdrin â thystiolaeth ddiwylliannol yn feirniadol. Bydd deunyddiau electronig yn cefnogi’r dysgu.
Skills that will be practised and developed
Wedi cwblhau’r modiwl, bydd myfyriwr nodweddiadol yn gallu
Medrau Academaidd
- cywain gwybodaeth a’i gwerthuso er mwyn dod at gasgliadau addas
- meddwl yn hyblyg a gwneud cysylltiadau rhwng gwahanol ffynonellau a meysydd o wybodaeth
- elwa ar dderbyn adborth ar waith ffurfiannol a datblygu arno
Medrau penodol y pwnc
- trin tystiolaeth ddiwylliannol yn feirniadol o safbwynt dehongli’r maes
- trafod yn feirniadol gysyniadau diwylliannol sy’n cyfoethogi dealltwriaeth o hunaniaethau y Cymry
Medrau Cyflogadwyedd
- datblygu hyder wrth gynnull a chyflwyno gwybodaeth yn feirniadol ac yn eglur
- gweithio mewn grwpiau ac fesul unigolyn wrth drafod testunau a thystiolaeth
- crynhoi ac arfarnu cysyniadau a safbwyntiau gwahanol ac ymdrin â hwy yn ddadansoddol
- cyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig
How the module will be assessed
Ffurfiannol
Bydd cyfle i gael adborth ar lafar i drafodaethau yn y dosbarth a rhai tasgau ysgrifenedig. Rhoddir adborth ysgrifenedig fesul unigolyn ar bob un darn o asesu crynodol.
Crynodol
Mae’r prosiect yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymdrin mewn manylder ag agwedd a drafodir ar y modiwl, ynghyd â datblygu eu sgiliau academaidd megis ymchwilio i dystiolaeth a’i dadansoddi. (Deilliannau 1-5)
Mae’r arholiad yn gofyn i fyfyrwyr ddangos dealltwriaeth o rai meysydd a chysyniadau yr ymdrinnir â hwy yn y modiwl, a chymhwyso’r wybodaeth at drafodaeth feirniadol addas. (Deilliannau 1-5)
Gwaith cwrs - 50% - Prosiect - Hyd at 2000 gair - Semester 1
Arholiad - 50% - 1.5 awr - Semester 2
Y potensial ar gyfer ailasesu yn y modiwl hwn
Fel rheol, bydd cyfle i fyfyrwyr sy’n methu’r modiwl gael eu hailasesu drwy ailgyflwyno yr elfen(nau) a fethwyd yn ystod cyfnod arholi’r haf. Fodd bynnag, mae gan Fwrdd Arholi’r BA yr hawl i amrywio’r asesu hwn neu i benderfynu na all myfyriwr penodol ailgyflwyno.
Assessment Breakdown
Type | % | Title | Duration(hrs) |
---|---|---|---|
Written Assessment | 50 | Prosiect | N/A |
Alternative Assessment due to cancelled exam | 50 | Mapio'R Cymry | N/A |
Syllabus content
- Diwylliant amrywiol ardaloedd a chymunedau’r Gymraeg
- Iaith a llenyddiaeth bro.
- Perthynas tir, iaith a chof â chenedlaetholdeb, e.e. yng ngwaith J. R. Jones.
- Arferion, cof a thraddodiadau gwerin amrywiol ardaloedd, e.e. y Blygain yng nghanolbarth Cymru a’r Fari Lwyd yn ne Cymru.
- Mapio a gofod fel cysyniad yng ngwaith beirdd a llenorion Cymraeg, e.e. Iwan Llwyd, Angharad Price.
- Hunaniaethau cymunedau a llenorion y tu hwnt i Gymru, megis y Wladfa.
Essential Reading and Resource List
Davies, Janet. 1999. A Pocket Guide. The Welsh Language. Cardiff: University of Wales Press
James, E.W a Jones, T. Vaughan. 2008. Gwerin Gwlad: Ysgrifau ar ddiwylliant gwerin. Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch
Macdonald, Elvey. 1999. Yr Hirdaith. Llandysul: Gwasg Gomer
Morys, Twm. gol. 2014. Awen Iwan. Tal-y-bont: Cyhoeddiadau Barddas
Owen, Trefor M. 1991. A Pocket Guide: The Customs and Traditions of Wales. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
Rowlands, John. 1992. Ysgrifau ar y Nofel. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
Thomas, Beth a Thomas, Peter Wynn. 1989. Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg… Cyflwyno’r Tafodieithoedd. Caerdydd: Gwasg Taf
Thomas, M. Wynn. gol. 2001. Gweld Sêr: Cymru a Chanrif America. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru