CY1752: Mapio'r Cymry
School | Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd |
Department Code | WELSH |
Module Code | CY1752 |
External Subject Code | 100333 |
Number of Credits | 20 |
Level | L4 |
Language of Delivery | Welsh |
Module Leader | Dr Llyr Lewis |
Semester | Double Semester |
Academic Year | 2015/6 |
Outline Description of Module
A oes modd mapio diwylliant? Beth a olygwn pan ddefnyddiwn eiriau cyfarwydd megis ‘unigolyn’, ‘bro’, a ‘chenedl’, a beth yw’r berthynas rhwng y cysyniadau hyn? Sut y mae diwylliant yn ymblethu â daearyddiaeth wrth greu a chynnal hunaniaethau lleol a chenedlaethol? Sut y mynegir hunaniaeth gan iaith a llenyddiaeth bro?
Dyma rai o’r cwestiynau y byddwn yn eu holi ar y modiwl hwn wrth inni ystyried ein perthynas â’r gofodau daearyddol gwahanol yr ydym yn byw a bod ynddynt.
On completion of the module a student should be able to
- dangos dealltwriaeth o amrywiaeth ieithyddol, llenyddol a diwylliannol y Cymry.
- gallu trafod yn hyderus gysyniadau diwylliannol megis cof, gofod, mynegiant a mapio wrth ymdrin â’r Cymry a’r Gymraeg.
- gallu dadansoddi perthynas cysyniadau diwylliannol â chymunedau a hunaniaethau y Gymraeg.
- gweithio’n effeithiol drwy adfyfyrio ar brosesau academaidd.
- dangos meistrolaeth ar Gymraeg llafar ac ysgrifenedig safonol wrth gyflwyno gwaith mewn dull proffesiynol a graenus.
How the module will be delivered
Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a gweithdai. Mae’r darlithoedd yn gosod canllawiau ac yn trafod prif elfennau’r maes, a’r seminarau a’r gweithdai yn estyn cyfle i drafod, rhyngweithio ac ymarfer ymdrin â thystiolaeth ddiwylliannol yn feirniadol.
Skills that will be practised and developed
Medrau Academaidd
- cywain gwybodaeth a’i gwerthuso er mwyn dod at gasgliadau addas
- meddwl yn hyblyg a gwneud cysylltiadau rhwng gwahanol ffynonellau a meysydd o wybodaeth
Sgiliau Trosglwyddadwy:
- gweithio mewn grwpiau ac fesul unigolyn wrth drafod testunau a thystiolaeth
- cyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig
- elwa ar dderbyn adborth ar waith ffurfiannol a datblygu arno
Medrau penodol y pwnc
- trin tystiolaeth ddiwylliannol yn feirniadol o safbwynt dehongli’r maes
- trafod yn feirniadol gysyniadau diwylliannol sy’n cyfoethogi dealltwriaeth o hunaniaethau y Cymry
Medrau Personol a Chyflogadwyedd
- datblygu hyder wrth gynnull a chyflwyno gwybodaeth yn feirniadol ac yn eglur
crynhoi ac arfarnu cysyniadau a safbwyntiau gwahanol ac ymdrin â hwy yn ddadansoddol
How the module will be assessed
Ffurfiannol
Bydd cyfle i gael adborth ar lafar i drafodaethau yn y dosbarth a rhai tasgau ysgrifenedig. Rhoddir adborth ysgrifenedig fesul unigolyn ar bob un darn o asesu crynodol.
Crynodol
Mae’r traethawd /prosiect yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymdrin mewn manylder ag agwedd a drafodir ar y modiwl, ynghyd â datblygu eu sgiliau academaidd megis ymchwilio i dystiolaeth a’i dadansoddi. (Deilliannau 1, 2, 3, 5)
Mae’r adroddiad adfyfyriol yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gnoi cil ar eu prosesau academaidd ac elwa ar adborth yn y dosbarth. (Deilliannau 4, 5)
Mae’r arholiad yn gofyn i fyfyrwyr ddangos dealltwriaeth o rai meysydd a chysyniadau yr ymdrinnir â hwy yn y modiwl, a chymhwyso’r wybodaeth at drafodaeth feirniadol addas. (Deilliannau 1, 2, 3, 5)
Assessment Breakdown
Type | % | Title | Duration(hrs) |
---|---|---|---|
Written Assessment | 40 | Mapio’R Cymry | N/A |
Written Assessment | 10 | Mapio’R Cymry | N/A |
Exam - Spring Semester | 50 | Mapio’R Cymry | 1.5 |
Syllabus content
- Diwylliant amrywiol ardaloedd a chymunedau’r Gymraeg
- Iaith a llenyddiaeth bro.
- Tafodieithoedd.
- Perthynas tir, iaith a chof â chenedlaetholdeb, e.e. yng ngwaith J. R. Jones.
- Arferion, cof a thraddodiadau gwerin amrywiol ardaloedd, e.e. y Blygain yng nghanolbarth Cymru a’r Fari Lwyd yn ne Cymru.
- Mapio a gofod fel cysyniad yng ngwaith beirdd a llenorion Cymraeg, e.e. Iwan Llwyd, Angharad Price.
- Hunaniaethau cymunedau y tu hwnt i Gymru, megis y Wladfa.
Essential Reading and Resource List
Davies, Janet. 1999. A Pocket Guide. The Welsh Language. Cardiff: University of Wales Press
James, E.W a Jones, T. Vaughan. 2008. Gwerin Gwlad: Ysgrifau ar ddiwylliant gwerin. Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch
Macdonald, Elvey. 1999. Yr Hirdaith. Llandysul: Gwasg Gomer
Morys, Twm. Gol. 2014. Awen Iwan. Tal-y-bont: Cyhoeddiadau Barddas
Owen, Trefor M. 1991. A Pocket Guide: The Customs and Traditions of Wales. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
Rowlands, John. 1992. Ysgrifau ar y Nofel. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
Thomas, M. Wynn. Gol. 2001. Gweld Sêr: Cymru a Chanrif America. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
Thomas, Beth a Thomas, Peter Wynn. 1989. Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg… Cyflwyno’r Tafodieithoedd. Caerdydd: Gwasg Taf