CY1751: Diwylliant Cymraeg Dinas Caerdydd
School | Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd |
Department Code | WELSH |
Module Code | CY1751 |
External Subject Code | 100333 |
Number of Credits | 20 |
Level | L4 |
Language of Delivery | Welsh |
Module Leader | Dr Dylan Foster Evans |
Semester | Double Semester |
Academic Year | 2015/6 |
Outline Description of Module
Yn ôl cyfrifiad 2011, mae Caerdydd yn gartref i oddeutu 36,000 o siaradwyr Cymraeg ac mae’r ddinas hefyd yn gartref i rai o sefydliadau Cymraeg pwysicaf y genedl. Ond ar yr un pryd iaith lleiafrif yw’r Gymraeg, a hynny mewn dinas amlethnig ac amlddiwylliannol.
Bwriad y modiwl yw astudio’r sefyllfa unigryw hon a dod i ddeall mwy am le’r Gymraeg yn y brifddinas—heddiw ac yn y gorffennol. Byddwn yn ceisio deall y cymunedau, y sefydliadau, a’r unigolion a roes fywyd i ddiwylliant Cymraeg Caerdydd (ac yn rhoi peth sylw i ambell fudiad a’i gwrthwynebai).
Cewch gyfle i ddeall mwy am y ddinas drwy edrych ar ystod eang o ffynonellau, gan gynnwys papurau newydd, llenyddiaeth, ystadegau, mapiau, cerddoriaeth, a mwy.
On completion of the module a student should be able to
- dangos dealltwriaeth o hanes ac arwyddocâd y Gymraeg yng Nghaerdydd.
- disgrifio’r rhesymau dros wahanol newidiadau ieithyddol yn y ddinas ar hyd y blynyddoedd
- dadansoddi natur cymunedau Cymraeg y brifddinas ar wahanol adegau yn ei hanes.
- dadansoddi cryfderau a gwendidau sefyllfa’r Gymraeg yng Nghaerdydd ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain
- dangos meistrolaeth ar Gymraeg llafar ac ysgrifenedig safonol wrth gyflwyno gwaith mewn dull proffesiynol a graenus
How the module will be delivered
Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a gweithdai. Mae’r darlithoedd yn gosod canllawiau ac yn trafod prif elfennau’r maes, a’r seminarau a’r gweithdai yn estyn cyfle i drafod, rhyngweithio ac ymarfer ymdrin â thystiolaeth ddiwylliannol yn feirniadol.
Skills that will be practised and developed
Medrau Academaidd
- cywain gwybodaeth a’i gwerthuso er mwyn dod at gasgliadau addas
- meddwl yn hyblyg a gwneud cysylltiadau rhwng gwahanol ffynonellau a meysydd o wybodaeth
Sgiliau Trosglwyddadwy:
- gweithio mewn tîm wrth drafod testunau a thystiolaeth
- cyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig
- elwa ar dderbyn adborth ar waith ffurfiannol a datblygu arno
Medrau penodol y pwnc
- trin tystiolaeth ddiwylliannol yn feirniadol o safbwynt dehongli’r maes
- trafod yn feirniadol gysyniadau diwylliannol sy’n cyfoethogi dealltwriaeth o hunaniaethau y Cymry
Medrau Personol a Chyflogadwyedd
- datblygu hyder wrth gynnull a chyflwyno gwybodaeth yn feirniadol ac yn eglur
- crynhoi ac arfarnu cysyniadau a safbwyntiau gwahanol ac ymdrin â hwy yn ddadansoddol
How the module will be assessed
Bydd yr arholiad yn asesu eich dealltwriaeth o rai agweddau sylfaenol ar hanes y Gymraeg yn y ddinas (deilliannau 1, 2, 3 a 5). Bydd y traethawd neu brosiect yn gofyn ichi drafod agwedd ar ddiwylliant y Gymraeg yn y Gaerdydd gyfoes (deilliannau 1, 3, 4 a 5).
Assessment Breakdown
Type | % | Title | Duration(hrs) |
---|---|---|---|
Exam - Autumn Semester | 50 | Diwylliant Cymraeg Dinas Caerdydd | 1.5 |
Written Assessment | 50 | Diwylliant Cymraeg Dinas Caerdydd | N/A |
Syllabus content
- braslun o hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd hyd at Oes Fictoria
- cymdeithasau a gwleidydda yn oes Fictoria—creu’r ddinas Gymraeg
- eisteddfodau Caerdydd
- addysg Gymraeg
- diwylliant poblogaidd
- y ‘chwyldro tawel’: adfywiad y Gymraeg wedi c. 1960
Essential Reading and Resource List
Aitchison. J. W. a Carter, H. 1987. The Welsh Language in Cardiff: A Quiet Revolution. Transactions of the Institute of British Geographers, Cyfres Newydd, 12.4, tt. 482–492
Betts, Clive. 1978. A Oedd Heddwch? Caerdydd: Gwasg ap Dafydd
Brooks, Simon. 2009. Tiger Bay a’r Diwylliant Cymraeg. Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion 2008, tt. 198–216 [fersiwn Word ar gael yma: http://eincaerdydd.com/ein-llyfrgell/tiger-bay-ar-diwylliant-cymraeg/]
Jones, John Gwynfor. 1987. Y Ganrif Gyntaf: Hanes Cymrodorion Caerdydd 1885–1985. Caerdydd: Cymrodorion Caerdydd
— 2001. Y Ddelwedd Gymreig Ddinesig yng Nghaerdydd c.1885–1939. Yn: Edwards, Hywel Teifi. Gol. Merthyr a Thaf. Llandysul: Gwasg Gomer, tt. 325–363
Roberts, Gwilym E. 1978. Twf y Bywyd Cymraeg. Yn: Rhaglen Swyddogol Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru, Caerdydd 1978, tt. 8–10
Thomas, Owen John. 1990. Caerdydd a’r Iaith Gymraeg: Astudiaeth er mwyn darganfod Cymreictod Caerdydd a’r Plwyfi Cylchynol yn y cyfnod o 1550–1850. Traethawd MA anghyhoeddedig, Coleg Prifysgol Cymru Caerdydd [ar gael yn Llyfrgell y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd]
— 1998. Yr Iaith Gymraeg yng Nghaerdydd c. 1800–1914. Yn: Jenkins, G. H. Gol. Iaith Carreg fy Aelwyd: Iaith a Chymuned yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
Williams, Mari A. 1999. Caerdydd (Sir Forgannwg). Yn: Parry, Gwenfair a Williams, Mari A. Goln. Miliwn o Gymry Cymraeg: Yr Iaith Gymraeg a Chyfrifiad 1891. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru