CY1750: Diwylliant y Gymraeg

School Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
Department Code WELSH
Module Code CY1750
External Subject Code 100333
Number of Credits 20
Level L4
Language of Delivery Welsh
Module Leader Dr Jeremy Evas
Semester Double Semester
Academic Year 2013/4

Outline Description of Module

Cyflwyniad i ddiwylliant a hanes y Gymraeg a thrafodaeth ar ei dyfodol – a’n rhan ni fel unigolion yn y dyfodol hwnnw.  Dyma gyfle i ddod i adnabod staff Ysgol y Gymraeg a thrafod pwysigrwydd ein sefydliadau ‘cenedlaethol’.  Pwy sy’n siarad Cymraeg heddiw? Ymhle?  Sut mae iaith mor fach â’r Gymraeg wedi goroesi wrth ochr un o ieithoedd mwyaf pwerus y byd?  Pwy fu’n protestio ar ein rhan? Beth yw arwyddocâd yr Eisteddfod Genedlaethol i siaradwyr Cymraeg heddiw?

Drwy ddilyn y modiwl hwn, fe gewch gyfle i ddod i adnabod eich cyd-fyfyrwyr, staff academaidd Ysgol y Gymraeg a chewch flas o’r hyn y bydd modd i chi astudio’n ddyfnach yn ystod ail a thrydedd flwyddyn eich gradd.

On completion of the module a student should be able to

Medrau a gaiff eu hymarfer a’u meithrin

Wedi cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr nodweddiadol yn gallu:

  • Trafod hanes sylfaenol ‘brwydr yr iaith’ yng Nghymru
  • Dadansoddi cyfrifoldeb yr unigolyn o ran adfer y Gymraeg.
  • Deall hanes ac arwyddocâd ein diwylliant a’n sefydliadau cenedlaethol, a’u cyfraniad i fywyd Cymraeg Cymru.

Medrau Academaidd

  • cywain gwybodaeth a’i gwerthuso
  • meddwl yn hyblyg a gwneud cysylltiadau rhwng gwahanol ffynonellau a meysydd o wybodaeth

Sgiliau Trosglwyddadwy:

  • gweithio mewn tîm
  • negodi ag eraill
  • cyfathrebu’n effeithiol

Medrau penodol y pwnc

  • trin data a thystiolaeth (gan gynnwys mapiau, tablau a graffiau) yn feirniadol o safbwynt dehongli’r maes
  • trafod yn feirniadol ddatblygiadau cyfredol ym maes cynllunio ieithyddol a pholisi iaith

Medrau Personol a Chyflogadwyedd

  • cyfranogi o drafodaethau a gwaith grŵp
  • cynnull a chyflwyno gwybodaeth yn feirniadol ac yn raenus
  • crynhoi ac arfarnu cysyniadau a safbwyntiau ac ymdrin â hwy yn feirniadol ac yn ddadansoddol
  • dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol.  

How the module will be delivered

Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a chyflwyniadau grŵp. Mae’r darlithoedd yn gosod canllawiau ac yn trafod prif elfennau’r maes, a’r seminarau a’r yn estyn cyfle i drafod, rhyngweithio ac ymarfer trin elfennau cynllunio ieithyddol a pholisi iaith yn feirniadol.

Skills that will be practised and developed

 

 

How the module will be assessed

Mae’r cyflwyniad grŵp (a’r adroddiad unigol arno) yn fodd i feithrin sgiliau gweithio mewn tîm, negodi ag eraill, cywain gwybodaeth a’i gwerthuso, a chyfathrebu’n effeithiol. Mae’r traethawd yn gofyn i fyfyrwyr gywain gwybodaeth berthnasol o wahanol ffynonellau a’i defnyddio’n ddeallus, yn drefnus ac yn raenus mewn wrth ysgrifennu’n estynedig.

Assessment Breakdown

Type % Title Duration(hrs)
Presentation 40 Diwylliant Y Gymraeg N/A
Report 20 Diwylliant Y Gymraeg N/A
Written Assessment 40 Diwylliant Y Gymraeg N/A

Syllabus content

  • Bywyd ac arferion gwerin
  • Cerddoriaeth
  • Crefydd a bydolwg
  • Cyfraniad grwpiau pwyso i ddyfodol y Gymraeg
  • Cynllunio ieithyddol
  • Daearyddiaeth Cymru
  • Gwleidyddiaeth
  • Hanes ac archaeoleg
  • Sut mae adfer y Gymraeg – beth yw ein cyfraniad fel unigolion
  • Yr Eisteddfod

Essential Reading and Resource List

BWRDD YR IAITH GYMRAEG (2012), Bwrdd Yr Iaith Gymraeg: Adolygiad 1993-2012,Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Caerdydd, http://www.webarchive.org.uk/wayback/archive/20120330001008/http://www.byig-wlb.org.uk/cymraeg/cyhoeddiadau/pages/publicationitem.aspx?puburl=http://www.byig-wlb.org.uk/cymraeg/cyhoeddiadau/cyhoeddiadau/20120312%20dg%20adolygiad%20diwedd%20y%20bwrdd.pdf

COMISIYNYDD Y GYMRAEg (2013), ‘Hafan Data Ac Ystadegau’ Comisiynydd y Gymraeg, Caerdydd, http://www.comisiynyddygymraeg.org/cymraeg/cymorth/dataacystadegau/pages/hafandataacystadegau.aspx

DAVIES, Gwyn (2002). Golau Gwlad: Cristnogaeth yng Nghymru 200-2000 (Pen-y-bont ar Ogwr: Gwasg Bryntirion)

DAVIES, Ifor, a LLOYD-MORGAN, Ceridwen (goln, 1999). Darganfod Celf Cymru (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)

EDWARDS, Hywel Teifi Edwards (1976). Yr Eisteddfod (Llys yr Eisteddfod Genedlaethol)

JENKINS, Geraint H. (1993). The University of Wales: An Illustrated History (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)

JONES, J. Graham Jones (1998). Llyfr Poced: Hanes Cymru (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)

JONES, Robert Owen (1997). ‘Hir Oes i’r Iaith’ (Llandysul: Gwasg Gomer)

OWEN, Trefor M. (1991). A Pocket Guide: The Customs and Traditions of Wales (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)


Copyright Cardiff University. Registered charity no. 1136855