CY1743: Llenyddiaeth Gymraeg
School | Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd |
Department Code | WELSH |
Module Code | CY1743 |
External Subject Code | 100333 |
Number of Credits | 20 |
Level | L4 |
Language of Delivery | Welsh |
Module Leader | Dr Eifion James |
Semester | Double Semester |
Academic Year | 2013/4 |
Outline Description of Module
Modiwl yw hwn sy’n hyfforddi myfyrwyr sut i astudio llenyddiaeth. Mae pwyslais arbennig ar lenyddiaeth o ddechrau’r ugeinfed ganrif ymlaen ac ar ddulliau beirniadaeth lenyddol.
On completion of the module a student should be able to
Ar ôl cwblhau’r modiwl, dylai myfyrwyr allu:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
- deall hanfodion barddoniaeth, y ddrama a’r nofel, a hanfodion beirniadaeth lenyddol
Sgiliau Deallusol:
- ymateb yn briodol i’r defnydd o iaith ac o’r dychymyg mewn llenyddiaeth
Sgiliau Disgyblaeth Benodol (gan gynnwys rhai ymarferol):
- trin gweithiau llenyddol yn feirniadol o safbwynt crefft, mynegiant a syniadaeth
Sgiliau Trosglwyddadwy:
- cynnull a chyflwyno gwybodaeth yn feirniadol, yn gydlynus ac yn raenus
- dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol.
How the module will be delivered
Seminarau, dosbarthiadau darllen, a darlithiau.
Mae’r seminarau a’r dosbarthiadau darllen yn estyn cyfle i drafod, rhyngweithio ac ymarfer trin testunau llenyddol yn feirniadol, mae’r darlithoedd yn gosod canllawiau ac yn cyflwyno gwybodaeth bwrpasol yn y maes, a’r asesu yn fodd i fyfyrwyr feithrin eu gallu i arddangos eu gwybodaeth ac ymdrin â phynciau yn drefnus, yn raenus ac yn ddadansoddol.
Skills that will be practised and developed
Dysgu sgiliau beirniadaeth lenyddol, yn arbennig wrth fanylu ar weithiau llenyddol o ddechrau’r ugeinfed ganrif ymlaen.
How the module will be assessed
Mae’r arholiad ysgrifenedig yn ddull o ddangos bod myfyrwyr wedi deall y deunydd drostynt eu hunain ac yn gallu ei gymhwyso’n bwrpasol i ateb cwestiynau. Mae’r traethawd yn gofyn i fyfyrwyr gywain gwybodaeth berthnasol o wahanol ffynonellau a’i defnyddio’n ddeallus, yn drefnus ac yn raenus mewn darn o ysgrifennu estynedig.
Assessment Breakdown
Type | % | Title | Duration(hrs) |
---|---|---|---|
Exam - Spring Semester | 50 | Llenyddiaeth Gymraeg | 2 |
Written Assessment | 50 | Written Assignments | N/A |
Syllabus content
Craidd y modiwl yw cyfres o seminarau/dosbarthiadau darllen sy’n canolbwyntio ar lenyddiaeth ddiweddar. Manylir yn eu tro ar farddoniaeth, y ddrama a’r nofel.
Essential Reading and Resource List
JOHNSTON, Dafydd (1998). Llyfr Poced: Llenyddiaeth Cymru (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)
JONES, Geraint Wyn (1988). Y Stori Fer a’r Stori Fer Hir (Llandysul: Gwasg Gomer)
JONES, John Gwilym (1977). Swyddogaeth Beirniadaeth (Dinbych: Gwasg Gee)
PARRY-WILLIAMS, T. H. (1965). Elfennau Barddoniaeth, pumed argraffiad (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)
PRICE, Angharad (2002). Rhwng Gwyn a Du: Agweddau ar Ryddiaith Gymraeg y 1990au (Caerdydd: Gwasg Prifysgol
Cymru)
RICHARDS, W. Leslie (1961). Ffurfiau’r Awen (Llandybïe: Llyfrau’r Dryw)
ROWLANDS, John (gol., 1992). Sglefrio ar Eiriau (Llandysul: Gwasg Gomer)
ROWLANDS, John (1992). Ysgrifau ar y Nofel (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)
ROWLANDS, John (gol., 2000). Y Sêr yn Eu Graddau (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)
WILLIAMS, Gerwyn (gol., 1999). Rhyddid y Nofel (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)
WILLIAMS, Ioan (1984). Y Nofel (Llandysul: Gwasg Gomer)