CY1603: Herio'r Traddodiad Llenyddol
School | Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd |
Department Code | WELSH |
Module Code | CY1603 |
External Subject Code | 101163 |
Number of Credits | 20 |
Level | L4 |
Language of Delivery | Welsh |
Module Leader | Dr Siwan Rosser |
Semester | Double Semester |
Academic Year | 2020/1 |
Outline Description of Module
Mae dealltwriaeth o orffennol llenyddol Cymru yn allweddol i’r sawl sydd yn dymuno deall sefyllfa’r Gymraeg a’i llenyddiaeth heddiw. Bwriad y modiwl hwn fydd herio ein syniadau ynghylch ‘traddodiad llenyddol y Cymry’ ac archwilio o’r newydd destunau o gyfnodau amseryddol gwahanol. Gwneir hynny drwy ofyn cwestiynau allweddol ynghylch perthynas testun a chyd-destun, sut y mae gwahanol ddehongliadau o’r gorffennol yn effeithio ar ein diwylliant ni heddiw, y berthynas rhwng llenyddiaeth a hunaniaeth, a sut a pham mae rhai testunau (ac nid eraill) yn cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.
Bydd y modiwl hwn yn eich arfogi â’r sgiliau angenrheidiol i drin gweithiau llenyddol hanesyddol yn feirniadol, i bwyso a mesur dadleuon yn eu cylch ac i werthfawrogi perthnasedd y gorffennol i ddiwylliant y Gymru gyfoes.
On completion of the module a student should be able to
- dangos gwybodaeth ynghylch detholiad o destunau y cyfnod cyn 1900
- dehongli’r berthynas rhwng gweithiau llenyddol a’u cyd-destun hanesyddol, cymdeithasol a syniadol
- trin gweithiau llenyddol yn feirniadol o safbwynt crefft, mynegiant a syniadaeth
- dangos dealltwriaeth o sut y mae’r modd y darllenir testunau yn arwain at ddehongliadau gwahanol
- datblygu dadleuon sy’n seiliedig ar wahanol fathau o ffynonellau cynradd ac eilaidd
- dangos meistrolaeth ar Gymraeg llafar ac ysgrifenedig safonol wrth gyflwyno gwaith mewn dull proffesiynol
How the module will be delivered
Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy ddulliau dysgu cyfunol a allai gynnwys cyfuniad o gyflwyniadau ar-lein, gweithdai trafod ar-lein, gweithgareddau dysgu digidol, a sesiynau wyneb-yn-wyneb.
Skills that will be practised and developed
Wedi cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr nodweddiadol yn gallu
Medrau academaidd:
- ymdrin â thestunau o wahanol gyfnodau
- creu dadleuon sy’n argyhoeddi ar sail tystiolaeth gadarn
- gallu trafod testunau sydd wedi eu hysgrifennu mewn iaith anghyfarwydd
Medrau penodol y pwnc:
- dangos gwybodaeth ddeallus ynghylch awduron a thestunau o gyfnodau gwahanol
- gwneud cysylltiadau rhwng testunau llenyddol ac agweddau cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol y cyfnod
Medrau cyflogadwyedd:
- casglu, dadansoddi a chyflwyno gwybodaeth ar bapur ac ar lafar
- cyfrannu at drafodaethau a chydweithio ag eraill i gynhyrchu a chyflwyno deunyddiau
- ymdrin â meysydd dieithr a chysyniadau cymhleth a’u cyflwyno’n eglur
- dangos meistrolaeth ar Gymraeg llafar ac ysgrifenedig safonol
How the module will be assessed
Ffurfiannol
Bydd cyfle i gael adborth ar lafar ar asesiadau ffurfiannol byrion a chyflwyniadau a thrafodaethau llafar mewn seminarau a sesiynau darllen. Rhoddir adborth ysgrifenedig fesul unigolyn ar bob un darn o asesu crynodol unigol.
Crynodol
Mae’r Portffolio yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau darllen testun ac ymdrin â gwahanol ddehongliadau (Deilliannau 3, 4, 6)
Mae’r prawf llafar yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr drafod a dehongli testun llenyddol yn ei gyd-destun hanesyddol, cymdeithasol a syniadol (deilliannau 1, 2, 3, 5, 6)
Mae’r traethawd yn gofyn i fyfyrwyr ddangos dealltwriaeth o rai meysydd a chysyniadau yr ymdrinnir â hwy yn y modiwl, a chymhwyso’r wybodaeth at drafodaeth feirniadol addas (Deilliannau 1-6)
Gwaith cwrs - 20% - Portffolio - Hyd at 800 gair - Semester 1
Prawf dosbarth llafar - 30% - Trafodaeth lafar mewn grŵp ar destun llenyddol - Semester 1
Gwaith cwrs - 50% - Traethawd yn seiliedig ar gynnwys semester 2 - 2000 gair - Semester 2
Y potensial ar gyfer ailasesu yn y modiwl hwn
Fel rheol, bydd cyfle i fyfyrwyr sy’n methu’r modiwl gael eu hailasesu drwy ailgyflwyno yr elfen(nau) a fethwyd yn ystod cyfnod arholi’r haf. Fodd bynnag, mae gan Fwrdd Arholi’r BA yr hawl i amrywio’r asesu hwn neu i benderfynu na all myfyriwr penodol ailgyflwyno.
Assessment Breakdown
Type | % | Title | Duration(hrs) |
---|---|---|---|
Portfolio | 20 | Portffolio | N/A |
Oral/Aural Assessment | 30 | Trafodaeth Lafar Mewn Grŵp Ar Destun Llenyddol | N/A |
Written Assessment | 50 | Traethawd Yn Seiliedig Ar Gynnwys Semester 2 | N/A |
Syllabus content
Bydd y modiwl yn cynnwys themâu megis:
- Darllen y Gorffennol
- Dehongli’r Oesoedd Canol
- Canfod y Cyfnod Modern Cynnar
- Y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg: Y ganrif fwyaf?
Essential Reading and Resource List
Bowen, Geraint gol. 1970. Y Traddodiad Rhyddiaith. Llandysul: Gwasg Gomer
Edwards, Hywel Teifi gol. 2000. A Guide to Welsh Literature c.1800-1900, cyf. 5. Cardiff: University of Wales Press
Gruffydd, R. Geraint. 1989. Llenyddiaeth y Cymry: Cyflwyniad Darluniadol, cyf. 2. Llandysul: Gwasg Gomer
________ gol. 1997. A Guide to Welsh Literature c.1530-1700, cyf. 3. Cardiff: University of Wales Press
Jarman, A. O. H. gol. 1992. A Guide to Welsh Literature, cyf. 1. Cardiff: University of Wales Press
________ gol. 1997. A Guide to Welsh Literature, cyf. 2. Cardiff: University of Wales Press
Jarvis, Branwen gol. 2000. A Guide to Welsh Literature c.1700-1800, cyf. 4. Cardiff: University of Wales Press
Johnston, Dafydd. 1998. Llyfr Poced: Llenyddiaeth Cymru. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
_________. 2005. Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300–1525. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
Thomas, Gwyn. 1985. Llenyddiaeth y Cymry: Cyflwyniad Darluniadol, cyf. 1. Y Bonfaen: D. Brown a’i Feibion