CY1603: Herio'r Traddodiad Llenyddol

School Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
Department Code WELSH
Module Code CY1603
External Subject Code 101163
Number of Credits 20
Level L4
Language of Delivery Welsh
Module Leader Dr Siwan Rosser
Semester Double Semester
Academic Year 2018/9

Outline Description of Module

Mae dealltwriaeth o orffennol llenyddol Cymru yn allweddol i’r sawl sydd yn dymuno deall sefyllfa’r Gymraeg a’i llenyddiaeth heddiw. Bwriad y modiwl hwn fydd herio ein syniadau ynghylch ‘traddodiad llenyddol y Cymry’ ac archwilio o’r newydd destunau o gyfnodau amseryddol gwahanol. Gwneir hynny drwy ofyn cwestiynau allweddol ynghylch perthynas testun a chyd-destun, sut y mae gwahanol ddehongliadau o’r gorffennol yn effeithio ar ein diwylliant ni heddiw, y berthynas rhwng llenyddiaeth a hunaniaeth, a sut a pham mae rhai testunau (ac nid eraill) yn cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.

Bydd y modiwl hwn yn eich arfogi â’r sgiliau angenrheidiol i drin gweithiau llenyddol hanesyddol yn feirniadol, i bwyso a mesur dadleuon yn eu cylch ac i werthfawrogi perthnasedd y gorffennol i ddiwylliant y Gymru gyfoes.

On completion of the module a student should be able to

  1. dangos gwybodaeth ynghylch detholiad o destunau y cyfnod cyn 1900
  2. dehongli’r berthynas rhwng gweithiau llenyddol a’u cyd-destun hanesyddol, cymdeithasol a syniadol
  3. trin gweithiau llenyddol yn feirniadol o safbwynt crefft, mynegiant a syniadaeth
  4. dangos dealltwriaeth o sut y mae’r modd y darllenir testunau yn arwain at ddehongliadau gwahanol
  5. datblygu dadleuon sy’n seiliedig ar wahanol fathau o ffynonellau cynradd ac eilaidd
  6. dangos meistrolaeth ar Gymraeg llafar ac ysgrifenedig safonol wrth gyflwyno gwaith mewn dull proffesiynol

 

How the module will be delivered

Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau/dosbarthiadau darllen a chyflwyniadau grŵp. Bydd y darlithoedd yn gosod canllawiau ac yn cyflwyno darlun pwrpasol o’r maes, a bydd y seminarau a’r dosbarthiadau darllen yn estyn cyfle i drafod, rhyngweithio ac ymarfer trin testunau llenyddol yn feirniadol. Bydd y cyflwyniadau grŵp yn estyn cyfle i gynnull a chyflwyno gwybodaeth, rhyngweithio a chydweithio ag eraill. Bydd deunyddiau electronig yn cefnogi’r dysgu.

 

Skills that will be practised and developed

Medrau academaidd:

  • ymdrin â thestunau o wahanol gyfnodau
  • creu dadleuon sy’n argyhoeddi ar sail tystiolaeth gadarn
  • gallu trafod testunau sydd wedi eu hysgrifennu mewn iaith anghyfarwydd

Medrau penodol y pwnc:

  • dangos gwybodaeth ddeallus ynghylch awduron a thestunau o gyfnodau gwahanol
  • gwneud cysylltiadau rhwng testunau llenyddol ac agweddau cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol y cyfnod

Medrau cyflogadwyedd:

  • casglu, dadansoddi a chyflwyno gwybodaeth ar bapur ac ar lafar
  • cyfrannu at drafodaethau a chydweithio ag eraill i gynhyrchu a chyflwyno deunyddiau
  • ymdrin â meysydd dieithr a chysyniadau cymhleth a’u cyflwyno’n eglur
  • dangos meistrolaeth ar Gymraeg llafar ac ysgrifenedig safonol

How the module will be assessed

Ffurfiannol

Bydd cyfle i gael adborth ar lafar ar asesiadau ffurfiannol byrion a chyflwyniadau a thrafodaethau llafar mewn seminarau a sesiynau darllen. Rhoddir adborth ysgrifenedig fesul unigolyn ar bob un darn o asesu crynodol unigol.

Crynodol

Mae’r Portffolio yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau darllen testun ac ymdrin â gwahanol ddehongliadau (Deilliannau 3, 4, 6)

Mae’r prawf llafar yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr drafod a dehongli testun llenyddol yn ei gyd-destun hanesyddol, cymdeithasol a syniadol (deilliannau 1, 2, 3, 5, 6)

Mae’r traethawd yn gofyn i fyfyrwyr ddangos dealltwriaeth o rai meysydd a chysyniadau yr ymdrinnir â hwy yn y modiwl, a chymhwyso’r wybodaeth at drafodaeth feirniadol addas (Deilliannau 1-6)

Y math o asesiad                  % Cyfraniad               Teitl                                                                          Parhad (os yw’n gymwys)                  Dyddiad yr Asesiad yn fras

Gwaith cwrs                            20%                           Portffolio                                                                     Hyd at 800 gair                                    Diwedd Semester 1

Prawf dosbarth llafar                30%                           Trafodaeth lafar mewn grŵp ar destun llenyddol                                                                         Diwedd Semester  1

Gwaith cwrs                           50%                           Traethawd yn seiliedig ar gynnwys semester 2                2000 gair                                             Diwedd Semester  2

Y potensial ar gyfer ailasesu yn y modiwl hwn

Fel rheol, bydd cyfle i fyfyrwyr sy’n methu’r modiwl gael eu hailasesu drwy ailgyflwyno neu ailsefyll yr elfen(nau) a fethwyd yn ystod cyfnod arholi’r haf. Fodd bynnag, mae gan Fwrdd Arholi’r BA yr hawl i amrywio’r asesu hwn neu i benderfynu na all myfyriwr penodol ailsefyll.

 

Assessment Breakdown

Type % Title Duration(hrs)
Portfolio 20 Portffolio N/A
Oral/Aural Assessment 30 Trafodaeth Lafar Mewn Grŵp Ar Destun Llenyddol N/A
Written Assessment 50 Traethawd Yn Seiliedig Ar Gynnwys Semester 2 N/A

Syllabus content

Bydd y modiwl yn cynnwys themâu megis:

  1. Darllen y Gorffennol
  2. Dehongli’r Oesoedd Canol
  3. Canfod y Cyfnod Modern Cynnar
  4. Y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg: Y ganrif fwyaf?

Essential Reading and Resource List

Bowen, Geraint gol. 1970. Y Traddodiad Rhyddiaith. Llandysul: Gwasg Gomer

Edwards, Hywel Teifi gol. 2000. A Guide to Welsh Literature c.1800-1900, cyf. 5. Cardiff: University of Wales Press

Gruffydd, R. Geraint. 1989. Llenyddiaeth y Cymry: Cyflwyniad Darluniadol, cyf. 2. Llandysul: Gwasg Gomer

________ gol. 1997. A Guide to Welsh Literature c.1530-1700, cyf. 3. Cardiff: University of Wales Press

Jarman, A. O. H. gol. 1992. A Guide to Welsh Literature, cyf. 1. Cardiff: University of Wales Press

________ gol. 1997. A Guide to Welsh Literature, cyf. 2. Cardiff: University of Wales Press

Jarvis, Branwen gol. 2000. A Guide to Welsh Literature c.1700-1800, cyf. 4. Cardiff: University of Wales Press

Johnston, Dafydd. 1998. Llyfr Poced: Llenyddiaeth Cymru. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru

_________. 2005. Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300–1525. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru

Thomas, Gwyn. 1985. Llenyddiaeth y Cymry: Cyflwyniad Darluniadol, cyf. 1. Y Bonfaen: D. Brown a’i Feibion


Copyright Cardiff University. Registered charity no. 1136855