CY1602: Y Gymraeg yn y Gymru Gyfoes
School | Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd |
Department Code | WELSH |
Module Code | CY1602 |
External Subject Code | 100333 |
Number of Credits | 20 |
Level | L4 |
Language of Delivery | Welsh |
Module Leader | Dr Jonathan Morris |
Semester | Double Semester |
Academic Year | 2022/3 |
Outline Description of Module
Prif ffocws y modiwl hwn yw cyflwyno sefyllfa’r Gymraeg heddiw, y ffactorau sydd wedi effeithio arni, ac a allai ddylanwadu arni yn y dyfodol. Wrth godi eich ymwybyddiaeth iaith, byddwch yn edrych ar bedair prif agwedd - sef y cyd-destun hanesyddol, cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol. Byddwch hefyd yn ystyried y darlun cenedlaethol a’r hyn sy’n digwydd yn lleol.
Byddwch yn edrych ar rai cwestiynau pwysig.
- Pa ffactorau hanesyddol a gwleidyddol sydd wedi dylanwadu ar sefyllfa’r Gymraeg?
- Pwy sy’n siarad y Gymraeg ac ymhle – pa mor aml?
- Beth yw dylanwad rhai mentrau a sefydliadau cenedlaethol i siaradwyr Cymraeg heddiw?
- Beth yw dyfodol yr iaith yn genedlaethol ac yn eich ardal?
Bydd y modiwl yn atgyfnerthu eich gafael ar yr iaith, yn rhoi’r cyfle ichi ddatblygu eich gwybodaeth am sefyllfa’r Gymraeg ac yn cryfhau eich dealltwriaeth o’r agweddau sydd wedi effeithio arni.
On completion of the module a student should be able to
- crynhoi datblygiadau hanesyddol a chymdeithasol sydd wedi effeithio ar y Gymraeg;
- dadansoddi’r ffactorau cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol sy’n dylanwadu ar sefyllfa’r Gymraeg heddiw;
- datblygu dadleuon sy’n seiliedig ar wahanol fathau o ffynonellau cynradd ac eilaidd;
- creu argymhellion i wneuthurwyr polisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth;
- dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol wrth gyflwyno gwaith mewn dull proffesiynol.
How the module will be delivered
Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy ddulliau dysgu cyfunol a allai gynnwys cyfuniad o gyflwyniadau ar-lein, gweithdai trafod ar-lein, gweithgareddau dysgu digidol, a sesiynau wyneb-yn-wyneb.
Skills that will be practised and developed
Medrau academaidd
- cywain gwybodaeth a’i gwerthuso
- meddwl yn hyblyg a gwneud cysylltiadau rhwng gwahanol ffynonellau a meysydd o wybodaeth
- creu dadleuon yn seiliedig ar wahanol fathau o dystiolaeth
Medrau penodol y pwnc
- trin data a thystiolaeth (gan gynnwys mapiau, tablau a graffiau) yn feirniadol o safbwynt dehongli’r maes
- trafod yn feirniadol a chrynhoi ac arfarnu gwahanol safbwyntiau
- defnyddio cyfeirlyfrau ieithyddol a phecynnau meddalwedd electronig i ddatblygu mynegiant ieithyddol
Medrau Cyflogadwyedd
- cyfranogi o drafodaethau a gwaith grŵp
- gweithio yn annibynnol
- cynnull a chyflwyno gwybodaeth yn glir
- monitro a gwerthuso cynnydd yn nhermau targedau penodol (rheoli amser) drwy lunio traethawd a chanddo amserlen benodedig (e.e. cynllunio, drafftio, prawf ddarllen)
- cyflwyno yn glir ac yn hyderus
How the module will be assessed
Ffurfiannol
Bydd cyfle i gael adborth ar lafar ar asesiadau ffurfiannol byrion a chyflwyniadau a thrafodaethau llafar mewn gweithdai.
Crynodol
- Ffolio sy’n cynnwys atebion i gyfres o gwestiynau ynghylch cynnwys Semester 1 (deilliannau 1, 2, 3, 5).
- Traethawd sy’n gofyn i fyfyrwyr gywain gwybodaeth berthnasol a’i defnyddio’n glir ac yn drefnus wrth ysgrifennu’n estynedig. Byddwch yn dilyn camau penodol i gwblhau’r asesiad hwn ac yn derbyn adborth yn ystod y camau hynny (Deilliannau 2, 3, 4, 5).
Assessment Breakdown
Type | % | Title | Duration(hrs) |
---|---|---|---|
Written Assessment | 50 | Ffolio | N/A |
Written Assessment | 50 | Traethawd | N/A |
Syllabus content
- Newidiadau hanesyddol a chymdeithasol sydd wedi effeithio ar sefyllfa’r Gymraeg
- Dylanwad mudiadau a chymdeithasau ar hanes yr iaith
- Sefyllfa’r Gymraeg heddiw a’r ffactorau sy’n effeithio arni
- Gweithgarwch y Llywodraeth a mudiadau eraill i hyrwyddo’r Gymraeg
- Y Gymraeg yn eich ardal leol
- Cynllunio ieithyddol: Dadansoddi tystiolaeth a gwneud argymhellion