CY1602: Y Gymraeg yn y Gymru Gyfoes

School Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
Department Code WELSH
Module Code CY1602
External Subject Code 100333
Number of Credits 20
Level L4
Language of Delivery Welsh
Module Leader Dr Jonathan Morris
Semester Double Semester
Academic Year 2020/1

Outline Description of Module

Prif ffocws y modiwl hwn yw cyflwyno sefyllfa’r Gymraeg heddiw, y ffactorau sydd wedi effeithio arni, ac a allai ddylanwadu arni yn y dyfodol. Wrth godi’ch ymwybyddiaeth iaith, byddwch yn edrych ar bedair prif agwedd -  sef y cyd-destun hanesyddol, cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol. Byddwch hefyd yn ystyried y darlun cenedlaethol a’r hyn sy’n digwydd yn lleol.

Byddwch yn edrych ar rai cwestiynau pwysig.

  • Pa ffactorau hanesyddol a gwleidyddol sydd wedi dylanwadu ar sefyllfa’r Gymraeg?
  • Pwy sy’n siarad y Gymraeg ac ymhle – pa mor aml?
  • Beth yw dylanwad rhai mentrau a sefydliadau cenedlaethol i siaradwyr Cymraeg heddiw?
  • Beth yw dyfodol yr iaith yn genedlaethol ac yn eich ardal?

Bydd y modiwl yn atgyfnerthu eich gafael ar yr iaith, yn rhoi’r cyfle ichi ddatblygu eich gwybodaeth am sefyllfa’r Gymraeg ac yn cryfhau eich dealltwriaeth o’r agweddau sydd wedi effeithio arni.

On completion of the module a student should be able to

  1. crynhoi datblygiadau hanesyddol a chymdeithasol sydd wedi effeithio ar y Gymraeg;
  2. dadansoddi’r ffactorau cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol sy’n dylanwadu ar sefyllfa’r Gymraeg heddiw;
  3. datblygu dadleuon sy’n seiliedig ar wahanol fathau o ffynonellau cynradd ac eilaidd;
  4. creu argymhellion i wneuthurwyr polisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth;
  5. dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol wrth gyflwyno gwaith mewn dull proffesiynol.

How the module will be delivered

Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy ddulliau dysgu cyfunol a allai gynnwys cyfuniad o gyflwyniadau ar-lein, gweithdai trafod ar-lein, gweithgareddau dysgu digidol, a sesiynau wyneb-yn-wyneb.

Skills that will be practised and developed

Wedi cwblhau’r modiwl, bydd myfyriwr nodweddiadol yn gallu:

Medrau academaidd

  • cywain gwybodaeth a’i gwerthuso
  • meddwl yn hyblyg a gwneud cysylltiadau rhwng gwahanol ffynonellau a meysydd o wybodaeth
  • creu dadleuon yn seiliedig ar wahanol fathau o dystiolaeth

Medrau penodol y pwnc

  • trin data a thystiolaeth (gan gynnwys mapiau, tablau a graffiau) yn feirniadol o safbwynt dehongli’r maes
  • trafod yn feirniadol a chrynhoi ac arfarnu gwahanol safbwyntiau
  • defnyddio cyfeirlyfrau ieithyddol a phecynnau meddalwedd electronig i ddatblygu mynegiant ieithyddol

Medrau Cyflogadwyedd

  • cyfranogi o drafodaethau a gwaith grŵp
  • gweithio yn annibynnol
  • cynnull a chyflwyno gwybodaeth yn glir
  • monitro a gwerthuso cynnydd yn nhermau targedau penodol (rheoli amser) drwy lunio traethawd a chanddo amserlen benodedig (e.e. cynllunio, drafftio, prawf ddarllen)
  • cyflwyno yn glir ac yn hyderus

 

 

How the module will be assessed

Ffurfiannol:

Bydd cyfle i gael adborth ar lafar ar asesiadau ffurfiannol byrion a chyflwyniadau a thrafodaethau llafar mewn gweithdai ar-lein.

Crynodol:

  1. Ffolio sy’n cynnwys atebion i gyfres o gwestiynau ynghylch cynnwys Semester 1 (deilliannau 1, 2, 3).
  2. Traethawd sy’n gofyn i fyfyrwyr gywain gwybodaeth berthnasol a’i defnyddio’n glir ac yn drefnus wrth ysgrifennu’n estynedig. Byddwch yn dilyn camau penodol i gwblhau’r adroddiad hwn ac yn derbyn adborth yn ystod y camau hynny (Deilliannau 2, 3, 4, 5).

Y potensial ar gyfer ailasesu yn y modiwl hwn

Fel rheol, bydd cyfle i fyfyrwyr sy’n methu’r modiwl gael eu hailasesu drwy ailgyflwyno neu ailsefyll yr elfen(nau) a fethwyd yn ystod cyfnod arholi’r haf. Fodd bynnag, mae gan Fwrdd Arholi’r BA yr hawl i amrywio’r asesu hwn neu i benderfynu na all myfyriwr penodol ailsefyll.

Assessment Breakdown

Type % Title Duration(hrs)
Written Assessment 50 Ffolio N/A
Written Assessment 50 Traethawd N/A

Syllabus content

  • Newidiadau hanesyddol a chymdeithasol sydd wedi effeithio ar sefyllfa’r Gymraeg
  • Dylanwad mudiadau a chymdeithasau ar hanes yr iaith
  • Sefyllfa’r Gymraeg heddiw a’r ffactorau sy’n effeithio arni
  • Gweithgarwch y Llywodraeth a mudiadau eraill i hyrwyddo’r Gymraeg
  • Y Gymraeg yn eich ardal leol
  • Cynllunio ieithyddol: Dadansoddi tystiolaeth a gwneud argymhellion

Essential Reading and Resource List

Adnoddau

StatsCymru: https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Welsh-Language

StatIaith: https://statiaith.com/blog/

Ymchwil Llywodraeth Cymru i’r Gymraeg: https://statiaith.com/blog/

Gwefan y Llywodraeth ar hyrwyddo’r Gymraeg: http://cymraeg.llyw.cymru/events/?lang=cy

Estyn (Adroddiadau Arolygu gydag ystadegau a gwybodaeth am ysgolion unigol):

https://www.estyn.llyw.cymru/?_ga=2.183688420.337976996.1517408189-1127391295.1481038060

Mentrau Iaith: http://www.mentrauiaith.cymru/

Deunyddiau Darllen

Aitchison, J. W. & Carter, H. 1994. A Geography of the Welsh Language 1961-1991. Cardiff: University of Wales Press.

Beaufort Research et al. 2013. Ymchwilio i Ddefnydd Iaith Siaradwyr Cymraeg yn Eu Bywyd Bob Dydd. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.

http://gov.wales/topics/welshlanguage/research/exploring-welsh-lang-in-daily-lives/?skip=1&lang=cy.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru. 2011. Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Caerdydd: Argraffydd Deddfau Seneddol Ei Mawrhydi.

http://www.legislation.gov.uk/mwa/2011/1/contents/enacted/welsh.

Evas, J., Morris, J. & Whitmarsh, L. 2017. Trosglwyddo’r Gymraeg a’i defnydd mewn teuluoedd (Adroddiad Ymchwil Gymdeithasol y

Jenkins, G. H. a Williams, Mari A. (goln). 2000. ‘Eu Haith A Gadwant’? Y Gymraeg yn yr Ugeinfed Ganrif. Caerdydd. Gwasg Prifysgol Cymru.

Jones, H. 2012. Darlun Ystadegol o Sefyllfa'r Gymraeg Caerdydd: Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

http://www.webarchive.org.uk/wayback/archive/20120330011119/http://www.byig-wlb.org.uk/cymraeg/cyhoeddiadau/pages/publicationitem.aspx?puburl=/Cymraeg/cyhoeddiadau/Cyhoeddiadau/Darlun+ystadegol+o+sefyllfa+y+Gymraegf2.pdf.

Jones, R.O. Hir Oes I’r Iaith: Agweddau Ar Hanes Y Gymraeg A’r Gymdeithas. Llandysul: Gomer.

Jones, Rh. & Lewis, H. 2019. New Geographies of Language: Language, Culture and Politics in Wales. Llundain: Palgrave MacMillan.

Llywodraeth Cymru. 2017. Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr. Caerdydd. Llywodraeth Cymru. https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-03/cymraeg-2050-strategaeth-y-gymraeg-v1-1.pdf

Llywodraeth Cymru & Comisiynydd y Gymraeg. 2015. Y Defnydd O’r Gymraeg yng Nghymru, 2013-15. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. http://gov.wales/docs/statistics/2016/160301-welsh-language-use-in-wales-2013-15-cy.pdf.

Morris, D. Gol. 2010. Welsh in the Twenty-First Century. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.

Morris, J. 2014. The Influence of Social Factors on Minority Language Engagement Amongst Young People: An Investigation of Welsh-English Bilinguals in North Wales. International Journal of the Sociology of Language 2014(230), tt. 65-89. http://dx.doi.org/10.1515/ijsl-2014-0027.

Williams, C. H. gol. 2000. Language Revitalization: Policy and Planning in Wales. Cardiff: University of Wales Press.

Williams, E. 2009. Language attitudes and identity in a North Wales town: “something different about Caernarfon”? International Journal of the Sociology of Language 195. 63‒91.


Copyright Cardiff University. Registered charity no. 1136855