CY1602: Y Gymraeg yn y Gymru Gyfoes

School Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
Department Code WELSH
Module Code CY1602
External Subject Code 100333
Number of Credits 20
Level L4
Language of Delivery Welsh
Module Leader Dr Jonathan Morris
Semester Double Semester
Academic Year 2018/9

Outline Description of Module

Prif ffocws y modiwl hwn yw cyflwyno sefyllfa’r Gymraeg heddiw, y ffactorau sydd wedi effeithio arni, ac a allai ddylanwadu arni yn y dyfodol. Wrth godi’ch ymwybyddiaeth iaith, byddwch yn edrych ar bedair prif agwedd -  sef y cyd-destun hanesyddol, cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol.

Byddwch yn edrych ar rai cwestiynau pwysig.

  • Pa brif ffactorau hanesyddol a gwleidyddol sydd wedi dylanwadu ar ddatblygiad y Gymraeg?
  • Sut y mae sefyllfa’r Gymraeg wedi newid yn ystod y ganrif ddiwethaf?
  • Pwy sy’n siarad y Gymraeg ac ymhle – pa mor aml?
  • Beth yw dylanwad rhai mentrau a sefydliadau cenedlaethol i siaradwyr Cymraeg heddiw?
  • Beth yw dyfodol yr iaith?

Bydd y modiwl yn atgyfnerthu eich gafael ar yr iaith, yn rhoi’r cyfle ichi ddatblygu eich gwybodaeth am sefyllfa’r Gymraeg ac yn cryfhau eich dealltwriaeth o’r agweddau sydd wedi effeithio arni.

On completion of the module a student should be able to

  1. crynhoi datblygiadau hanesyddol a chymdeithasol sydd wedi effeithio ar y Gymraeg
  2. dadansoddi’r ffactorau sy’n dylanwadu ar sefyllfa’r Gymraeg heddiw
  3. cymhwyso syniadau a datblygiadau o faes cynllunio ieithyddol i sefyllfa’r Gymraeg heddiw
  4. datblygu dadleuon sy’n seiliedig ar wahanol fathau o ffynonellau cynradd ac eilaidd
  5. dangos meistrolaeth ar Gymraeg llafar ac ysgrifenedig safonol wrth gyflwyno gwaith mewn dull proffesiynol.

 

How the module will be delivered

Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy gyfuniad o weithdai, sesiynau trafod a chyflwyniadau grŵp. Mae’r gweithdai yn gosod canllawiau ac yn trafod prif elfennau’r maes. Bydd y sesiynau trafod yn rhoi’r cyfle ichi ddatblygu sgiliau dadansoddi a dehongli ac i feithrin hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destunau ffurfiol ac anffurfiol. Bydd y cyflwyniadau grŵp yn estyn cyfle i gynnull a chyflwyno gwybodaeth, rhyngweithio a chydweithio ag eraill. Bydd deunyddiau electronig yn cefnogi’r dysgu.

Skills that will be practised and developed

Medrau academaidd

  • cywain gwybodaeth a’i gwerthuso
  • meddwl yn hyblyg a gwneud cysylltiadau rhwng gwahanol ffynonellau a meysydd o wybodaeth
  • creu dadleuon yn seiliedig ar wahanol fathau o dystiolaeth

Medrau penodol y pwnc

  • trin data a thystiolaeth (gan gynnwys mapiau, tablau a graffiau) yn feirniadol o safbwynt dehongli’r maes
  • trafod yn feirniadol a chrynhoi ac arfarnu gwahanol safbwyntiau
  • defnyddio cyfeirlyfrau ieithyddol a phecynnau meddalwedd electronig i ddatblygu mynegiant ieithyddol

Medrau Cyflogadwyedd

  • cyfranogi o drafodaethau a gwaith grŵp
  • gweithio yn annibynnol
  • cynnull a chyflwyno gwybodaeth yn glir
  • monitro a gwerthuso cynnydd yn nhermau targedau penodol (rheoli amser) drwy lunio traethawd a chanddo amserlen benodedig (e.e. cynllunio, drafftio, prawf ddarllen)
  • cyflwyno yn glir ac yn hyderus ar lafar ac yn ysgrifenedig

How the module will be assessed

Ffurfiannol:

Bydd cyfle i gael adborth ar lafar ar asesiadau ffurfiannol byrion a chyflwyniadau a thrafodaethau llafar mewn seminarau a sesiynau darllen. Rhoddir adborth ysgrifenedig fesul unigolyn ar bob un darn o asesu crynodol unigol.

Crynodol:

Mae’r cyflwyniad grŵp (a’r adroddiad arno) yn fodd i feithrin sgiliau gweithio mewn tîm, negodi ag eraill, cywain gwybodaeth a’i gwerthuso, a chyfathrebu’n glir ac yn hyderus (1, 2, 5, 6).

Mae’r gwaith cwrs (ffolio) yn gofyn i fyfyrwyr gywain gwybodaeth berthnasol a’i defnyddio’n glir ac yn drefnus wrth ysgrifennu’n estynedig. Byddwch yn dilyn camau penodol i gwblhau’r adroddiad hwn ac yn derbyn adborth yn ystod y camau hynny (Deilliannau 1-6).

Y math o asesiad                   % Cyfraniad                   Teitl                                                                              Parhad (os yw’n gymwys)                  Dyddiad yr Asesiad yn fras

Cyflwyniad llafar                       30%                               Cyflwyniad llafar grŵp i’w farcio gan y tiwtor*                     15 munud                                             Diwedd Semester 1

Gwaith cwrs                             20%                               Adroddiad ar y cyflwyniad grŵp                                        800 gair                                               Diwedd Semester 1

Gwaith cwrs                             50%                               Adroddiad unigol ar y Gymraeg yn eich ardal chwi             2000 gair                                             Diwedd Semester 2

* Ar gyfer y cyflwyniad grŵp byddwch yn cael eich marcio ar sail cyfuniad o farc cyflwyniad grŵp a chyfraniad unigol. Bydd y ddwy elfen hyn wedi eu pwysoli fel a ganlyn o ran marc yr asesiad:

  • Marc grŵp ar gyfer y cyflwyniad – 40%
  • Marc unigol ar gyfer y cyflwyniad – 60%

Y potensial ar gyfer ailasesu yn y modiwl hwn

Fel rheol, bydd cyfle i fyfyrwyr sy’n methu’r modiwl gael eu hailasesu drwy ailgyflwyno neu ailsefyll yr elfen(nau) a fethwyd yn ystod cyfnod arholi’r haf. Fodd bynnag, mae gan Fwrdd Arholi’r BA yr hawl i amrywio’r asesu hwn neu i benderfynu na all myfyriwr penodol ailsefyll.

Assessment Breakdown

Type % Title Duration(hrs)
Presentation 30 Cyflwyniad Llafar Grŵp N/A
Written Assessment 20 Adroddiad Ar Y Cyflwyniad Grwp N/A
Written Assessment 50 Adroddiad Unigol Ar Y Gymraeg Yn Eich Ardal Chi N/A

Syllabus content

  • Newidiadau hanesyddol a chymdeithasol sydd wedi effeithio ar sefyllfa’r Gymraeg
  • Dylanwad mudiadau a chymdeithasau ar hanes yr iaith
  • Sefyllfa’r Gymraeg heddiw a’r ffactorau sy’n effeithio arni
  • Gweithgarwch y Llywodraeth a mudiadau eraill i hyrwyddo’r Gymraeg
  • Y Gymraeg yn eich ardal leol
  • Cynllunio ieithyddol: Dadansoddi tystiolaeth a gwneud argymhellion

Essential Reading and Resource List

Davies, D. 2001. Within and without (The story of the Welsh): The impact of cultural factors on mental health in the present day in Wales. Yn: Bhugra, Dinesh, Roland Littlewood goln. Colonialism and psychiatry. Oxford: Oxford University Press, tt.185-231.

Davies, Janet. 1999. The Welsh Language. Cardiff: University of Wales Press

GIG Cymru, 2002. Siarad yr Anweledig: Diwylliant, Hunaniaeth a Seiciatreg. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. Ar-lein: (http://www.wales.nhs.uk/sites3/documents/415/speaking-the-invisible.pdf)

Jones, H. M. 2012. Darlun Ystadegol o Sefyllfa’r Gymraeg. Caerdydd, Comisiynydd y Gymraeg. Ar-lein (http://www.comisiynyddygymraeg.cymru/Cymraeg/Rhestr%20Cyhoeddiadau/Darlun%20ystadegol%20Cymraeg.pdf)


Copyright Cardiff University. Registered charity no. 1136855