CY1601: Awdur, Testun a Darllenydd
School | Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd |
Department Code | WELSH |
Module Code | CY1601 |
External Subject Code | 101163 |
Number of Credits | 20 |
Level | L4 |
Language of Delivery | Welsh |
Module Leader | Dr Elen Ifan |
Semester | Double Semester |
Academic Year | 2022/3 |
Outline Description of Module
Beth yw llenyddiaeth a beirniadaeth lenyddol? Pa swyddogaeth sydd gan awdur, testun a darllenydd yn y broses o greu, deall a dadansoddi llenyddiaeth? Sut y mae astudio perthynas yr elfennau hyn â’i gilydd yn ein galluogi i ganfod ystyron newydd neu gynnig dehongliadau amgen wrth drafod testunau llenyddol? Dyma rai o’r cwestiynau y byddwn yn eu holi er mwyn dysgu sgiliau beirniadaeth lenyddol a herio ein syniadau a’n rhagdybiaethau am lenyddiaeth.
Bydd y modiwl hwn yn hogi eich dealltwriaeth a’ch gallu academaidd fel y gellwch ymdrin yn ddeallus ac yn feirniadol â llenyddiaeth, ynghyd â chloriannu dadleuon a safbwyntiau amrywiol. Canolbwyntir yn bennaf ar ddarllen a dehongli ystod o weithiau llenyddol er 1900, cyfnod sy’n un o uchafbwyntiau llenyddiaeth y Gymraeg.
On completion of the module a student should be able to
- ymdrin ag ystod o weithiau llenyddol amrywiol yn feirniadol o safbwynt crefft, mynegiant a syniadaeth;
- dangos dealltwriaeth o sut y gall astudio perthynas yr awdur, testun a darllenydd gynhyrchu gwahanol ystyron neu ddehongliadau;
- dadansoddi llenyddiaeth Gymraeg yng nghyd-destun rhai mudiadau, cysyniadau a theorïau beirniadaeth lenyddol, gan ddefnyddio terminoleg addas;
- datblygu dadleuon sy’n seiliedig ar wahanol fathau o ffynonellau cynradd ac eilaidd;
- dangos meistrolaeth ar Gymraeg llafar ac ysgrifenedig safonol wrth gyflwyno gwaith mewn dull proffesiynol.
How the module will be delivered
Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy ddulliau dysgu cyfunol a allai gynnwys cyfuniad o gyflwyniadau ar-lein, gweithdai trafod ar-lein, gweithgareddau dysgu digidol, a sesiynau wyneb-yn-wyneb.
Skills that will be practised and developed
Medrau Academaidd
- cywain gwybodaeth a’i gwerthuso er mwyn dod at gasgliadau addas
- creu dadleuon deallus ar sail ystod o destunau cynradd ac eilaidd
- dangos gwybodaeth addas ynghylch awduron a thestunau o’r cyfnod er 1900 yn bennaf
- hogi sgiliau academaidd drwy elwa ar dderbyn adborth ar waith a datblygu arno
Medrau penodol y pwnc
- dehongli tystiolaeth a thestunau llenyddol yng nghyd-destun cysyniadau neu theorïau beirniadaeth lenyddol
- defnyddio llenyddiaeth feirniadol safonol yn y maes mewn modd dadansoddol
- ymateb yn briodol i’r defnydd o iaith ac o’r dychymyg mewn llenyddiaeth
- meddwl yn hyblyg a gwneud cysylltiadau rhwng gwahanol ffynonellau a meysydd o wybodaeth
Medrau Cyflogadwyedd
- arfer sgiliau wrth ymdrin â thestunau a thystiolaeth ar lafar ac ysgrifenedig
- datblygu hyder wrth gynnull a chyflwyno gwybodaeth yn feirniadol ac yn eglur
- monitro a gwerthuso cynnydd yn nhermau targedau penodol (rheoli amser) drwy lunio asesiadau a chanddynt amserlen benodedig (e.e. cynllunio, drafftio, prawf ddarllen)
- dangos meistrolaeth ar Gymraeg llafar ac ysgrifenedig safonol
How the module will be assessed
Ffurfiannol
Bydd cyfle i gael adborth ar lafar mewn gweithdai trafod a derbyn adborth ar rai tasgau ysgrifenedig. Rhoddir adborth ysgrifenedig fesul unigolyn ar bob un darn o asesu crynodol.
Crynodol
Mae’r darn cyntaf o waith cwrs (dadansoddi testun cynradd hyd at 800 gair) yn meithrin sgiliau cywain gwybodaeth wrth ddehongli testun cynradd yn ei gyd-destun llenyddol, cymdeithasol a syniadol. (Deilliannau 2, 3, 4, 5).
Mae’r prawf dosbarth llafar (ymateb beirniadol i destun(au) eilaidd) yn gofyn i fyfyrwyr ddehongli testun(au) eilaidd, a chymhwyso’r wybodaeth at drafodaeth feirniadol addas mewn cyd-destun llafar gan hogi sgiliau cyfathrebu (Deilliannau 1-5).
Mae’r ail ddarn o waith cwrs (traethawd hyd at 1600 gair) yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymdrin mewn manylder ac mewn modd beirniadol ag agwedd a drafodir ar y modiwl, ynghyd â datblygu sgiliau academaidd megis ymchwilio i dystiolaeth a’i dadansoddi (Deilliannau 1-5). Byddwch yn dilyn camau penodol i gwblhau’r traethawd hwn ac yn derbyn adborth yn ystod y camau hynny.
Assessment Breakdown
Type | % | Title | Duration(hrs) |
---|---|---|---|
Written Assessment | 20 | Dadansoddi Testun Cynradd | N/A |
Oral/Aural Assessment | 30 | Ymateb Yn Feirniadol I Destun(Au) Eilaidd | N/A |
Written Assessment | 50 | Traethawd | N/A |
Syllabus content
Bydd y modiwl yn ymdrin ag agweddau, cysyniadau a theorïau addas, gan gynnwys:
- Awdur, testun a darllenydd a’u perthynas â’i gilydd
- Sgiliau academaidd ymarferol wrth greu beirniadaeth lenyddol
- Theorïau llenyddol, e.e. Rhyddfrydiaeth ddyneiddiol, ôl-foderniaeth a ffeminyddiaeth
- Cymru a chenedlaetholdeb
Gall y beirdd a’r llenorion y byddwn yn eu trafod ar y modiwl gynnwys:
- T. Gwynn Jones; T. H. Parry-Williams, Saunders Lewis, Kate Roberts, Waldo Williams, Islwyn Ffowc Elis,, Gerallt Lloyd Owen, Mihangel Morgan, Menna Elfyn, Angharad Tomos