CY1601: Awdur, Testun a Darllenydd
School | Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd |
Department Code | WELSH |
Module Code | CY1601 |
External Subject Code | 101163 |
Number of Credits | 20 |
Level | L4 |
Language of Delivery | Welsh |
Module Leader | Dr Llion Roberts |
Semester | Double Semester |
Academic Year | 2018/9 |
Outline Description of Module
Beth yw llenyddiaeth a beirniadaeth lenyddol? Pa swyddogaeth sydd gan awdur, testun a darllenydd yn y broses o greu, deall a dadansoddi llenyddiaeth? Sut y mae astudio perthynas yr elfennau hyn â’i gilydd yn ein galluogi i ganfod ystyron newydd neu gynnig dehongliadau amgen wrth drafod testunau llenyddol? Dyma rai o’r cwestiynau y byddwn yn eu holi er mwyn dysgu sgiliau beirniadaeth lenyddol a herio ein syniadau a’n rhagdybiaethau am lenyddiaeth.
Bydd y modiwl hwn yn hogi eich dealltwriaeth a’ch gallu academaidd fel y gellwch ymdrin yn ddeallus ac yn feirniadol â llenyddiaeth, ynghyd â chloriannu dadleuon a safbwyntiau amrywiol. Canolbwyntir yn bennaf ar ddarllen a dehongli ystod o weithiau llenyddol er 1900, cyfnod sy’n un o uchafbwyntiau llenyddiaeth y Gymraeg.
On completion of the module a student should be able to
- ymdrin ag ystod o weithiau llenyddol amrywiol yn feirniadol o safbwynt crefft, mynegiant a syniadaeth
- dangos dealltwriaeth o sut y gall astudio perthynas yr awdur, testun a darllenydd gynhyrchu gwahanol ystyron neu ddehongliadau
- dadansoddi llenyddiaeth Gymraeg yng nghyd-destun rhai mudiadau, cysyniadau a theorïau beirniadaeth lenyddol, gan ddefnyddio terminoleg addas
- datblygu dadleuon sy’n seiliedig ar wahanol fathau o ffynonellau cynradd ac eilaidd
- dangos meistrolaeth ar Gymraeg llafar ac ysgrifenedig safonol wrth gyflwyno gwaith mewn dull proffesiynol.
How the module will be delivered
Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a gweithdai. Mae’r darlithoedd yn gosod canllawiau ac yn trafod prif elfennau’r maes, a’r seminarau a’r gweithdai yn estyn cyfle i drafod, rhyngweithio ac ymarfer ymdrin â thystiolaeth lenyddol yn feirniadol. Bydd deunyddiau electronig yn cefnogi’r dysgu.
Skills that will be practised and developed
Medrau Academaidd
- cywain gwybodaeth a’i gwerthuso er mwyn dod at gasgliadau addas
- creu dadleuon deallus ar sail ystod o destunau cynradd ac eilaidd amrywiol
- dangos gwybodaeth addas ynghylch awduron a thestunau o’r cyfnod er 1900 yn bennaf
- hogi sgiliau academaidd drwy elwa ar dderbyn adborth ar waith a datblygu arno
Medrau penodol y pwnc
- dehongli tystiolaeth a thestunau llenyddol yng nghyd-destun cysyniadau neu theorïau beirniadaeth lenyddol
- defnyddio llenyddiaeth feirniadol safonol yn y maes mewn modd dadansoddol
- ymateb yn briodol i’r defnydd o iaith ac o’r dychymyg mewn llenyddiaeth
- meddwl yn hyblyg a gwneud cysylltiadau rhwng gwahanol ffynonellau a meysydd o wybodaeth
Medrau Cyflogadwyedd
- gweithio mewn grwpiau ac fesul unigolyn wrth ymdrin â thestunau a thystiolaeth ar lafar ac ysgrifenedig
- datblygu hyder wrth gynnull a chyflwyno gwybodaeth yn feirniadol ac yn eglur
- monitro a gwerthuso cynnydd yn nhermau targedau penodol (rheoli amser) drwy lunio traethawd a chanddo amserlen benodedig (e.e. cynllunio, drafftio, prawf ddarllen)
- dangos meistrolaeth ar Gymraeg llafar ac ysgrifenedig safonol
How the module will be assessed
Ffurfiannol
Bydd cyfle i gael adborth ar lafar i drafodaethau yn y dosbarth a rhai tasgau ysgrifenedig. Rhoddir adborth ysgrifenedig fesul unigolyn ar bob un darn o asesu crynodol.
Crynodol
Mae’r darn cyntaf o waith cwrs (traethawd hyd at 2000 gair) yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymdrin mewn manylder ac mewn modd beirniadol ag agwedd a drafodir ar y modiwl, ynghyd â datblygu sgiliau academaidd megis ymchwilio i dystiolaeth a’i dadansoddi (Deilliannau 1-5). Byddwch yn dilyn camau penodol i gwblhau’r traethawd hwn ac yn derbyn adborth yn ystod y camau hynny.
Mae’r cyflwyniad llafar yn hogi sgiliau cyfathrebu, cywain gwybodaeth a datblygu syniadau a dadleuon (Deilliannau 2, 3, 5).
Mae’r ail ddarn o waith cwrs (traethawd hyd at 1200 gair) yn gofyn i fyfyrwyr ddangos dealltwriaeth o rai meysydd a chysyniadau theoretig yr ymdrinnir â hwy yn y modiwl, a chymhwyso’r wybodaeth at drafodaeth destunol a beirniadol addas (Deilliannau 2, 3, 4, 5).
Y math o asesiad % Cyfraniad Teitl Parhad (os yw’n gymwys) Dyddiad yr Asesiad yn fras
Gwaith cwrs 50% Traethawd Hyd at 2000 gair Diwedd Semester 1
Cyflwyniad llafar 20% Cyflwyniad llafar unigol Hyd at 10 munud Semester 2
Gwaith cwrs 30% Traethawd Hyd at 1200 gair Diwedd Semester 2
Y potensial ar gyfer ailasesu yn y modiwl hwn
Fel rheol, bydd cyfle i fyfyrwyr sy’n methu’r modiwl gael eu hailasesu drwy ailgyflwyno neu ailsefyll yr elfen(nau) a fethwyd yn ystod cyfnod arholi’r haf. Fodd bynnag, mae gan Fwrdd Arholi’r BA yr hawl i amrywio’r asesu hwn neu i benderfynu na all myfyriwr penodol ailsefyll.
Assessment Breakdown
Type | % | Title | Duration(hrs) |
---|---|---|---|
Written Assessment | 50 | Traethawd Semester Yr Hydref | N/A |
Presentation | 20 | Cyflwyniad Llafar Unigol | N/A |
Written Assessment | 30 | Traethawd Semester Y Gwanwyn | N/A |
Syllabus content
Bydd y modiwl yn ymdrin ag agweddau, cysyniadau a theorïau addas, gan gynnwys:
- Awdur, testun a darllenydd a’u perthynas â’i gilydd
- Sgiliau academaidd ymarferol wrth greu beirniadaeth lenyddol
- Theorïau llenyddol, e.e. Rhyddfrydiaeth ddyneiddiol, ôl-foderniaeth a ffeminyddiaeth
- Cymru a chenedlaetholdeb
Gall y beirdd a’r llenorion y byddwn yn eu trafod ar y modiwl gynnwys:
T. Gwynn Jones; T. H. Parry-Williams, Saunders Lewis, Kate Roberts, Waldo Williams, Caradog Prichard, Gerallt Lloyd Owen, Mihangel Morgan, Menna Elfyn, Angharad Tomos
Essential Reading and Resource List
Barry, Peter. 2008. Beginning Theory. Manchester: Manchester University Press.
Bevan, Hugh. 1982. Beirniadaeth lenyddol: erthyglau gan Hugh Bevan. gol. Roberts, Brynley F. Caernarfon: Gwasg Pantycelyn.
Jones, John Gwilym. 1977. Swyddogaeth Beirniadaeth. Dinbych: Gwasg Gee.
Marks, Rhiannon. 2013. ‘Pe gallwn, mi luniwn lythyr’: Golwg ar Waith Menna Elfyn. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.
Parry-Williams, T. H. 1965. Elfennau Barddoniaeth, pumed argraffiad. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.
Price, Angharad. 2002. Rhwng Gwyn a Du: Agweddau ar Ryddiaith Gymraeg y 1990au. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.
Rowlands, John gol. 1992. Sglefrio ar Eiriau. Llandysul: Gwasg Gomer.
________. 1993. Ysgrifau ar y Nofel. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.
________ gol. 2000. Y Sêr yn eu Graddau. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.
Thomas, Owen gol. 2006. Llenyddiaeth Mewn Theori. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.