CY1600: Iaith ac Ystyr

School Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
Department Code WELSH
Module Code CY1600
External Subject Code 100333
Number of Credits 20
Level L4
Language of Delivery Welsh
Module Leader Dr Dylan Foster Evans
Semester Double Semester
Academic Year 2022/3

Outline Description of Module

Mae modd dadlau mai iaith yw’r prif beth sy’n gwahaniaethu’r ddynoliaeth oddi wrth yr anifeiliaid eraill. Yn sicr, mae ein bywydau o ddydd i ddydd yn gwbl ddibynnol ar ein gallu i ddefnyddio iaith. Mae deall sut y mae iaith yn gweithio, felly, yn allweddol i’n dealltwriaeth ohonom ni ein hunain. Nod y modiwl hwn yw eich galluogi i astudio iaith—a’r iaith Gymraeg yn benodol—mewn modd a fydd yn agor eich llygaid i’w chyfoeth rhyfeddol. 

Man cychwyn y modiwl fydd ystyried y berthynas rhwng sain, geiriau ac ystyr. Byddwch yn dysgu sut mae dadansoddi a disgrifio iaith gan gynnwys y berthynas rhwng iaith lafar ac iaith ysgrifenedig. Nid yw iaith yn bodoli mewn gwagle, wrth gwrs, ac felly fe gewch gyflwyniad i wahanol ffyrdd o ystyried sut mae gwrandawyr a darllenwyr yn creu ystyr mewn cyd-destunau penodol.

Byddwch hefyd yn dysgu sut mae iaith yn gallu amrywio yn amseryddol, yn ddaearyddol ac yn gymdeithasol. Ar sail hynny byddwch yn dysgu am nodweddion Cymraeg ysgrifenedig safonol, y math o Gymraeg y byddwch yn ei ddefnyddio amlaf yn ystod eich astudiaethau.  

On completion of the module a student should be able to

  1. deall a disgrifio hanfodion gramadeg yr iaith Gymraeg: seiniau, geiriau a brawddegau;  
  2. cynhyrchu gwahanol rannau ymadrodd mewn Cymraeg safonol; 
  3. deall sut gall iaith amrywio yn ôl gwahanol ffactorau amseryddol, cymdeithasol a daearyddol; 
  4. esbonio sut mae gwrandawyr neu ddarllenwyr yn creu ystyr o destunau gwahanol; 
  5. tynnu sylw at rai o’r gwahaniaethau rhwng (i) Cymraeg ysgrifenedig safonol a Chymraeg llafar tafodieithol a (ii) rhwng cystrawen y Gymraeg a’r Saesneg; 
  6. dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol wrth gyflwyno gwaith mewn dull proffesiynol. 

How the module will be delivered

Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy ddulliau dysgu cyfunol a allai gynnwys cyfuniad o gyflwyniadau ar-lein, gweithdai trafod ar-lein, gweithgareddau dysgu digidol, a sesiynau wyneb-yn-wyneb.

Skills that will be practised and developed

Medrau academaidd 

  • Deall strwythurau’r iaith Gymraeg; 
  • Cynhyrchu a disgrifio amrywiaeth o ffurfiau Cymraeg safonol; 
  • Dangos dealltwriaeth o pam y mae ieithoedd yn amrywio; 
  • Dangos dealltwriaeth o sut y mae gwrandawyr a/neu ddarllenwyr yn creu ystyr.    

Medrau penodol y pwnc 

  • Defnyddio cyfeirlyfrau ieithyddol safonol.   

Medrau cyflogadwyedd 

  • Defnyddio Cymraeg ysgrifenedig safonol.

How the module will be assessed

Ffurfiannol 

Bydd cyfle i gael adborth ar dasgau a gwblheir yn y sesiynau dysgu ac yn ystod oriau digyswllt. 

Crynodol 

Asesir y modiwl drwy gyfrwng dau brawf ar-lein. Bydd yr asesiadau hyn yn gofyn ichi ddisgrifio, cynhyrchu a thrafod gwahanol enghreifftiau o Gymraeg ysgrifenedig, gan ganolbwyntio ar Gymraeg safonol (Deilliannau 1-6). 

Assessment Breakdown

Type % Title Duration(hrs)
Autumn Semester Class Test 50 Cyfuniad O Dasgau Amrywiol N/A
Spring Semester Class Test 50 Cyfuniad O Dasgau Amrywiol N/A

Syllabus content

  • Gramadeg Cymraeg safonol; 
  • Amrywio ieithyddol; 
  • Gwahaniaethau pwysig rhwng cystrawen y Gymraeg a’r Saesneg; 
  • Ffurfio ystyr (gan gyflwyno meysydd pragmateg a dadansoddi disgwrs).  

Copyright Cardiff University. Registered charity no. 1136855