CY1600: Iaith ac Ystyr
School | Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd |
Department Code | WELSH |
Module Code | CY1600 |
External Subject Code | 100333 |
Number of Credits | 20 |
Level | L4 |
Language of Delivery | Welsh |
Module Leader | Dr Angharad Naylor |
Semester | Double Semester |
Academic Year | 2020/1 |
Outline Description of Module
Mae modd dadlau mai iaith yw’r prif beth sy’n gwahaniaethu’r ddynoliaeth oddi wrth yr anifeiliaid eraill. Yn sicr, mae ein bywydau o ddydd i ddydd yn gwbl ddibynnol ar ein gallu i ddefnyddio iaith. Mae deall sut y mae iaith yn gweithio, felly, yn allweddol i’n dealltwriaeth ohonom ni ein hunain. Nod y modiwl hwn yw eich galluogi i astudio iaith—a’r iaith Gymraeg yn benodol—mewn modd a fydd yn agor eich llygaid i’w chyfoeth rhyfeddol.
Man cychwyn y modiwl fydd ystyried y berthynas rhwng sain, geiriau ac ystyr. Byddwch yn dysgu sut mae dadansoddi a disgrifio iaith gan gynnwys y berthynas rhwng iaith lafar ac iaith ysgrifenedig. Nid yw iaith yn bodoli mewn gwagle, wrth gwrs, ac felly fe gewch gyflwyniad i wahanol ffyrdd o ystyried sut mae gwrandawyr a darllenwyr yn creu ystyr mewn cyd-destunau penodol.
Byddwch hefyd yn dysgu sut mae iaith yn gallu amrywio yn amseryddol, yn ddaearyddol ac yn gymdeithasol. Ar sail hynny byddwch yn dysgu am nodweddion Cymraeg ysgrifenedig safonol, y math o Gymraeg y byddwch yn ei ddefnyddio amlaf yn ystod eich astudiaethau.
On completion of the module a student should be able to
1. deall a disgrifio hanfodion gramadeg yr iaith Gymraeg: seiniau, geiriau a brawddegau;
2. cynhyrchu gwahanol rannau ymadrodd mewn Cymraeg safonol;
3. deall sut gall iaith amrywio yn ôl gwahanol ffactorau amseryddol, cymdeithasol a daearyddol;
4. esbonio sut mae gwrandawyr neu ddarllenwyr yn creu ystyr o destunau gwahanol;
5. tynnu sylw at rai o’r gwahaniaethau rhwng (i) Cymraeg ysgrifenedig safonol a Chymraeg llafar tafodieithol a (ii) rhwng cystrawen y Gymraeg a’r Saesneg;
6. dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol wrth gyflwyno gwaith mewn dull proffesiynol.
How the module will be delivered
Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy ddulliau dysgu cyfunol a allai gynnwys cyfuniad o gyflwyniadau ar-lein, gweithdai trafod ar-lein, gweithgareddau dysgu digidol, a sesiynau wyneb-yn-wyneb.
Skills that will be practised and developed
Wedi cwblhau’r modiwl, bydd myfyriwr nodweddiadol yn gallu:
Medrau academaidd
- Deall strwythurau’r iaith Gymraeg;
- Cynhyrchu a disgrifio amrywiaeth o ffurfiau Cymraeg safonol;
- Dangos dealltwriaeth o pam y mae ieithoedd yn amrywio;
- Dangos dealltwriaeth o sut y mae gwrandawyr a/neu ddarllenwyr yn creu ystyr.
Medrau penodol y pwnc
- Defnyddio cyfeirlyfrau ieithyddol safonol.
Medrau cyflogadwyedd
- Defnyddio Cymraeg ysgrifenedig safonol.
How the module will be assessed
Ffurfiannol
Bydd cyfle i gael adborth ar dasgau a gwblheir yn y sesiynau dysgu ac yn ystod oriau digyswllt.
Crynodol
Asesir y modiwl drwy gyfrwng dau brawf ar-lein. Bydd yr asesiadau hyn yn gofyn ichi ddisgrifio, cynhyrchu a thrafod gwahanol enghreifftiau o Gymraeg ysgrifenedig, gan ganolbwyntio ar Gymraeg safonol (Deilliannau 1-6).
Y potensial ar gyfer ailasesu yn y modiwl hwn
Fel rheol, bydd cyfle i fyfyrwyr sy’n methu’r modiwl gael eu hailasesu drwy ailgyflwyno neu ailsefyll yr elfen(nau) a fethwyd yn ystod cyfnod arholi’r haf. Fodd bynnag, mae gan Fwrdd Arholi’r BA yr hawl i amrywio’r asesu hwn neu i benderfynu na all myfyriwr penodol ailsefyll.
Assessment Breakdown
Type | % | Title | Duration(hrs) |
---|---|---|---|
Class Test | 50 | Cyfuniad O Dasgau Amrywiol | N/A |
Class Test | 50 | Cyfuniad O Dasgau Amrywiol | N/A |
Syllabus content
- Gramadeg Cymraeg safonol;
- Amrywio ieithyddol;
- Gwahaniaethau pwysig rhwng cystrawen y Gymraeg a’r Saesneg;
- Ffurfio ystyr (gan gyflwyno meysydd pragmateg a dadansoddi disgwrs).
Essential Reading and Resource List
Jones, Bob Morris. 1993. Ar lafar ac ar bapur: cyflwyniad i’r berthynas rhwng yr iaith lafar a’r iaith ysgrifenedig. Aberystwyth: Y Ganolfan Astudiaethau Addysg
Lewis, D. Geraint. 2000. Y Llyfr Berfau. 4ydd argr., Llandysul: Gwasg Gomer
Thomas, Beth a Thomas, Peter Wynn. 1989. Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg... : cyflwyno’r tafodieithoedd. Caerdydd: Gwasg Taf
Thomas, Gwyn. 1977. Ymarfer Ysgrifennu. Abertawe: Christopher Davies
Thomas, Peter Wynn. 1995. Gramadeg y Gymraeg. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
Thorne, D. A. 1985. Cyflwyniad i Astudio’r Gymraeg. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
Uned Iaith Genedlaethol Cymru. 1978. Cyflwyno’r iaith lenyddol. Y Bontfaen: D. Brown a’i feibion
Yule, George. 2014. The Study of Language. 5ed argr., Cambridge: Cambridge University Press