CY1503: Astudio Rhyddiaith
School | Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd |
Department Code | WELSH |
Module Code | CY1503 |
External Subject Code | 100333 |
Number of Credits | 20 |
Level | L4 |
Language of Delivery | Welsh |
Module Leader | Dr Angharad Naylor |
Semester | Spring Semester |
Academic Year | 2015/6 |
Outline Description of Module
Mae’r modiwl hwn yn rhoi’r cyfle ichi ganolbwyntio ar y 3 maes canlynol – darllen a deall rhyddiaith Gymraeg, dadansoddi a dehongli gwahanol destunau, a chywain a chyflwyno gwybodaeth. Cewch gyfle i ddatblygu’r sgiliau hyn trwy astudio enghrefftiau o ryddiaith o wahanol gyfnodau ac wrth ddatblygu eich gwybodaeth am gyd-destunau hanesyddol a diwylliannol penodol sydd wedi effeithio ar y llenyddiaeth. Mae’r modiwl hwn yn datblygu’r un sgiliau â’r modiwl ‘Astudio Barddoniaeth’. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle ichi arddangos hyder cynyddol yn eich defnydd o’r sgiliau newydd ac yn eich gafael ar y Gymraeg.
Yn ystod y modiwl hwn byddwch yn ymgyfarwyddo â sut i ddarllen a deall ystod o destunau llenyddol Cymraeg. Byddwch yn deall cynnwys y gweithiau, y cyd-destun ehangach ynghyd â deall y mynegiant. Bydd hyn yn gymorth ichi ddatblygu eich meistrolaeth ar y Gymraeg yn ogystal â meithrin hyder i ymdrin â gwahanol destunau.
Fe fyddwch yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau dadansoddi a dehongli trwy fanylu ar weithiau penodol. Fe’ch cyflwynir i hanfodion beirniadaeth lenyddol er mwyn rhoi’r sgiliau angenrheidiol ichi ddadansoddi’r gweithiau. Canolbwyntir ar lunio a datblygu syniadau sy’n seiliedig ar wahanol fathau o ffynonellau cynradd ac eilaidd. Bydd disgwyl ichi ymateb ar lafar ac yn ysgrifenedig a bydd hyn yn rhoi’r cyfle ichi feithrin hyder pellach wrth ddefnyddio’r iaith mewn gwahanol gyd-destunau.
Fe’ch cyflwynir i sgiliau ysgrifennu pwysig yn ystod y modiwl a fydd yn eich cynorthwyo i gywain gwybodaeth a’i chyflwyno’n glir ac effeithiol. Defnyddir sesiynau sgiliau i’ch cyflwyno i’r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer cyfansoddi traethodau sy’n dilyn dulliau academaidd cydnabyddedig. Cewch hefyd gyfle i ysgrifennu’n greadigol er mwyn datblygu eich sgiliau ysgrifennu.
Byddwch yn parhau i ddatblygu eich sgiliau iaith Cymraeg trwy weithgareddau llafar ac ysgrifenedig. Byddwch hefyd ac yn parhau i dargedu cywirdeb ieithyddol wrth ddefnyddio’r llenyddiaeth i ddysgu mwy am ramadeg Cymraeg safonol.
On completion of the module a student should be able to
1 darllen a dadansoddi rhyddiaith o wahanol gyfnodau
2 ymateb yn feirniadol i ryddiaith o wahanol gyfnodau
3 adnabod rhai o’r cyd-destunau sydd wedi effeithio ar lenyddiaeth Gymraeg
4 trafod yn hyderus ac yn effeithiol
5 cynllunio a strwythuro traethawd yn effeithiol
6 mynegi eu hunain yn glir ac yn gywir ar lafar ac yn ysgrifenedig
How the module will be delivered
Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy gyfuniad o weithdai, dobsarthiadau darllen a sesiynau sgiliau ynghyd â defnydd o ddeunyddiau electronig. Bydd y gweithdai yn cyflwyno’r cyd-destun perthnasol ac yn eich cyflwyno i hanfodion beirniadaeth lenyddol a damcaniaethau cyffredinol er mwyn rhoi’r arfogaeth ichi ymateb yn feirniadol i weithiau llenyddol a chynnig deongliadau gwahanol.
Bydd y dosbarthiadau darllen yn rhoi cyfle ichi ymgyfarwyddo â thestunau llenyddol. Bydd y sesiynau sgiliau yn eich cyflwyno i’r sgiliau perthnasol ar gyfer llunio traethodau academaidd ynghyd â chanolbwyntio ar gywirdeb ieithyddol wrth ysgrifennu.
Bydd deunyddiau electonig yn cefnogi’r dysgu.
Skills that will be practised and developed
Medrau academaidd
· darllen fersiynau gwreiddiol o’r gweithiau ogystal â diweddariadau
· trafod nodweddion rhyddiaith o wahanol gyfnodau
· rhoi cyfri am y gwahaniaethau rhwng gwahanol fathau o weithiau a rhwng gweithiau o wahanol gyfnodau;
· trafod y gweithiau o safbwynt syniadaeth, crefft a mynegiant
· cynllunio a strwythuro traethawd yn effeithiol;
· dangos cynefindra â llenyddiaeth feirniadol safonol yn y maes
· defnyddio gwahanol fathau o adnoddau academaidd i lunio traethawd
Medrau penodol y pwnc
· ymateb yn eglur ac yn hyderus i destunau llenyddol
· gallu adnabod rhai o’r cyd-destunau sydd wedi dylanwadau ar Gymru a’r Gymraeg
· defnyddio dulliau cydnabyddedig o gyfeirio ac o nodi llyfryddiaeth mewn traethawd.
Medrau cyflogadwyedd
- ysgrifennu traethawd yn effeithiol;
- llunio dogfennau
- creu dadl gytbwys
- gosod targedau penodol drwy lunio traethawd a chanddo amserlen benodedig (e.e. cynllunio, drafftio, prawfddarllen);
- cywain a chyflwyno gwybodaeth yn feirniadol, yn gydlynus ac yn raenus
- dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol
- gweithio’n annibynnol ac fel gr?p
How the module will be assessed
Ffurfiannol
Bydd cyfle i gael adborth cyson ar dasgau a gwblheir yn y dosbarth ac a wneir yn annibynnol. Bydd cyfle i gael adborth fesul unigolyn er mwyn targedu eich anghenion personol.
Crynodol
Asesir y modiwl drwy gyfrwng traethawd ac arholiad. Rhennir y traethawd yn gamau penodol er mwyn rhoi’r cyfle ichi ddatblygu sgiliau ysgrifennu ac i ganolbwyntio ar ddilyn confensiynau academaidd cydnabyddedig.
Assessment Breakdown
Type | % | Title | Duration(hrs) |
---|---|---|---|
Written Assessment | 50 | Astudio Rhyddiaith | N/A |
Exam - Spring Semester | 50 | Astudio Rhyddiaith | 1.5 |
Syllabus content
Blas ar ryddiaith Gymraeg o’r Oesoedd Canol hyd heddiw. Ymdrinnir â themâu gwahanol a manylir ar weithiau rhyddiaithperthnasol o wahanol gyfnodau.
· hanfodion beirniadaeth lenyddol – genres, technegau naratif, cymeriadaeth, themâu, adeiladwaith, perthynas awdur â thestun, iaith a mynegiant
· gosod rhyddiaith o wahanol gyfnodau yng nghyd-destun ffactorau hanesyddol a chymdeithasol y cyfnod
· detholiad o destunau o’r cyfnod cynharaf hyd heddiw
· sgiliau darllen
· dulliau trafod llenyddiaeth
· sgiliau ysgrifennu traethawd
· defnyddio gwahanol fathau o ffynonellau academaidd
· ysgrifennu creadigol
· gloywi iaith
· geirfa
Background Reading and Resource List
BOWEN, Geraint (gol., 1970).Y Traddodiad Rhyddiaith (Llandysul: Gwasg Gomer)
Davies, Sioned. 1995. Crefft y Cyfarwydd: Astudiaeth o dechnegau naratif yn y Mabinogion. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.
Edwards, Hywel Teifi. gol. 2000. A guide to Welsh literature, v, c.1800–1900. Cardiff: University of Wales Press.
Gruffydd, R. Geraint. gol.1997. A guide to Welsh literature, iii, c.1530–1700. Cardiff: University of Wales Press.
Jarman, A. O. H. & Hughes, G. R. goln.1992. A Guide to Welsh Literature i. rev. ed., Cardiff: University of Wales Press
Jarman, A. O. H., Hughes, G. R. & Johnston, D. goln. 1997. A guide to Welsh literature ii. Cardiff: University of Wales Press.
Jarvis, Branwen. gol. 2000. A guide to Welsh literature, iv, c.1700–1800. Cardiff: University of Wales Press.
Johnston, Dafydd. Llyfr Poced: Llenyddiaeth Cymru. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.
Peck, John. 1995 How to Study a Novel. 2nd ed., London: Macmillan Press Ltd
Roberts, David 1997. The Student’s Guide to Writing Essays. London: Kogan Page
ROWLANDS, John. gol. 1992. Sglefrio ar Eiriau. Llandysul: Gwasg Gomer
_________.1993. Ysgrifau ar y Nofel. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
Stephens, Meic. gol. 1996. Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.
Williams, Gerwyn. 1999. Rhyddid y Nofel. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
Williams, Ioan 1984. Y Nofel. Llandysul: Gwasg Gomer.