CY1503: Astudio Rhyddiaith

School Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
Department Code WELSH
Module Code CY1503
External Subject Code 100333
Number of Credits 20
Level L4
Language of Delivery Welsh
Module Leader Dr Angharad Naylor
Semester Spring Semester
Academic Year 2014/5

Outline Description of Module

Mae’r modiwl hwn yn rhoi’r cyfle ichi ganolbwyntio ar y 3 maes canlynol – darllen a deall rhyddiaith Gymraeg, dadansoddi a dehongli gwahanol destunau, a chywain a chyflwyno gwybodaeth. Cewch gyfle i ddatblygu’r sgiliau hyn trwy astudio enghrefftiau o ryddiaith o wahanol gyfnodau ac wrth ddatblygu eich gwybodaeth am gyd-destunau hanesyddol a diwylliannol penodol sydd wedi effeithio ar y llenyddiaeth. Mae’r modiwl hwn yn datblygu’r un sgiliau â’r modiwl ‘Astudio Barddoniaeth’. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle ichi arddangos hyder cynyddol yn eich defnydd o’r sgiliau newydd ac yn eich gafael ar y Gymraeg.

Yn ystod y modiwl hwn byddwch yn ymgyfarwyddo â sut i ddarllen a deall ystod o destunau llenyddol Cymraeg. Byddwch yn deall cynnwys y gweithiau, y cyd-destun ehangach ynghyd â deall y mynegiant. Bydd hyn yn gymorth ichi ddatblygu eich meistrolaeth ar y Gymraeg yn ogystal â meithrin hyder i ymdrin â gwahanol destunau.

Fe fyddwch yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau dadansoddi a dehongli trwy fanylu ar weithiau penodol. Fe’ch cyflwynir i hanfodion beirniadaeth lenyddol er mwyn rhoi’r sgiliau angenrheidiol ichi ddadansoddi’r gweithiau. Canolbwyntir ar lunio a datblygu syniadau sy’n seiliedig ar wahanol fathau o ffynonellau cynradd ac eilaidd. Bydd disgwyl ichi ymateb ar lafar ac yn ysgrifenedig a bydd hyn yn rhoi’r cyfle ichi feithrin hyder pellach wrth ddefnyddio’r iaith mewn gwahanol gyd-destunau.

Fe’ch cyflwynir i sgiliau ysgrifennu pwysig yn ystod y modiwl a fydd yn eich cynorthwyo i gywain gwybodaeth a’i chyflwyno’n glir ac effeithiol. Defnyddir sesiynau sgiliau i’ch cyflwyno i’r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer cyfansoddi traethodau sy’n dilyn dulliau academaidd cydnabyddedig. Cewch hefyd gyfle i ysgrifennu’n greadigol er mwyn datblygu eich sgiliau ysgrifennu.

Byddwch yn parhau i ddatblygu eich sgiliau iaith Cymraeg trwy weithgareddau llafar ac ysgrifenedig. Byddwch hefyd ac yn parhau i dargedu cywirdeb ieithyddol wrth ddefnyddio’r llenyddiaeth i ddysgu mwy am ramadeg Cymraeg safonol.

On completion of the module a student should be able to

1 darllen a dadansoddi rhyddiaith o wahanol gyfnodau

2 ymateb yn feirniadol i ryddiaith o wahanol gyfnodau

3 adnabod rhai o’r cyd-destunau sydd wedi effeithio ar lenyddiaeth Gymraeg

4 trafod yn hyderus ac yn effeithiol

5 cynllunio a strwythuro traethawd yn effeithiol

6 mynegi eu hunain yn glir ac yn gywir ar lafar ac yn ysgrifenedig

How the module will be delivered

Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy gyfuniad o weithdai, dobsarthiadau darllen a sesiynau sgiliau ynghyd â defnydd o ddeunyddiau electronig. Bydd y gweithdai yn cyflwyno’r cyd-destun perthnasol ac yn eich cyflwyno i hanfodion beirniadaeth lenyddol a damcaniaethau cyffredinol er mwyn rhoi’r arfogaeth ichi ymateb yn feirniadol i weithiau llenyddol a chynnig deongliadau gwahanol.

Bydd y dosbarthiadau darllen yn rhoi cyfle ichi ymgyfarwyddo â thestunau llenyddol.  Bydd y sesiynau sgiliau yn eich cyflwyno i’r sgiliau perthnasol ar gyfer llunio traethodau academaidd ynghyd â chanolbwyntio ar gywirdeb ieithyddol wrth ysgrifennu.

Bydd deunyddiau electonig yn cefnogi’r dysgu.

Skills that will be practised and developed

Medrau academaidd

·         darllen fersiynau gwreiddiol o’r gweithiau ogystal â diweddariadau

·         trafod nodweddion rhyddiaith o wahanol gyfnodau

·         rhoi cyfri am y gwahaniaethau rhwng gwahanol fathau o weithiau a rhwng gweithiau o wahanol gyfnodau;

·         trafod y gweithiau o safbwynt syniadaeth, crefft a mynegiant

·         cynllunio a strwythuro traethawd yn effeithiol;

·         dangos cynefindra â llenyddiaeth feirniadol safonol yn y maes

·         defnyddio gwahanol fathau o adnoddau academaidd i lunio traethawd

Medrau penodol y pwnc

·         ymateb yn eglur ac yn hyderus i destunau llenyddol

·         gallu adnabod rhai o’r cyd-destunau sydd wedi dylanwadau ar Gymru a’r Gymraeg

·         defnyddio dulliau cydnabyddedig o gyfeirio ac o nodi llyfryddiaeth mewn traethawd.

Medrau cyflogadwyedd

  • ysgrifennu traethawd yn effeithiol;
  • llunio dogfennau
  • creu dadl gytbwys
  • gosod targedau penodol drwy lunio traethawd a chanddo amserlen benodedig (e.e. cynllunio, drafftio, prawfddarllen);
  • cywain a chyflwyno gwybodaeth yn feirniadol, yn gydlynus ac yn raenus
  • dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol
  • gweithio’n annibynnol ac fel gr?p  

How the module will be assessed

Ffurfiannol

Bydd cyfle i gael adborth cyson ar dasgau a gwblheir yn y dosbarth ac a wneir yn annibynnol. Bydd cyfle i gael adborth fesul unigolyn er mwyn targedu eich anghenion personol.

Crynodol

Asesir y modiwl drwy gyfrwng traethawd ac arholiad. Rhennir y traethawd yn gamau penodol er mwyn rhoi’r cyfle ichi ddatblygu sgiliau ysgrifennu ac i ganolbwyntio ar ddilyn confensiynau academaidd cydnabyddedig. 

Assessment Breakdown

Type % Title Duration(hrs)
Written Assessment 50 Astudio Rhyddiaith N/A
Exam - Spring Semester 50 Astudio Rhyddiaith 1.5

Syllabus content

Blas ar ryddiaith Gymraeg o’r Oesoedd Canol hyd heddiw. Ymdrinnir â themâu gwahanol a manylir ar weithiau rhyddiaithperthnasol o wahanol gyfnodau.

·         hanfodion beirniadaeth lenyddol – genres, technegau naratif, cymeriadaeth, themâu, adeiladwaith, perthynas awdur â thestun, iaith a mynegiant

·         gosod rhyddiaith o wahanol gyfnodau yng nghyd-destun ffactorau hanesyddol a chymdeithasol y cyfnod

·         detholiad o destunau o’r cyfnod cynharaf hyd heddiw

·         sgiliau darllen

·         dulliau trafod llenyddiaeth

·         sgiliau ysgrifennu traethawd

·         defnyddio gwahanol fathau o ffynonellau academaidd

·         ysgrifennu creadigol

·         gloywi iaith

·         geirfa

Background Reading and Resource List

BOWEN, Geraint (gol., 1970).Y Traddodiad Rhyddiaith (Llandysul: Gwasg Gomer)

Davies, Sioned. 1995. Crefft y Cyfarwydd: Astudiaeth o dechnegau naratif yn y Mabinogion. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.

Edwards, Hywel Teifi. gol. 2000. A guide to Welsh literature, v, c.1800–1900. Cardiff: University of Wales Press.

Gruffydd, R. Geraint. gol.1997. A guide to Welsh literature, iii, c.1530–1700. Cardiff: University of Wales Press.

Jarman, A. O. H. & Hughes, G. R. goln.1992. A Guide to Welsh Literature i. rev. ed., Cardiff: University of Wales Press

Jarman, A. O. H., Hughes, G. R. & Johnston, D. goln. 1997. A guide to Welsh literature ii. Cardiff: University of Wales Press.

Jarvis, Branwen. gol. 2000. A guide to Welsh literature, iv, c.1700–1800. Cardiff: University of Wales Press.

Johnston, Dafydd. Llyfr Poced: Llenyddiaeth Cymru. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.

Peck, John. 1995 How to Study a Novel. 2nd ed.,  London: Macmillan Press Ltd

Roberts, David 1997. The Student’s Guide to Writing Essays. London: Kogan Page

ROWLANDS, John. gol. 1992. Sglefrio ar Eiriau. Llandysul: Gwasg Gomer

_________.1993. Ysgrifau ar y Nofel. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru

Stephens, Meic. gol. 1996. Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.

Williams, Gerwyn. 1999. Rhyddid y Nofel. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru

Williams, Ioan 1984. Y Nofel. Llandysul: Gwasg Gomer.


Copyright Cardiff University. Registered charity no. 1136855