CY1502: Astudio Barddoniaeth

School Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
Department Code WELSH
Module Code CY1502
External Subject Code 100333
Number of Credits 20
Level L4
Language of Delivery Welsh
Module Leader Dr Llyr Lewis
Semester Spring Semester
Academic Year 2015/6

Outline Description of Module

Mae’r modiwl hwn yn rhoi’r cyfle ichi ganolbwyntio ar y 3 maes canlynol – darllen a deall barddoniaeth Gymraeg, dadansoddi a dehongli gwahanol gerddi, a chywain a chyflwyno gwybodaeth. Cewch gyfle i ddatblygu’r sgiliau hyn trwy astudio barddoniaeth Gymraeg o wahanol gyfnodau ac wrth ddatblygu eich gwybodaeth am gyd-destunau penodol sydd wedi effeithio ar y farddoniaeth.Mae’r modiwl hwn yn datblygu’r un sgiliau â’r modiwl ‘Astudio Rhyddiaith’. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle ichi arddangos hyder cynyddol yn eich defnydd o’r sgiliau newydd ac yn eich gafael ar y Gymraeg.

Yn ystod y modiwl byddwch yn ymgyfarwyddo â sut i ddarllen a deall barddoniaeth o wahanol gyfnodau. Byddwch yn darllen barddoniaeth trwy gyfrwng diweddariadau a/neu yn y gwreiddiol. Cewch gyfle i feithrin hyder wrth fwrw ati i ddarllen ystod eang o destunau llenyddol yn ogystal â datblygu eich meistrolaeth ar y Gymraeg.

Fe fyddwch yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau dadansoddi a dehongli trwy fanylu ar gerddi penodol. Byddwch yn trafod y farddoniaeth o safbwynt cynnwys a chrefft.  Canolbwyntir ar lunio a datblygu syniadau sy’n seiliedig ar wahanol fathau o ffynonellau cynradd ac eilaidd. Bydd disgwyl ichi ymateb ar lafar ac yn ysgrifenedig a bydd hyn yn rhoi’r cyfle ichi feithrin hyder pellach wrth ddefnyddio’r iaith mewn gwahanol gyd-destunau.

Fe’ch cyflwynir i sgiliau ysgrifennu pwysig yn ystod y modiwl a fydd yn eich cynorthwyo i gywain gwybodaeth a’i chyflwyno’n glir ac effeithiol. Defnyddir sesiynau sgiliau i’ch cyflwyno i’r dulliau angenrheidiol ar gyfer cyfansoddi traethodau sy’n dilyn dulliau academaidd cydnabyddedig.

Byddwch yn parhau i ddatblygu eich sgiliau iaith Cymraeg trwy weithgareddau llafar ac ysgrifenedig ac yn parhau i dargedu cywirdeb ieithyddol wrth ddefnyddio’r llenyddiaeth i ddysgu mwy am ramadeg Cymraeg safonol.

On completion of the module a student should be able to

1 darllen a dadansoddi barddoniaeth o wahanol gyfnodau

2 ymateb yn feirniadol i farddoniaeth o wahanol gyfnodau

3 adnabod rhai o’r cyd-destunau sydd wedi effeithio ar lenyddiaeth Gymraeg

4 trafod yn hyderus ac yn effeithiol

5 cynllunio a strwythuro traethawd yn effeithiol

6 mynegi eu hunain yn glir ac yn gywir ar lafar ac yn ysgrifenedig

How the module will be delivered

Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy gyfuniad o weithdai, dobsarthiadau darllen a sesiynau sgiliau ynghyd â defnydd o ddeunyddiau electronig. Bydd y gweithdai yn cyflwyno’r cyd-destun perthnasol ac yn eich cyflwyno i hanfodion beirniadaeth lenyddol er mwyn rhoi’r arfogaeth ichi ymateb yn feirniadol i weithiau llenyddol.

Bydd y dosbarthiadau darllen yn rhoi cyfle ichi ymgyfarwyddo â thestunau llenyddol.  Bydd y sesiynau sgiliau yn eich cyflwyno i’r sgiliau perthnasol ar gyfer llunio traethodau academaidd ynghyd â chanolbwyntio ar gywirdeb ieithyddol wrth ysgrifennu.

Bydd deunyddiau electonig yn cefnogi’r dysgu.

Skills that will be practised and developed

Medrau academaidd

·         trafod nodweddion barddoniaeth o wahanol gyfnodau

·         trafod cynnwys a chrefft y farddoniaeth

·         cynllunio a strwythuro traethawd yn effeithiol;

·         defnyddio gwahanol fathau o adnoddau academaidd i lunio traethawd

Medrau penodol y pwnc

·         ymateb yn eglur ac yn hyderus i destunau llenyddol

·         gallu adnabod rhai o’r cyd-destunau sydd wedi dylanwadau ar Gymru a’r Gymraeg

·         defnyddio dulliau cydnabyddedig o gyfeirio ac o nodi llyfryddiaeth mewn traethawd.

Medrau cyflogadwyedd

  • ysgrifennu traethawd yn effeithiol
  • llunio dogfennau
  • cyflwyno dadl gytbwys
  • gosod targedau penodol drwy lunio traethawd a chanddo amserlen benodedig (e.e. cynllunio, drafftio, prawfddarllen);
  • cywain a chyflwyno gwybodaeth yn feirniadol, yn gydlynus ac yn raenus
  • dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol.  

How the module will be assessed

Ffurfiannol

Bydd cyfle i gael adborth cyson ar dasgau a gwblheir yn y dosbarth ac a wneir yn annibynnol. Bydd cyfle i gael adborth fesul unigolyn er mwyn targedu eich anghenion personol.

Crynodol

Asesir y modiwl drwy gyfrwng traethawd ac arholiad. Rhennir y traethawd yn gamau penodol er mwyn rhoi’r cyfle ichi ddatblygu sgiliau ysgrifennu ac i ganolbwyntio ar ddilyn confensiynau academaidd cydnabyddedig. 

Assessment Breakdown

Type % Title Duration(hrs)
Written Assessment 50 Astudio Barddoniaeth N/A
Exam - Spring Semester 50 Astudio Barddoniaeth 1.5

Syllabus content

·         hanfodion beirniadaeth lenyddol – genres amrywiol, ffurf a chynnwys, technegau arddull, syniadaeth, iaith a mynegiant

·          ymateb i destunau barddonol rhydd a chynganeddol

·         astudiaeth o farddoniaeth o’r cyfnod cynharaf hyd heddiw

·         gosod barddoniaeth o wahanol gyfnodau yng nghyd-destun ffactorau hanesyddol a chymdeithasol y cyfnod

·         dulliau trafod llenyddiaeth

·         sgiliau darllen

·         sgiliau ysgrifennu traethawd

·         defnyddio gwahanol fathau o ffynonellau academaidd

·         gloywi iaith

·         geirfa

Background Reading and Resource List

Ap Dafydd, Myrddin & Llwyd, Iwan. 2002. Mae’n gêm o ddau fileniwm: cyflwyno beridd a barddoniaeth. Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch

Edwards, Hywel Teifi. gol. 2000. A guide to Welsh literature, v, c.1800–1900. Cardiff: University of Wales Press.

Gwilym, Gwynn ap a Llwyd, Alan. goln. 1987. Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif. Llandysul: Gwasg Gomer.

Gruffydd, R. Geraint (1997, gol.). A guide to Welsh literature, iii, c.1530–1700. Cardiff: University of Wales Press.

Jarman, A. O. H. & HUGHES, G. R. (1992, goln). A Guide to Welsh Literature i. rev. ed., Cardiff: University of Wales Press

Jarman, A. O. H., HUGHES, G. R. & JOHNSTON, D. (1997, goln). A guide to Welsh literature ii. Cardiff: University of Wales Press.

Jarvis, Branwen (2000, gol.). A guide to Welsh literature, iv, c.1700–1800. Cardiff: University of Wales Press.

Johnston, Dafydd. 2005. Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300–1525. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru

_________. 1999. Llyfr Poced: Llenyddiaeth Cymru. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.

Llwyd, Alan. 1997. Y Grefft o Greu: Ysgrifau ar Feirdd a Barddoniaeth. Cyhoeddiadau Barddas.

Roberts, David 1997. The Student’s Guide to Writing Essays. London: Kogan Page

Stephens, Meic. gol. 1996. Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.


Copyright Cardiff University. Registered charity no. 1136855