CY1501: Defnyddio'r Gymraeg

School Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
Department Code WELSH
Module Code CY1501
External Subject Code 100333
Number of Credits 20
Level L4
Language of Delivery Welsh
Module Leader Dr Angharad Naylor
Semester Autumn Semester
Academic Year 2015/6

Outline Description of Module

Prif nod y modiwl hwn yw rhoi’r cyfle ichi ddatblygu eich meistrolaeth ar Gymraeg llafar ac ysgrifenedig. Mae’r modiwl yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu, darllen a deall yn benodol. Byddwch hefyd yn parhau i ddatblygu eich gafael ar Gymraeg llafar gan feithrin hyder pellach i ddefnyddio’r iaith mewn gwahanol gyd-destunau.

Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu yn y Gymraeg. Byddwch yn dysgu am gywirdeb ieithyddol ac am gyweiriau penodol. Cewch gyfle i atgyfnerthu a datblygu eich gwybodaeth am ramadeg y Gymraeg er mwyn cynhyrchu darnau ysgrifenedig clir a chywir. Fe’ch cyflwynir i gyweiriau iaith  perthnasol er mwyn rhoi’r arfogaeth ichi ysgrifennu yn effeithiol a chynhyrchu dogfennau clir a phwrpasol.

Byddwch yn parhau i ddatblygu eich sgiliau llafar yn ystod y modiwl. Cewch gyfle i feithrin hyder pellach wrth ddefnyddio’r iaith mewn cyd-destunau anffurfiol ond hefyd wrth gyflwyno gwybodaeth mewn cyd-destunau mwy ffurfiol, mewn seminar er enghraifft.

Mae’r gallu i fynegi eich hun yn glir ac yn gywir yn sgil pwysig ar gyfer cynhyrchu dogfennau ysgrifenedig perthnasol ar eich cwrs gradd ac ar gyfer y gweithle. Bydd y modiwl hwn yn eich cynorthwyo i gyrraedd y nod hwnnw ac yn parhau i feithrin eich hyder wrth ddefnyddio’r iaith.

On completion of the module a student should be able to

1     ysgrifennu’n glir ac yn effeithiol

2     deall rhai o brif reolau gramadegol yr iaith

3     cymhwyso gwybodaeth ramadegol i’w hiaith ysgrifenedig

4     darllen gwahanol destunau ac ymateb iddynt yn briodol, ar lafar ac yn ysgrifenedig

5     defnyddio’r Gymraeg yn hyderus ar lafar mewn sefyllfaoedd gwahanol 

How the module will be delivered

Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy gyfuniad o weithdai iaith, gweithdai ysgrifennu a sesiynau trafod ynghyd â defnydd o ddeunyddiau electronig. Bydd y gweithdai iaith yn cyflwyno rhai o brif egwyddorion gramadeg Cymraeg safonol er mwyn rhoi’r arfogaeth ichi gynhyrchu darnau ysgrifenedig clir a phwrpasol. Rhoddir cyngor ac adborth ar eich gwaith yn ystod y gweithdai ysgrifennu. Bydd y sesiynau trafod yn rhoi cyfle ichi ddatblygu eich sgiliau llafar mewn cyd-destunau ffurfiol ac anffurfiol. Bydd deunyddiau electronig yn cefnogi’r dysgu.

Skills that will be practised and developed

Wedi cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr nodweddiadol yn gallu:

Medrau academaidd

·         dadansoddi iaith

·         deall rhai o brif egwyddorion gramadeg Cymraeg safonol

·         adnabod mathau gwahanol o gyweiriau iaith

Medrau penodol y pwnc

·         defnyddio cyfeirlyfrau ieithyddol a phecynnau meddalwedd electronig i’w cynorthwyo i loywi eu hiaith.

·         arddangos hyder cynyddol yn eu meistrolaeth ar Gymraeg llafar.

Medrau cyflogadwyedd

·         gallu cyfathrebu’n hyderus yn y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig

·         gallu llunio dogfennau ysgrifenedig clir a phwrpasol

·         gallu ymateb i wahanol sefyllfaoedd

·         defnyddio offer cywiro iaith ar y cyfrifiadur i loywi iaith 

How the module will be assessed

Ffurfiannol

Bydd cyfle i gael adborth cyson ar dasgau a gwblheir yn y dosbarth ac a wneir yn annibynnol. Bydd cyfle i gael adborth llafar fesul unigolyn er mwyn targedu eich anghenion personol.

Crynodol

Asesir y modiwl drwy gyfrwng profion dosbarth a ffolio o waith. Bydd y profion dosbarth yn gofyn ichi ymateb ar lafar i wahanol gyd-destunau a bydd y ffolio yn gofyn ichi gwblhau ymarferion gramadegol, cymhwyso’r rheolau gramadegol i’ch iaith lafar drwy gyfrwng sgwrs, gwerthuso eich cynnydd a gosod targedau ar gyfer y dyfodol. 

Assessment Breakdown

Type % Title Duration(hrs)
Portfolio 60 Defnyddio’R Gymraeg N/A
Exam - Autumn Semester 20 Defnyddio’R Gymraeg 1.5
Oral/Aural Assessment 20 Defnyddio’R Gymraeg N/A

Syllabus content

·         cyflwyniad i batrymau ysgrifenedig cywir

·         cywain gwybodaeth ar gyfer llunio gwahanol ddarnau ysgrifenedig

·         ymarferion ysgrifenedig

·         ymarferion llafar, gwrando a deall

·         cyweiriau iaith

·         geirfa

·         sut i loywi eich iaith ysgrifenedig

·         cymhorthion gloywi electronig – CySill

·         ymarferion gramadegol electronig

Background Reading and Resource List

GRIFFITHS, gyda JONES, Dafydd Glyn. gol. 1995 (ac argraffiadau diweddarach). Geiriadur yr Academi. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru

IFANS, Rhiannon. 2006.Y Golygiadur. Aberystwyth:Cymdeithas Lyfrau Ceredigion

LEWIS, D. Geraint. 1998. Y Treigladur. 3ydd argr., Llandysul: Gwasg Gomer

—   2000. Y Llyfr Berfau. 4ydd argr., Llandysul: Gwasg Gomer

—   2000. Pa Arddodiad?. Llandysul: Gwasg Gomer

THOMAS, Peter Wynn. 1996. Gramadeg y Gymraeg.Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru


Copyright Cardiff University. Registered charity no. 1136855