CY1501: Defnyddio'r Gymraeg
School | Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd |
Department Code | WELSH |
Module Code | CY1501 |
External Subject Code | 100333 |
Number of Credits | 20 |
Level | L4 |
Language of Delivery | Welsh |
Module Leader | Dr Angharad Naylor |
Semester | Autumn Semester |
Academic Year | 2014/5 |
Outline Description of Module
Prif nod y modiwl hwn yw rhoi’r cyfle ichi ddatblygu eich meistrolaeth ar Gymraeg llafar ac ysgrifenedig. Mae’r modiwl yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu, darllen a deall yn benodol. Byddwch hefyd yn parhau i ddatblygu eich gafael ar Gymraeg llafar gan feithrin hyder pellach i ddefnyddio’r iaith mewn gwahanol gyd-destunau.
Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu yn y Gymraeg. Byddwch yn dysgu am gywirdeb ieithyddol ac am gyweiriau penodol. Cewch gyfle i atgyfnerthu a datblygu eich gwybodaeth am ramadeg y Gymraeg er mwyn cynhyrchu darnau ysgrifenedig clir a chywir. Fe’ch cyflwynir i gyweiriau iaith perthnasol er mwyn rhoi’r arfogaeth ichi ysgrifennu yn effeithiol a chynhyrchu dogfennau clir a phwrpasol.
Byddwch yn parhau i ddatblygu eich sgiliau llafar yn ystod y modiwl. Cewch gyfle i feithrin hyder pellach wrth ddefnyddio’r iaith mewn cyd-destunau anffurfiol ond hefyd wrth gyflwyno gwybodaeth mewn cyd-destunau mwy ffurfiol, mewn seminar er enghraifft.
Mae’r gallu i fynegi eich hun yn glir ac yn gywir yn sgil pwysig ar gyfer cynhyrchu dogfennau ysgrifenedig perthnasol ar eich cwrs gradd ac ar gyfer y gweithle. Bydd y modiwl hwn yn eich cynorthwyo i gyrraedd y nod hwnnw ac yn parhau i feithrin eich hyder wrth ddefnyddio’r iaith.
On completion of the module a student should be able to
1 ysgrifennu’n glir ac yn effeithiol
2 deall rhai o brif reolau gramadegol yr iaith
3 cymhwyso gwybodaeth ramadegol i’w hiaith ysgrifenedig
4 darllen gwahanol destunau ac ymateb iddynt yn briodol, ar lafar ac yn ysgrifenedig
5 defnyddio’r Gymraeg yn hyderus ar lafar mewn sefyllfaoedd gwahanol
How the module will be delivered
Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy gyfuniad o weithdai iaith, gweithdai ysgrifennu a sesiynau trafod ynghyd â defnydd o ddeunyddiau electronig. Bydd y gweithdai iaith yn cyflwyno rhai o brif egwyddorion gramadeg Cymraeg safonol er mwyn rhoi’r arfogaeth ichi gynhyrchu darnau ysgrifenedig clir a phwrpasol. Rhoddir cyngor ac adborth ar eich gwaith yn ystod y gweithdai ysgrifennu. Bydd y sesiynau trafod yn rhoi cyfle ichi ddatblygu eich sgiliau llafar mewn cyd-destunau ffurfiol ac anffurfiol. Bydd deunyddiau electronig yn cefnogi’r dysgu.
Skills that will be practised and developed
Wedi cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr nodweddiadol yn gallu:
Medrau academaidd
· dadansoddi iaith
· deall rhai o brif egwyddorion gramadeg Cymraeg safonol
· adnabod mathau gwahanol o gyweiriau iaith
Medrau penodol y pwnc
· defnyddio cyfeirlyfrau ieithyddol a phecynnau meddalwedd electronig i’w cynorthwyo i loywi eu hiaith.
· arddangos hyder cynyddol yn eu meistrolaeth ar Gymraeg llafar.
Medrau cyflogadwyedd
· gallu cyfathrebu’n hyderus yn y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig
· gallu llunio dogfennau ysgrifenedig clir a phwrpasol
· gallu ymateb i wahanol sefyllfaoedd
· defnyddio offer cywiro iaith ar y cyfrifiadur i loywi iaith
How the module will be assessed
Ffurfiannol
Bydd cyfle i gael adborth cyson ar dasgau a gwblheir yn y dosbarth ac a wneir yn annibynnol. Bydd cyfle i gael adborth llafar fesul unigolyn er mwyn targedu eich anghenion personol.
Crynodol
Asesir y modiwl drwy gyfrwng profion dosbarth a ffolio o waith. Bydd y profion dosbarth yn gofyn ichi ymateb ar lafar i wahanol gyd-destunau a bydd y ffolio yn gofyn ichi gwblhau ymarferion gramadegol, cymhwyso’r rheolau gramadegol i’ch iaith lafar drwy gyfrwng sgwrs, gwerthuso eich cynnydd a gosod targedau ar gyfer y dyfodol.
Assessment Breakdown
Type | % | Title | Duration(hrs) |
---|---|---|---|
Portfolio | 60 | Defnyddio’R Gymraeg | N/A |
Class Test | 20 | Defnyddio’R Gymraeg | N/A |
Oral/Aural Assessment | 20 | Defnyddio’R Gymraeg | N/A |
Syllabus content
· cyflwyniad i batrymau ysgrifenedig cywir
· cywain gwybodaeth ar gyfer llunio gwahanol ddarnau ysgrifenedig
· ymarferion ysgrifenedig
· ymarferion llafar, gwrando a deall
· cyweiriau iaith
· geirfa
· sut i loywi eich iaith ysgrifenedig
· cymhorthion gloywi electronig – CySill
· ymarferion gramadegol electronig
Background Reading and Resource List
GRIFFITHS, gyda JONES, Dafydd Glyn. gol. 1995 (ac argraffiadau diweddarach). Geiriadur yr Academi. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
IFANS, Rhiannon. 2006.Y Golygiadur. Aberystwyth:Cymdeithas Lyfrau Ceredigion
LEWIS, D. Geraint. 1998. Y Treigladur. 3ydd argr., Llandysul: Gwasg Gomer
— 2000. Y Llyfr Berfau. 4ydd argr., Llandysul: Gwasg Gomer
— 2000. Pa Arddodiad?. Llandysul: Gwasg Gomer
THOMAS, Peter Wynn. 1996. Gramadeg y Gymraeg.Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru