CY1500: Sgiliau llafar

School Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
Department Code WELSH
Module Code CY1500
External Subject Code 100333
Number of Credits 20
Level L4
Language of Delivery Welsh
Module Leader Dr Angharad Naylor
Semester Autumn Semester
Academic Year 2015/6

Outline Description of Module

Prif nod y modiwl hwn yw rhoi’r cyfle ichi ddatblygu eich rhuglder yn y Gymraeg a meithrin hyder i’w defnyddio mewn gwahanol sefyllfaoedd. Er mwyn gwneud hyn, mae’r modiwl yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau llafar, gwrando a deall yn benodol. Cewch hefyd gyfle i ddarllen ac ymateb i wahanol destunau cyfrwng Cymraeg er mwyn meithrin hyder i ddefnyddio’r iaith mewn gwahanol gyd-destunau.

Byddwch yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau cyfathrebu drwy ganolbwyntio ar ddefnyddio’r Gymraeg ar lafar mewn gwahanol sefyllfaoedd. Byddwch yn datblygu eich geirfa ynghyd â’ch gafael ar batrymau llafar. Bydd disgwyl ichi ymateb ar lafar i sefyllfaoedd gwahanol drwy gyfrwng gweithgareddau llafar, ymarferion gwrando a deall a rhyngweithio cyson gyda thiwtoriaid a’ch cyd-fyfyrwyr. Bydd hyn yn rhoi’r arfogaeth ichi ddefnyddio’r iaith yn hyderus.

Bydd y modiwl yn cyflwyno rhai o brif egwyddorion gramadeg y Gymraeg yn ogystal  er mwyn ichi ddatblygu eich meistrolaeth ar yr iaith. Byddwch yn derbyn adborth cyson a sylw unigol yn ystod y modiwl er mwyn targedu elfennau gramadegol penodol sy’n effeithio ar gywirdeb. Bydd y modiwl yn eich paratoi ar gyfer adnabod eich gwallau personol ac yn rhoi arweiniad ichi ynghylch sut i’w cywiro. Bydd y gallu i gymhwyso’r wybodaeth hon i’ch iaith lafar yn gymorth mawr ichi wrth loywi eich iaith eich hun ac wrth feithrin eich hyder i ddefnyddio’r iaith.

Mae’r gallu i gyfathrebu’n glir ac yn hyderus yn y Gymraeg yn sgil pwysig ar gyfer eich cwrs gradd ac ar gyfer y gweithle ynghyd â defnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destunau cymdeithasol. Bydd y modiwl hwn yn eich cynorthwyo i gyrraedd y nod hwnnw.

On completion of the module a student should be able to

1     cyfathrebu'n effeithiol ac yn glir ar lafar

2     defnyddio’r Gymraeg yn hyderus ar lafar mewn sefyllfaoedd gwahanol

3     ymateb yn hyderus ac yn glir i wahanol sefyllfaoedd trwy wrando a deall, a darllen a deall

4     deall rhai o brif reolau gramadegol y Gymraeg a’u cymhwyso 

How the module will be delivered

Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy gyfuniad o weithdai iaith, sesiynau trafod ynghyd â defnydd o ddeunyddiau electronig. Bydd y gweithdai iaith yn cyflwyno patrymau llafar defnyddiol, geirfa ddefnyddiol a gramadeg yr iaith a bydd y sesiynau trafod yn rhoi cyfle i ddatblygu sgiliau llafar, rhyngweithio yn y Gymraeg a chymhwyso gwybodaeth. Bydd deunyddiau electronig yn cefnogi’r dysgu.

Skills that will be practised and developed

Medrau academaidd

·         arddangos sgiliau da wrth ymateb ar lafar i wahanol sefyllfaoedd

Medrau penodol y pwnc

·         defnyddio cyfeirlyfrau ieithyddol a phecynnau meddalwedd electronig i’w cynorthwyo i loywi eu hiaith.

·         arddangos hyder cynyddol yn eu meistrolaeth ar Gymraeg llafar.

Medrau cyflogadwyedd

·         gallu cyfathrebu’n hyderus yn y Gymraeg

·         gallu cyfathrebu’n effeithiol mewn gr?p

·         gallu ymateb i wahanol sefyllfaoedd

·         defnyddio offer cywiro iaith electronig i loywi iaith 

How the module will be assessed

Ffurfiannol

Bydd cyfle i gael adborth cyson ar dasgau a gwblheir yn y dosbarth ac a wneir yn annibynnol. Bydd cyfle i gael adborth llafar fesul unigolyn er mwyn targedu eich anghenion personol.

Crynodol

Asesir y modiwl drwy gyfrwng profion dosbarth a ffolio o waith. Bydd y profion dosbarth yn gofyn ichi ymateb ar lafar i wahanol gyd-destunau a bydd y ffolio yn gofyn ichi gwblhau ymarferion gramadegol, cymhwyso’r rheolau gramadegol i’ch iaith lafar drwy gyfrwng sgwrs, gwerthuso eich cynnydd a gosod targedau ar gyfer y dyfodol. 

Assessment Breakdown

Type % Title Duration(hrs)
Class Test 60 Sgiliau Llafar N/A
Portfolio 40 Sgiliau Llafar N/A

Syllabus content

·         cyflwyniad i batrymau llafar cywir

·         geirfa berthnasol ar gyfer gwahanol gyd-destunau

·         ymarferion llafar

·         geirfa

·         gweithgareddau gwrando a deall

·         cyflwyniad i brif egwyddorion gramadeg y Gymraeg

·         ymarferion gramadegol electronig

Background Reading and Resource List

GRIFFITHS, gyda JONES, Dafydd Glyn. gol. 1995 (ac argraffiadau diweddarach). Geiriadur yr Academi. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru

IFANS, Rhiannon. 2006.Y Golygiadur. Aberystwyth:Cymdeithas Lyfrau Ceredigion

LEWIS, D. Geraint. 1998. Y Treigladur. 3ydd argr., Llandysul: Gwasg Gomer

—   2000. Y Llyfr Berfau. 4ydd argr., Llandysul: Gwasg Gomer

—   2000. Pa Arddodiad?. Llandysul: Gwasg Gomer

THOMAS, Peter Wynn. 1996. Gramadeg y Gymraeg.Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru


Copyright Cardiff University. Registered charity no. 1136855